Back
Bws Caerdydd yn penodi cyfarwyddwyr anweithredol


Mae dau gyfarwyddwr anweithredol wedi eu penodi i fwrdd Bws Caerdydd a byddant yn cychwyn ar eu gwaith yr wythnos hon.

 

Cafodd Sian Davies a Linda Phillips eu penodi i'r bwrdd yn dilyn proses recriwtio a gynhaliwyd gan Gyngor Caerdydd, unig gyfranddaliwr Bws Caerdydd, sy'n gwmni hyd braich.

 

Mae gan y cyfarwyddwyr newydd brofiad rheoli helaeth a byddan nhw'n dod â sgiliau eang a gwerth chweil i'r bwrdd, gan gynnwys logisteg trafnidiaeth, rheoli strategol, cyllid corfforaethol a rheoli cyllid.

 

Mae gan Sian Davis dros 20 mlynedd o brofiad o reoli strategol a datblygu polisi a hi oedd rheolwr gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg tan iddi ymddeol yn 2015.

 

Bu Linda Philips, cymrawd gyda Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth, yn uwch swyddog gweithredol gyda Shell International Petroleum, tan ei hymddeoliad yn 2016. Mae Linda yn gadeirydd pwyllgor llywodraethiant Prifysgol Caerdydd ac fe'i penodwyd yn ddiweddar i lys llywodraethwyr Prifysgol Westminster. Mae hefyd yn ymddiriedolwraig i'r Cyngor Ymgynghori Seneddol ar ddiogelwch Trafnidiaeth.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyng Chris Weaver:"Rwyf wrth fy modd yn penodi Sian a Linda'n gyfarwyddwyr anweithredol i'r bwrdd. Bydd eu sgiliau a'u profiad o gymorth mawr i Fws Caerdydd wrth adeiladu at y dyfodol. Mae'n gyfnod pwysig ar drafnidiaeth gyhoeddus ledled y DU. Bu gostyngiad o 90 miliwn yn nifer siwrneiau bws Gwledydd Prydain yn 2017/18. Yng Nghymru, bu cwymp o 267,000.

 

"Felly mae yna broblemau sydd angen mynd i'r afael â nhw os ydym am gael y system drafnidiaeth gyhoeddus y mae'r cyhoedd yn ei ddymuno. Rydym yn gwybod bod bysus yn bwysig iawn i breswylwyr ac economïau lleol a'n bwriad yw eu diogelu lle bynnag y gallwn. I wneud hynny, mae angen i ni wybod bod gan Fws Caerdydd y bobl orau yn eu lle i sicrhau bod y penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud ar gyfer y busnes. Mae Linda a Sian yn awyddus iawn i gychwyn arni, ac fe ddôn nhw ag ysgogiad newydd i'r cwmni wrth i ni geisio gwella Bws Caerdydd a sicrhau ei fod yn y sefyllfa orau i ymateb i'r heriau sydd o'i flaen."