Back
Lansio cynllun peilot strydoedd diogel i ysgolion Caerdydd

Nod cynllun ‘peilot strydoedd diogel' newydd yw gwella diogelwch plant sy'n cyrraedd a gadael eu hysgol sydd wedi cael ei lansio yn Ysgol Gynradd Lansdowne heddiw.

Mae pump ysgol wedi cael eu dewis i fod yn rhan o'r cynllun peilot a bydd bob un o'r cynlluniau'n cael eu monitro dros gyfnod o 18 mis gyda bwriad i gyflwyno'r cynllun ledled y ddinas.

Yn rhan o'r cynllun, bydd ffyrdd sy'n arwain at yr ysgolion yn cael eu cau i bobl nad ydynt yn breswylwyr ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol - rhwng 8.30am a 9.15am yn y bore a 2.45pm a 3.45pm yn y prynhawn - gan olygu na fydd y ffyrdd ar gau ar benwythnosau, yn ystod gwyliau ysgol neu ar ddiwrnodau HMS ysgolion.

Bydd pobl sy'n byw ar y strydoedd yn dal yn gallu cael mynediad arferol i'w tai. Ni fydd deiliaid bathodynnau glas yn cael eu heffeithio gan y cynllun.

Y pump ysgol sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot, a'r ffyrdd fydd yn cael eu cau yw:

  • Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd - (Davis's Terrace a Glan-Y-Nant Terrace)
  • Ysgol Gynradd Pencaerau - (Cyntwell Avenue)
  • Ysgol Gynradd Peter Lea - (Carter Place)
  • Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llandaf - (Hendre Close)
  • Ysgol Gynradd Landsdowne - (Norfolk Street)

Y Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth sydd tu ôl i'r cynllun yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella ansawdd aer ym mhrifddinas Cymru.

Dywedodd y Cyng. Wild: "Ddoe, lansiodd y Cyngor weledigaeth trafnidiaeth uchelgeisiol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf, gan amlinellu nifer o brojectau fydd yn cael eu cyflawni i leihau tagfeydd, gwella ansawdd aer athaclo problemau parhaus newid yn yr hinsawdd.

"Heddiw rydym yn lansio'r cynllun peilot hwn fydd nid yn unig yn gwella diogelwch plant wrth gyrraedda gadael yr ysgolond hefyd yn stopio rhieni rhag rhwystro mynediad i'r ysgol yn sgil parcio anystyriol - gan droi'r injan i ffwrdd yn aml - sy'n cyfrannu at y llygredd aer y mae'r plant yn ei anadlu. Does dim dwywaith maillygredd o gerbydauyw un o'r ffactorau sy'n cyfrannu fwyaf at ansawdd aer gwael yng Nghaerdydd.

"Nid yw'r ysgolion sydd wedi'u dewis ar gyfer y peilot ar lwybrau trwodd, felly maent yn eithaf hawdd i'w gweithredu. Hoffem gyflwyno'r cynllun i bob ysgol yng Nghaerdydd, felly dyna pam rydym yn cynnal peilot fel bod modd i ni adnabod problemau posibl a gwella unrhyw broblemau sy'n codi."

Bydd camera sefydlog yn cael ei ddefnyddio i orfodi'r cynllun peilot ar bob un o'r strydoedd sy'n arwain at yr ysgolion dan sylw, ac os yw rhieni'n anwybyddu'r cynllun newydd ac yn gyrru i lawr y strydoedd caeedig i ollwng eu plant, byddant yn derbyn Hysbysiad Tâl Cosb o £70 fydd yn cael ei ostwng i £35 os gwneir y taliad o fewn 21 diwrnod. 

Dechreuodd y gorfodaeth ar 6 Ionawr, a bydd y rheiny sy'n mynd yn groes iddo ac yn gyrru ar hyd y ffyrdd caeedig yn derbyn llythyr o rybudd a bydd hyn yn parhau tan 18 Ionawr.  Ar ôl 18 Ionawr, bydd Hysbysiadau Tâl Cosb yn cael eu cyhoeddi.

Gan fod y ffordd fynediad i Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd yn cael ei rhannu gydag Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (Isaf), ysgrifennwyd at rieni disgyblion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (Isaf) i'w cynghori mai dim ond o Manor Way y byddan nhw'n gallu mynd at yr ysgol, gan y bydd Glan-y-Nant Terrace ar gau i rieni.  Golyga hyn na fydd rhieni sydd am gyrraedd Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (Isaf) yn gallu cyflawni tro pedol i ollwng eu plant ar Glan-Y-Nant Terrace.