Mae’r ‘Caeau Canmlwyddiant’ yn fenter gan Feysydd Chwarae Cymru mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig, sy’n annog perchnogion tir ledled y DU i amddiffyn mannau gwyrdd sy’n cynnwys cofeb ryfel sydd yn gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn
amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus a fydd ar agor tan 8 Mawrth, bydd y Cyngor yn
mynd i gytundeb cyfreithiol a fydd yn golygu y bydd Gerddi Alexandra, cartref
Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru, a Gerddi’r Grange, safle Cofeb Arwyr Rhyfel
Grangetown, yn dod yn ‘Gaeau Canmlwyddiant’.
Bydd cytundeb ‘Gweithred Ddiofryd’ yn golygu y byddai’n rhaid i Feysydd Chwarae Cymru – sefydliad elusennol sydd â’r nod o warchod a hyrwyddo parciau a mannau gwyrdd - roi eu caniatâd ar gyfer unrhyw ddatblygiadau ar y tir yn y dyfodol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae gan Gaerdydd fwy o ofod gwyrdd fesul y pen nag unrhyw ddinas graidd arall yn y DU ac rydym yn benderfynol y byddant yn cael eu gwarchod er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu defnyddio a’u mwynhau.”
“Mae nifer o barciau’r ddinas eisoes wedi eu diogelu, gan gynnwys Cae Hamdden y Rhath, Parc Moorland yn Sblot, Caeau Pontcanna a Pharc Llanisien a thrwy ychwanegu Gerddi Alexandra a Gerddi’r Grange at y rhestr rydym yn atgyfnerthu eu pwysigrwydd hanesyddol yn ogystal â’u defnydd amhrisiadwy fel asedau cymunedol.
“Yn bwysig, bydd hyn hefyd yn sefydlu'r
parciau fel safleoedd i'w cofio, gan gydnabod arwyddocâd y rheini o gymunedau
lleol a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro."
Dadorchuddiwyd y Gofeb Ryfel Genedlaethol gan Dywysog Cymru yng Ngerddi Alexander yn 1928 ac mae'n coffáu'r milwyr hynny a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys plac coffa ar gyfer y rhai a gollodd eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd.
Dadorchuddiwyd Cofeb Arwyr Rhyfel Grangetown yng Ngerddi’r Grange ar 7 Gorffennaf 1921. Wedi ei gomisiynu ar gost o £1000 mae’n cynnwys enwau trigolion lleol a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal ag enwau aelodau’r pwyllgor a sefydlwyd i godi arian ar gyfer ei godi.
Dwedodd cadeirydd Meysydd Chwarae Cymru, Brynmor Williams:“Rydym yn gwybod bod parciau a mannau gwyrdd o fudd i iechyd a lles pobl ar hyd a lled Cymru.Mae’r dystiolaeth bellach yn eglur: mae mannau gwyrddion yn dda, yn gwneud daioni ac mae angen eu gwarchod am byth, felly rydym wrth ein bodd bod Cyngor Caerdydd yn diogelu Gerddi Alexander a Gerddi’r Grange fel Caeau Canmlwyddiant, i gofio canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn i drigolion lleol gael eu defnyddio i chwarae, ar gyfer campau neu er mwyn hamddena a hynny am byth.Mae Meysydd Chwarae Cymru wedi ymrwymo i warchod mwy o fannau gwyrddion, fel y gall pobl o bob cwr o Gymru nawr ac yn y dyfodol, barhau i allu manteisio arnyn nhw.”
Drwy
fynd i Weithred Ddiofryd mae’r Cyngor i bob pwrpas yn “gwaredu” y tir o dan
Adran 123 Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn mynnu bod y
Cyngor yn hysbysu ei fwriadau ac yn ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan y
cyhoedd wrth gyrraedd penderfyniad terfynol.
Mae
Parc y Mynydd Bychan, Caeau Pontprennau, Man Agored Hywel Dda a Pharc
Tredelerch hefyd wedi eu gwarchod gan Feysydd Chwarae Cymru.
I
gael gwybod rhagor am Feysydd Chwarae Cymru, ewch i: http://www.fieldsintrust.org/