Back
Achub llwybrau bysiau yng Nghaerdydd oedd dan fygythiad

 

Mae'r chwe llwybr bws a oedd dan fygythiad ac i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth wedi eu hachub diolch i fuddsoddiad newydd gan Gyngor Caerdydd.

Trwy ymarferiad tendro newydd, mae Bws Caerdydd wedi ennill pedwar o'r llwybrau, gyda chwmni Stagecoach yn ennill y ddau lwybr arall.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol, y Cyng. Caro Wild: "Rwy'n falch o adrodd yn dilyn y newyddion fod y gwasanaethau hyn i gael eu torri gan y gweithredwr, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau y caiff y gwasanaethau hyn eu harbed ac mewn pryd ar gyfer diwedd mis Mawrth.

"Mae'r Cyngor wedi sicrhau y gall y gwasanaethau hyn barhau yn dilyn buddsoddiad sylweddol a gymeradwywyd gan y Cabinet.

"Er ein bod wedi llwyddo i sicrhau'r gwasanaethau hyn am ddwy flynedd arall, efallai na fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny os caiff mwy o lwybrau eu bygwth. Dyna pam rydyn ni'n croesawu cynigion Llywodraeth Cymru a galw arnynt i ddwyn deddfwriaeth ger bron ar fyrder fel y gallwn gael rheoliadau addas i wella gwasanaethau a'u hyfywedd yn y tymor hir.

"Buaswn hefyd yn annog trigolion Caerdydd i geisio defnyddio'r gwasanaethau bws yn hytrach na char preifat, lle bynnag y gallant wneud hynny."

Er bod y broses dendro newydd ddod i ben, mae'r cyngor yn awyddus iawn i gael y neges allan i breswylwyr a chwsmeriaid na fydd y gwasanaethau yng Nghaerdydd yn cael eu torri. Byddwn yn parhau i weithio gyda chwmnïau sydd wedi ennill y contractau er mwyn sicrhau y gellir trosglwyddo'r wybodaeth yma i'r cwsmeriaid er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth.