Back
Cyngor teithio ar gyfer Cymru v Iwerddon ar 16 Mawrth

Disgwylir i hyd at 275,000 o bobl ddod i Gaerdydd ddydd Sadwrn pan fydd Cymru'n herio Iwerddon yn y gobaith o gipio'r Gamp Lawn.

Gyda phob tocyn wedi ei werthu, bydd heolydd canol y ddinas yn cael eu cau'n gyfan gwbl rhwng 11.15am a 5.45pm, gyda'r gic gyntaf am 2.45pm.

Dylai cefnogwyr rygbi adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau sydd wedi'u gwahardd yn  principalitystadium.wales  cyn iddyn nhw ddod i'r ddinas.

Ceir gwybodaeth fanwl gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn y briff cyfryngau hwn.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas:

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau: 
Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad at ran o'r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy'r dydd, gyda mynediad yn unig ar gyfer parcio i'r digwyddiad, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.

Mae'r ffyrdd fydd wedi eu heffeithio yn cynnwys: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Sylwer: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd ger Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys. 

Wedi i'r digwyddiad a'r cau ffyrdd ddod i ben am tua 6.00pm, bydd Heol Isaf Eglwys Fair yn parhau ar gael dros nos.

Trenau

Mae Network Rail yn rhoi gwybod i gwsmeriaid nad oes gwaith peirianneg wedi'i gynllunio yng Nghymru, felly ni ddisgwylir tarfu ar y llinell rhwng Llundain a Chaerdydd.

 

Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw yn  www.nationalrail.co.uk  neu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn eithriadol o brysur drwy'r dydd. Dylai'r rhai sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r gêm ddod mor gynnar â phosibl.

 

Bydd Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 4.15pm a bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewch i  https://trctrenau.cymru/cy/digwyddiadau     

 

Parcio a Theithio ar gyfer y Digwyddiad

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.

I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw, ewch i-  https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/park-ride-and-premium-parking-for-wales-vs-ireland-15966 

Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle.

Y man gollwng yw Gogledd Ffordd Tresillian, y tu ôl i'r orsaf drenau.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Os byddwch yn cadw lle ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig).

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am a bydd y safle yn agor am 9.00am, gyda'r bws cyntaf yn gadael am 9.00am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 7.30pm a bydd y maes parcio'n cau am 8.00pm.

Traffyrdd a chefnffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a'r ffyrdd sy'n arwain i Gaerdydd fod yn brysur iawn.

Parcio ar y Diwrnod

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Pris: £15 i'w dalu ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 9.00pm; gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Parcio ar gyfer y Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (ceir)

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Pris: £12 os byddwch yn archebu ymlaen llaw drwy'r ddolen hon --  https://zeelo.co/rides/Wales-Rugby/park-ride-and-premium-parking-for-wales-vs-ireland-15966  neu £15 ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig).

Amseroedd parcio: Bydd staff ar y safle o 7.30am a bydd yn agor am 8.00am. Rhaid symud pob car oddi yno neu arddangos tocyn talu ac arddangos o 8am ddydd Sul 17 Mawth.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall pobl sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio.  Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

 

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd parcio a theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 11.15am ac yn ailagor am 5.45pm.

Bysus

Bysus lleol: 
Caiff bysus eu dargyfeirio o orsafoedd bws canol Caerdydd o 1.15pm tan 8pm. Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin. 
 
Mae Bws Caerdydd yn hysbysu eu cwsmeriaid y bydd gwasanaeth X59 i, ac o, safle Parcio a Theithio'r Dwyrain yn gollwng a chasglu yng nghanol y ddinas o Blas Dumphries.

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybr bws penodol.
 
National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.