Back
Gwerthu Caerdydd i'r byd fel prif gyrchfan digwyddiadau busnes
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymuno â Chymdeithas y Gwestywyr, lleoliadau yng Nghaerdydd sydd wedi ymrwymo cyllid i'r bartneriaeth a For Cardiff i hyrwyddo'r ddinas fel prif gyrchfan digwyddiadau busnes a chynadleddau.

Ar y cyd mae'r bartneriaeth wedi neilltuo £100,000 i greu cynllun marchnata newydd, sydd yn cynnwys defnyddio lleoliadau yng Nghaerdydd, yn ogystal â chydweithio gyda Chanolfan Cynadleddau Cenedlaethol Cymru i wneud y gorau o'r potensial busnes yn y farchnad hon.

Mae prifddinas Cymru eisoes wedi sefydlu ei hun fel cyrchfan ryngwladol ar gyfer chwaraeon a diwylliant. Nawr, mae'r bartneriaeth newydd yn troi ei sylw at wneud y gorau o'r cyfleoedd pellach i greu Caerdydd fel prif gyrchfan yn y sector digwyddiadau busnes, gan gydweithio â thîm Digwyddiadau Busnes newydd Llywodraeth Cymru.

Mae amrywiaeth o leoliadau yng Nghaerdydd ar gyfer digwyddiadau busnes gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm; Gerddi Sophia; Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Coleg Cerdd a Drama Cymru; Stadiwm Dinas Caerdydd; Arena'r Motorpoint; Techniquest yn ogystal â Chanolfan Mileniwm Cymru.

Caiff y bartneriaeth newydd ei chadeirio gan Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol FOR Cardiff - Ardal Gwella Busnes y ddinas.

Dywedodd Adrian Field "Rydym yn hyderus bod yr holl asedau yn barod yng Nghaerdydd i ddod yn rhagflaenydd yn y farchnad ddigwyddiadau busnes. Mae gennym leoliadau gwych, mae gennym ganol dinas bywiog, ac mae gennym frwdfrydedd gwirioneddol o du'r sector i roi'r trwyn ar y maen gyda hwn.

"Ar ben y buddsoddiad yn y METRO; trydaneiddio Prif Linell Reilffordd y Great Western; Canolfan Cynadleddau Rhyngwladol Cymru a'r Arena Dan Do arfaethedig, mae hynny'n golygu fod gan y ddinas-ranbarth ehangach y seilwaith i gynnal y digwyddiadau busnes gorau a mwyaf.

Ffeithiau allweddol am y diwydiant:

·         Mae busnes digwyddiadau'r DU (cyfanswm) yn werth £40 biliwn y flwyddyn

·         Mae cyfran digwyddiadau busnes y DU yn werth £24 biliwn y flwyddyn

·         Ar hyn o bryd mai llai na 2% o'r £24 biliwn yma yn dod i Gymru - sef 1.59%

·         Mae cynadleddwr busnes yn werth o leiaf tair (3) gwaith gwerth ymwelydd hamdden

·         Mae 74% o gynadleddwyr busnes yn dychwelyd i leoliad y gynhadledd fel ymwelydd hamdden

·         Mae digwyddiadau busnes yn unedau hybu - maen nhw'n gweithio ar draws diwydiannau, sectorau, busnesau ac academia

·         Mae digwyddiadau busnes bellach yn llwyfannau sy'n defnyddio seilwaith twristiaeth