Back
Ymgynghoriad beicffordd Lloyd George Rhodfa wedi dechrau

Mae Cyngor Caerdydd yn cynnal ymgynghoriad ar gynllun beicffordd Rhodfa Lloyd George, sef y cam cyntaf i ddatblygu llwybr beicio o Fae Caerdydd i Ganol y Ddinas.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Adleoli'r trac beicio i ffwrdd o'r adeiladau
  • Cael gwared ar gyffyrdd signal yn Vellacott Close, Heol Letton, Plas Magretion, Clos Glanhowny a Ffordd Garthorne a chreu croesfan beicio/sebra baralel uchel ar draws y ffyrdd ochr a chroesfannau sebra uchel ar draws Rhodfa Lloyd George

Mae pecyn ymgynghori ar gael ar-lein yn https:www.caerdydd.gov.uk/beicffyrdd

Cynhelir sesiwn galw heibio yn Ystafell Bwyllgor 1, Neuadd y Sir ddydd Iau 21 Mawrth 2019 am 4.00-6.00pm. Mae croeso i bawb. Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 12 Ebrill 2019.