Back
Lansio Siop Gyfnewid mewn Ysgol i helpu teuluoedd i arbed arian


23/1/2020 

Mae ysgolion cynradd ffederasiwn Coryton yn yr Eglwys Newydd ac Ysgol Gynradd Tongwynlais wedi lansio siop cyfnewid gwisgoedd ysgol yr wythnos hon i helpu teuluoedd i arbed arian ar gostau gwisgoedd ysgol a lleihau'r effaith ar yr amgylchedd.

 

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\PearTree Federation\Coryton\4.jpg

Coryton yn yr Eglwys Newydd

 

Mewn siediau newydd yn yr ysgolion, mae'r ‘siediau rhannu' yn galluogi rhieni i ailgylchu gwisgoedd a dillad ysgol ac eitemau eraill megis welis ac esgidiau pêl-droed nad oes eu hangen arnyn nhw mwyach, a'u cyfnewid am eitemau eraill. 

 

Mae'r ‘siediau rhannu' hefyd yn cefnogi Erthygl 27 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sy'n dweud y dylai plant a phobl ifanc allu byw mewn ffordd sy'n eu helpu i gyflawni eu llawn botensial, yn gorfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol a chymdeithasol.  Er mwyn galluogi hyn, dylent allu cael mynediad at fwyd a chartref digonol.

 

Mae ysgolion Cynradd Coryton a Thongwynlais, a adwaenir fel Ffederasiwn y Pren Gellyg, yn rhan oRaglen Dyfarniad Ysgolion sy'n Parchu Hawliau Unicef, sy'ntroi hawliau plant yn realiti, ac yn creu mannau diogel ac ysbrydoledig i ddysgu, lle mae plant yn cael eu parchu, eu doniau'n cael eu hannog a lle gallant ffynnu.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\PearTree Federation\Tongwynlais\IMG_1788.JPG

Ysgol Gynradd Tongwynlais

 

Dywedodd Pennaeth Ffederasiwn y Pren Gellyg, Sally Phillips: "Mae gwella lles, a'r cymorth a'r ddarpariaeth sydd ar gael i ddisgyblion a'u teuluoedd yn bethau rydyn ni'n canolbwyntio arnyn nhw, ac wedi dwys ystyried y costau sydd ynghlwm wrth ddod i'r ysgol, fe ystyrion ni sut gallen ni helpu ein holl deuluoedd, yn enwedig y rhai y mae arian yn gyfyngedig ganddynt. 

 

Mae lansio'r ‘sied rannu' yn gyffrous iawn ac mae'n rhoi cyfleoedd i'n teuluoedd arbed arian a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy a hefyd yn cefnogi hawliau plant."

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod y Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, "Yn ogystal â chost y wisg ysgol, gall costau mynd i'r ysgol fod yn faich ariannol ar rai teuluoedd, gan olygu bod rhai plant yn colli cyfleoedd.

 

"Mae'r ‘siediau rhannu' yn gynllun ardderchog sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn, yn darparu ar gyfer y rhai sydd bennaf eu hangen ac yn cefnogi hawliau plant. Mae'n dangos ymrwymiad Ysgolion Cynradd Coryton a Thongwynlais i helpu Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant gyntaf y DU. 

"Wrth ymuno â'r Rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau, maen nhw'n sicrhau bod hawliau plant wedi eu gwreiddio'n ddwfn yn eu bywyd ysgol o ddydd i ddydd, a bod yr hawliau hyn wrth galon cymuned ehangach yr ysgol. Mae'n rhoi'r cyfle gorau i blant fyw bywydau hapus ac iach a bod yn ddinasyddion actif, cyfrifol a aiff ymlaen i gyfrannu at y diwylliant parchu hawliau rydyn ni eisiau ei greu."

 

Agorwyd y ‘siediau rhannu' yn swyddogol gan Genhadon Gwych yr ysgol cynllun gan Gomisiynydd Plant Cymru, sydd â'r nod o hybu hawliau plant a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).