Back
Gwyliwch rhag y Twyllwyr Gwastraff

Gwiriwch eu dogfennaeth cyn iddynt glirio ar eich ôl

Mae trigolion yn cael eu rhybuddio yn erbyn twyllwyr gwastraff sy'n cynnig gwasanaethau clirio anghyfreithlon ar draws Caerdydd sy'n arwain at wastraff maint tri Tyranosorws Recs yn cael ei dipio'n anghyfreithlon ar strydoedd y ddinas bob wythnos. Mae clirio'r gwastraff anghyfreithlon hwn yn costio miloedd i'r trethdalwyr. 

Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio ymgyrch newydd yn atgoffa trigolion eu bod yn gyfrifol am gael gwared ar eu gwastraff yn gywir, a gallent wynebu dirwyon mawr os caiff eu gwastraff ei dipio'n anghyfreithlon gan gludwyr gwastraff heb eu cofrestru. 

Lansiwyd ymgyrch  Gwyliwch rhag y Twyllwyr Gwastraff  y tu allan i Neuadd y Ddinas lle ymddangosodd 4 tunnell o wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon ddydd Iau 8 Awst, gan gychwyn ton o ymholiadau dros y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn o ble ddaeth y gwastraff a sut roedd modd iddo gael ei daflu o flaen un o adeiladau enwocaf Caerdydd. 

Datgelwyd yn ddiweddarach bod y sbwriel wedi cael ei osod ger Cyngor Caerdydd i dynnu sylw at y 4 tunnell o wastraff sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon y mae timoedd y Cyngor yn gorfod ei godi o strydoedd a lonydd y ddinas bob dydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Rydym ar hyn o bryd yn casglu 20 tunnell o ddeunydd sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon ar draws y ddinas bob wythnos, sef yr un maint â thri Tyranosorws Recs - ac mae'n costio £150,000 i'r trethdalwr bob blwyddyn i'w lanhau. 

"A dweud y gwir, does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon. Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i helpu preswylwyr a busnesau i gael gwared ar eu gwastraff yn gywir, gan gynnwys dwy ganolfan ailgylchu fawr, casgliadau gwastraff swmpus, ailgylchu gwastraff gardd, ailgylchu gwydr, ailgylchu bwyd, ailgylchu bagiau gwyrdd, casgliadau offer hylendid a llogi sgipiau. 

"Mae angen i drigolion fod yn ymwybodol bod gwaredu tunnell o wastraff mewn safle tirlenwi neu mewn cyfleuster ynni o wastraff yn costio tua £80 y dunnell. Felly os oes rhywun yn cynnig casglu gwastraff o'ch cartref am lai na hynny, dylech fod yn amheus. Os yw'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, yna mae hi, sy'n golygu y bydd eich gwastraff siŵr o fod yn cael ei daflu ar strydoedd Caerdydd gan fasnachwyr amheus. 

"Mae angen i drigolion wybod hefyd bod ganddynt ddyletswydd ofal i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu'n gywir. Os byddwn yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o ddeunydd sy'n cael ei dipio'n anghyfreithlon ac sy'n cael ei olrhain i'r trigolyn, yna, yn anffodus, bydd yn wynebu dirwy o £300 amdano. Os byddwch yn dod o hyd i'r masnachwr a adawodd y gwastraff, yna gallai gael dirwy o £400. 

"Dyma pam mae'n bwysig iawn bod trigolion yn gofyn i'r bobl sy'n cynnig cael gwared ar eu gwastraff a oes ganddynt drwydded cludo gwastraff gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Os yw rhywun yn casglu gwastraff o'ch cartref, gofynnwch am eu trwydded a nodyn trosglwyddo gwastraff. 

"Dylai'r nodyn trosglwyddo gwastraff roi manylion am o ba le mae'r gwastraff yn cael ei gludo ac i ba gyfleuster gwaredu trwyddedig y mae'r gwastraff yn cael ei gludo. Os yw'r person sy'n casglu'r gwastraff yn gwrthod darparu'r wybodaeth hon, peidiwch â defnyddio ei wasanaethau. Fel arall, os deuir o hyd i'r gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon ac os caiff ei olrhain i'ch cartref chi, gallech chi gael eich erlyn." 

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno 171 o hysbysiadau cosb benodedig ers mis Tachwedd y llynedd am droseddau tipio anghyfreithlon ac mae'n addo ymateb yn llym i'r rhai sy'n gyfrifol. 

Mae Cyngor Caerdydd yn argymell i chi: 

  • Dylech bob tro wirio a oes ganddynt drwydded cludo gwastraff - gallwch wneud hyn drwy gysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 30000 neu e-bostio   enquries@naturalresourceswales.gov.uk
  • Cymrwch fanylion cyswllt ac enw'r cwmni; 
  • Gofynnwch i ble bydd y gwastraff yn cael ei gludo;
  • Dylech bob tro ofyn am dderbynneb yn cadarnhau beth sydd wedi cael ei gymryd ac i le mae'n mynd; 

Os bydd trigolion yn gweld tipio anghyfreithlon yn digwydd, peidiwch â mynd at y bobl sy'n troseddu, ond cymrwch fanylion o'r amser, lleoliad, disgrifiad o'r person sy'n troseddu a cheisio cael ei rif cofrestru cerbyd a rhoi gwybod i ni amdano ar App Cardiff Gov neu drwy'r nodwedd ‘Adrodd' ar wefan Cyngor Caerdydd. 

Os bydd trigolion yn dod o hyd i unrhyw dipio anghyfreithlon sydd angen ei glirio, gofynnwn iddynt dynnu llun ohono a'i gyflwyno drwy ap Cardiff Gov sydd â thechnoleg geo-leoli sy'n galluogi i'n tîm casglu leoli'r union fan y mae'r tipio anghyfreithlon wedi digwydd.