Back
Gwella diogelwch i gerddwyr o amgylch Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd


Fel rhan o gynllun Llwybrau Diogel i'r Ysgol, bydd cyfleusterau i gerddwyr ar y groesfan rhwng Penline Road, Church Road, Old Church Road a Merthyr Road yn cael eu gwella'n sylweddol.

Pan fydd y cynllun wedi'i gwblhau, bydd troedffyrdd ar bob cyffordd wedi'u hymestyn, gyda chroesfannau pelican ar bob un o'r pedair ffordd, fydd yn ei gwneud yn fwy diogel i blant ysgol a thrigolion fel ei gilydd.

Dechreuodd y gwaith heddiw (Mawrth 5ydd) a chymer 12 wythnos i'w gwblhau. Yn ystod y chwe wythnos gyntaf, mwyafrif y gwaith fydd ehangu'r palmentydd. Dylai cerddwyr ddilyn yr arwyddion dros dro er mwyn croesi'r ffordd yn ddiogel wrth i'r gwaith gael ei wneud.

Yn ail wythnos Ebrill, bydd gwaith yn digwydd ar y briffordd, gydag arwyddion traffig dros dro yn cael eu gosod i bedwar cyfeiriad. Dylai gyrwyr fod yn ymwybodol y bydd oedi ar adegau prysur o'r dydd. Rhaid i'r contractwr gadw at amserau penodol er mwyn osgoi gormod o oedi, a bydd y cyngor yn cadw llygad ar y cynllun wrth iddo fynd rhagddo.