Back
‘Beicffordd’ gyntaf Caerdydd


Bydd gwaith yn cychwyn ar y feicffordd ar wahân gyntaf ar Heol Senghennydd ar 18 Mawrth.

Hwn fydd cam cyntaf creu pum beicffordd arfaethedig ar wahân yng Nghaerdydd fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i wella'r seilwaith feicio ym mhrifddinas Cymru.

Gallai'r pum beicffordd arfaethedig yn y cam cyntaf gynnwys 13 cilometr o ffyrdd yn benodol ar gyfer beics, a fydd yn mynd trwy naw ward ar hyd y llwybrau canlynol:

  • O Gilgant St Andrew i'r lôn uwch y rheilffordd yn y Mynydd Bychan
  • Plas Dumfries i Brodway yn Adamsdown
  • Bae Caerdydd i Smart Way
  • Gerddi Sophia i Landaf
  • Canol y ddinas i Bont Trelái 

Bydd darpariaeth ar gyfer beicio trwy feicffyrdd penodol yng nghanol y ddinas. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau a gynigir ar gyfer y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Castell, Boulevard de Nantes, Stuttgarter Strasse, Plas Dumfries, Rhodfa'r Orsaf a Ffordd Churchill.

C:\Users\c070833\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Word\Senghennydd Road Proposed.jpg

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild: "Rydyn ni am wneud Caerdydd y ddinas feicio orau yn y DU a'n gweledigaeth hirdymor yw estyn y beicffyrdd ymhellach i'r gwahanol gymunedau a chysylltu hefyd â safleoedd strategol a enwir yn y CDLl, yn ogystal â chysylltu o bosibl â'r awdurdodau cyfagos.

"Ar y cyfan, bydd y ffyrdd newydd ar wahân oddi wrth y traffig arall ar y ffordd, gwneud beicio yn brofiad mwy diogel, cynt a brafiach a wnaiff beicio yn ddewis mwy deniadol ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr.

"Mae diogelwch yn brif fater wrth ystyried beicio, yn arbennig i fenywod neu blant yn ôl adroddiad diweddar gan Sustrans.

"Mae llwyddiant cynllun Nextbike yn dangos pa mor boblogaidd y gall beicio fod yng Nghaerdydd. Nawr, rydyn ni'n canolbwyntio ar wella'r seilwaith ac rydyn ni'n credu y bydd nifer y bobl sy'n dewis beicio yn y ddinas yn codi'n sylweddol wedi adeiladu'r beicffyrdd."

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Ebrill 2018, bydd cam cyntaf y llwybr cyntaf yn mynd o ben Senghennydd Road ger tafarn y Woodville, heibio Undeb y Brifysgol a Theatr Sherman i Faes St Andrew, cyn troi i'r chwith ar Gilgant St Andrew. Amcenir y cwblheir y gwaith hwn erbyn mis Hydref 2019.

Gwnaed addasiadau i'r cynllun yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus a bydd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys ail-wynebu'r lôn gerbydau ar gyfer cerbydau modur, yn ogystal â gwella'r palmentydd.

Meddai'r Cyng. Wild: "Yna, bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn yr hydref ar ail gam y ffordd hon, a fydd yn estyn y feicffordd o ben Senghennydd Road i Cathays Terrace, ar hyd Allensbank Road i'r lôn uwch y rheilffordd yn y Mynydd Bychan.

"Ar y cyd â'r ymgynghoriad ar ail gam llwybr 1, byddwn hefyd yn ymgynghori ar yr ail gam, sef y llwybr o Fae Caerdydd i Smart Way. Bydd hyn yn estyn y feicffordd ar hyd Tyndall Street i gysylltu Rhodfa Lloyd George â chanol y ddinas."

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus bellach wedi cychwyn ar gam cyntaf llwybr tri, a fydd yn ail-fodelu'r llwybr beics presennol a'r droedffordd ar Rodfa Lloyd George.

C:\Users\c070833\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Word\Lloyd George Avenue Proposed.jpg

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar destun pob llwybr a chaiff yr adborth ei asesu a'i ystyried fel rhan o'r gwaith cynllunio manwl cyn adeiladu'r llwybr.