Bydd tŵr craen yn cael ei godi ar gyfer datblygiad y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr newydd y penwythnos hwn.
Mae hyn yn golygu y bydd Plas-y-parc yn cau am 6am Ddydd Sadwrn 13 Ebrill, ac yn ailagor am 10pm ddydd Sadwrn 14 Ebrill. Bydd mynediad yn dal ar gael i bobl sydd am barcio yn y Ganolfan Ddinesig, drwy'r gyffordd gyda Boulevard de Nantes, yn rhoi mynediad i Heol Gerddi'r Orsedd.
Mae arwyddion rhybuddio eisoes wedi eu gosod ar y safle, a bydd y gwyriad wedi ei arwyddo'n llawn er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.