Back
Atal pobl ifanc rhag ymwneud â delio cyffuriau


Mae'r Cabinet wedi derbyn cyfres o argymhellion i helpu pobl ifanc yng Nghaerdydd rhag ymwneud â delio cyffuriau.

 

Mewn ymateb i adroddiad ymholiad gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc a Phwyllgor Craffu y Gymuned a Gwasanaethau Oedolion, mae'r Cabinet wedi derbyn 12 argymhelliad sydd â'r nod o fynd i'r afael â'r broblem yn y ddinas a derbyniwyd chwe argymhelliad mewn egwyddor.

 

Bu i grŵp Gorchwyl a Gorffen, sy'n cynnwys aelodau o'r ddau bwyllgor yn ogystal ag aelodau ward o Butetown a Grangetown, ystyried y materion sy'n atal pobl ifanc rhag bod yn rhan o ddelio cyffuriau rhwng mis Hydref 2017 a mis Mai 2018, yn archwilio pryderon megis normaleiddio cyffuriau, effaith ar gymunedau, diogelu pobl ifanc, addysg a throsedd a gorfodi.

 

Archwiliwyd rôl asiantaethau hefyd a rhannwyd yr argymhellion â phartneriaid i'w hystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Gall troseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau effeithio'n sylweddol, nid yn unig ar yr unigolion sy'n gysylltiedig ond hefyd ar y gymuned ehangach lle mae'r gweithgarwch yn mynd rhagddo.Rydym am i bobl yng Nghaerdydd fod yn ddiogel a theimlo'n ddiogel yn eu cymunedau ac rwy'n deall yn iawn ofnau pobl ynghylch delio cyffuriau, cymryd cyffuriau a phroblemau sy'n gysylltiedig â nodwyddau a deflir.Mae hyn yn gwbl annerbyniol felly rwy'n ddiolchgar i'r grŵp Gorchwyl a Gorffen am ymchwilio i'r mater ac awgrymu ffyrdd y gallwn waredu ar y staen hwn ar ein cymunedau.

 

"Eisoes mae gwaith cadarnhaol yn mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r pryderon a gallwn adeiladu ar rai o'r llwyddiannau cynnar a gafwyd trwy weithio rhwng asiantaethau partner i wella diogelwch yn y gymuned i bawb."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey:"Mae'r cynnydd yn y gweithgarwch ‘Llinellau Cyffuriau' trwy'r DU ac ecsploetio pobl ifanc yn gysylltiedig â throseddau cyffuriau yn bryder difrifol, felly mae'n hanfodol ein bod yn gweithio â phartneriaid a chymunedau trwy'r ddinas i edrych ar ffyrdd o ddiogelu ac atal pobl ifanc rhag ymwneud â'r mater hwn.

 

"Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i adolygu trefniadau diogelu yn y ddinas ac mae gweithgarwch pobl ifanc yn delio cyffuriau'n rhan fawr o'r gwaith hwn."

 

Wrth ymateb i'r argymhellion, cytunodd y Cabinet y dylai'r Bwrdd Diogelwch yn y Gymuned archwilio opsiynau gorfodi, er enghraifft trwy ddefnyddio Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â delio cyffuriau a defnyddio cyffuriau problemus er mwyn atgyfnerthu'r trefniadau presennol a lleddfu'r pwysau ar yr Heddlu.

 

Derbyniwyd hefyd fod angen gwella cysylltiad cymunedol ac ymgynghori i helpu i fynd i'r afael â throseddau cysylltiedig i gyffuriau trwy efelychu model partneriaeth yn yr ardal leol yn Butetown a rhannau eraill y ddinas. Mae mentrau gweithio ar y cyd wedi dod â gwelliannau yn Butetown, gan cynnwys rhagor o gysylltiadau â phreswylwyr, cymorthfeydd at y diben mewn mannau problemus ac ystod ehangach o weithgareddau eraill a chyngor i bobl ifanc a theuluoedd yn yr Hyb Ieuenctid.

 

Cytunodd y cabinet i adolygu'r ddarpariaeth ieuenctid bresennol i werthuso sut gall y gwasanaeth ateb y galw yn ogystal â'r argymhelliad i ddefnyddio porthol Gwirfoddoli Caerdydd i ddenu modelau rôl a chenhadon yn y gymuned i ddysgu pobl ifanc am beryglon defnyddio cyffuriau ac ymwneud a throseddau cyffuriau.

 

Argymhellodd yr ymholiad hefyd ddatblygu a gweithredu strategaeth ddinas-eang ar droseddau cysylltiedig â chyffuriau i amlygu'r peryglon sy'n gysylltiedig â ‘Llinellau Cyffuriau' yn ogystal ag adolygu'r trefniadau presennol o ran opsiynau ar gyfer pobl ifanc sydd wedi eu diarddel o'r ysgol neu sy'n gwneud amserlen lai a derbyniwyd y ddau argymhelliad.