Back
Prif Weinidog Cymru yn ymweld ag Ysgol Gynradd Kitchener ar gyfer dathliadau ymddeoliad arbennig

Yr wythnos diwethaf daeth ymwelydd arbennig i Ysgol Gynradd Kitchener, sef Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anhr.Mark Drakeford, i ddathlu ymddeoliad Mrs Dianne Allsopp, Goruchwylydd Amser Cinio sydd wedi troi'n 80 oed.

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i ddathlu'r 40 mlynedd y bu Mrs Allsopp yn gweithio yn yr ysgol, ond hefyd i bwysleisio mai disgybl Ysgol Gynradd Kitchener oedd hi ei hun gan ddechrau yn ôl yn 1938.

Dywedodd Mrs Allsopp:"Pan ddechreuais i yn yr ysgol, roedd cymunedau Treganna a Glan-yr-Afon yn agos iawn - roedd pawb yn adnabod ei gilydd.Roedd y ffrindiau byddet ti'n eu gwneud yn yr ysgol fabanod yn aros yn ffrindiau drwy gydol yr ysgol a thu hwnt.

"Rwy'n cofio bod ceffyl siglo hyfryd yn yr ysgol - roedd hi'n costio ceiniog i gael tro ac roedd yr ystafelloedd dosbarth yn hyfryd a chynnes - tân glo ym mhob un ohonyn nhw.Roedd dydd Gwener yn ddiwrnod gwych bob tro fel bydden ni'n cael dod â rhaff sgipio a pheli o gartref."

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Kitchener, Mrs Ruth Jackson:"Yn ystod ei blynyddoedd yn ddisgybl yr ysgol, bu Mrs Allsopp yn Brif Ferch - cyflawniad enfawr, ac roedd ei dawn arwain yn amlwg ers iddi ddychwelyd i'r ysgol yn ôl yn 1978 fel Goruchwylydd Amser Cinio.

"Yn ei 40 blynedd yn gweithio i'r ysgol, mae Mrs Allsopp wedi bod yn aelod staff hynod garedig, hwyliog ac ymroddgar.Mae hi wedi helpu dros 10,000 o blant gael amser cinio hapus iawn.

"Ar ran pawb yn yr ysgol, yn y gorffennol a heddiw, hoffwn ddiolch i Mrs Allsopp am ei hymroddiad, ei chefnogaeth ac yn fwy nag unrhyw beth arall am eu natur hwyliog.Byddwn ni'n gweld eisiau ei gwên arbennig."

"Mae Ysgol Kitchener wedi bod yn rhan fawr o fywyd Mrs Allsopp ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn am ei charedigrwydd a'i hymroddiad i'r plant."

Nododd y dathliadau hefyd ymddeoliad dau lywodraethwr ysgol, Mr Khalid Abdo a Mr Jaswant Singh, sydd wedi bod yn llywodraethwyr yn yr ysgol am fwy na 50 mlynedd rhyngddynt.

Disgrifiodd Mr Alan Evans, Cadeirydd y Llywodraethwyr y ffordd yr oedd Mr Singh a Mr Abdo yn cefnogi ac yn herio'r ysgol ar brydiau er mwyn iddi fod yr orau ag y gallai. Daeth Mr Singh i Gymru o Lahore, India, a daeth Mr Abdo o Aden.Ymgartrefodd y ddau ddyn yng nghymuned Glan-yr-Afon a bu ganddynt gysylltiadau a'r ysgol drwy eu teuluoedd eu hunain, sy'n parhau hyd heddiw.