Back
Clirio cyn y Nadolig? Dysgwch beth i’w wneud gyda’ch sbwriel

16/12/19

Ydy'ch coeden Nadolig fyny eto? Neu ydych chi'n bwriadu ei wneud y penwythnos hwn? Efallai eich bod yn dwlu ar y Nadolig a bod eich coeden wedi bod fyny ers mis Tachwedd?

Ni waeth pa un sy'n gywir, gallwch warantu y bydd angen i chi glirio'ch cartref cyn y Nadolig wrth i'r goeden fynd lan i wneud lle i'ch gwesteion ychwanegol, teganau newydd a seddi brys.

Sicrhewch na fyddwch dan ormod o straen gyda'n tipiau ar gyfer gofynion ailgylchu cyn y Nadolig:

  • Goleuadau Nadolig- Yr un frwydr bob blwyddyn, datglymu'r  goleuadau Nadolig o'r blwch addurniadau ac wedyn darganfod nad yw rhai ohonyn nhw'n gweithio. Ond ydych chi'n gwybod beth i'w wneud gyda'r goleuadau Nadolig sydd wedi'u torri? Peidiwch â'u rhoi yn eich gwastraff cyffredinol, yn lle ewch â nhw i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref naill ai yn Ffordd Lamby neu Bessemer Close. Mae gwybodaeth am leoliadau ac amseroedd agor yma:www.caerdydd.gov.uk/CAGC

 

  • Blychau cardbord- Os ydych wedi manteisio'n llawn ar Ddydd Gwener Du neu Ddydd Llun Seiber a'ch cartref yn llawn blychau Amazon Prime, gallwch roi eich cardbord yn eich bagiau gwyrdd. Os ydyn nhw'n rhy fawr i fynd yn y bagiau, rhowch nhw wrth ochr eich bagiau gwyrdd i gael eu casglu. Arhoswch am ddiwrnod sych i wneud hyn a thynnwch unrhyw bolystyren yn gyntaf.

 

  • Polystyrene -Gellir mynd â'r pecynnau o'r tu mewn i'r blychau i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref os yw'n fawr iawn ac nad ydych yn gallu eu torri. Mae gwybodaeth am leoliadau ac amseroedd agor ynwww.caerdydd.gov.uk/CAGC.Os ydych yn gallu eu torri'n ddarnau llai, rhowch nhw Y TU MEWN i'ch bagiau streipiau coch neu finiau du. Peidiwch â'u rhoi y tu allan i'ch bin neu'ch bagiau ar y palmant.

 

  • Hen Addurniadau Nadolig nad oes eu heisiau- Os nad ydych am godi'r addurniadau ffoil metelaidd neu os ydych yn newid lliwiau eich addurniadau eleni, rydym yn eich annog i gyfrannu hen addurniadau i'ch siop elusen leol. Os yw'ch addurniadau wedi torri, bydd angen eu rhoi yn eich bin du neu'ch bagiau streipiau coch.

 

 

  • Clirio'r cartref-Efallai bydd angen i chi wneud bach o addurno cyn i'ch gwesteion gyrraedd am y Nadolig. Os ydych yn cael gwared ar lawer o hen bethau nad ydych eu heisiau, beth am logi sgip gennym?Caiff eich holl wastraff ei ddidoli ar ôl i ni ei gasglu a byddwn yn gwahanu'r deunyddiau ailgylchu ac yn troi unrhyw wastraff na ellir ei ailgylchu yn ynni mewn cyfleuster lleol yng Nghaerdydd. Gyda ni, gallwch fod yn dawel eich meddwl na aiff eich gwastraff i safle tirlenwi.  I gael rhagor o wybodaeth ewch ihttps://www.cardiffcommercialwaste.co.uk/ein-gwasanaethau/llogi-sgip/?lang=cy.

 

I gael mwy o wybodaeth a chyngor ar ailgylchu a gwastraff ewch icyngor ar ailgylchu dros gyfnod y Nadolig.​

*Yn amodol ar delerau ac amodau