Back
Cwestiynau ac atebion ar yr ymgyrch Sticer Pink

26/02/20

 

A)   Pam fod y cynllun yn cael ei weithredu?

Ateb: Bydd y sticeri'n rhoi gwybod i bobl pam nad yw eu bagiau, eu biniau na'u cadis wedi'u casglu. Mae'n bwysig sicrhau bod pobl yn rhoi'r eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir fel y gallwn ailgylchu a chompostio cymaint â phosibl.
 
  

B) Sut fydda i'n gwybod pa eitem/au anghywir dwi wedi'u rhoi yn fy mag ailgylchu gwyrdd?

Os ydych chi wedi derbyn sticer pinc ar eich bag ailgylchu gwyrdd, gwiriwch yn gyntaf os ydych chi wedi rhoi'r eitemau canlynol yn y bag mewn camgymeriad:

 

  • Gwastraff bwyd / gweddillion bwyd mewn pecynnau, tuniau, jariau ac ati.
  • Tecstilau – megis dillad, dillad gwely, carpion ac ati.
  • Cewynnau

Darganfyddwch sut i gael gwared ar y rhain ac eitemau eraill yn gywir ar ein gwefan ailgylchu A-Z: www.caerdydd.gov.uk/ayailgylchu

C)   Pam mae'r Cyngor yn bygwth rhoi dirwy i mi am ailgylchu?

Ateb: Nod y cynllun yw sicrhau bod pobl yn rhoi eu gwastraff allan yn gywir ac yn rhoi'r pethau cywir yn y bagiau neu'r biniau cywir. Bydd hyn yn helpu i gynyddu ailgylchu a hefyd lleihau sbwriel ar y stryd. Bydd preswylwyr ond yn cael dirwy os ydynt yn methu â rhoi'r gwastraff allan yn gywir dro ar ôl tro. Ar hyn o bryd, rydym ond yn ailgylchu oddeutu 58% o wastraff, ond targed presennol Cymru yw 64%. 

Am bob tunnell o wastraff sy'n cael ei cholli o'r targed, gall y Cyngor dderbyn dirwy o £200. Os na fydd cyfradd ailgylchu'r ddinas yn codi o 58% i 70%, sef y targed ar gyfer 2025, gallai'r ddirwy gyfan fod yn fwy na £10m.

D)   Oes rhaid i'r 5 cam a nodir yn yr ymgyrch newydd ddigwydd yn olynol er mwyn cael dirwy? Neu a oes terfyn amser o ran pryd y bydd diffyg cydymffurfiaeth yn y broses 5 cam yn dod i ben?

Ateb: Mae rhoi cosb benodedig am gyflwyno gwastraff yn anghywir yn gofyn am ddau gam yn unig, sef cyhoeddi hysbysiad adran 46 o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd, ac yna cyflwyno'r hysbysiad cosb benodedig.

Bydd rhaid i breswylwyr dorri'r cynllun bum gwaith dros gyfnod treigl o 12 wythnos i gael hysbysiad cosb benodedig am halogi. Nid oes dyddiad gorffen i'r hysbysiad adran 46,cyn belled â bod y meddianwyr yno o hyd.

Fodd bynnag, rydym yn cyflwyno'r ymgyrch sticer pinc i geisio osgoi'r angen i roi cosb benodedig, drwy roi tri siawns i breswylwyr wneud pethau'n iawn, cyn i gamau gorfodi'r ymgyrch ddechrau. Bydd rhaid i breswylwyr dorri'r cynllun bum gwaith dros gyfnod treigl o 12 wythnos i gael hysbysiad cosb benodedig.

E)   Beth os yw bin yn cael ei lygru gan rywun sy'n cerdded i lawr y stryd yn hytrach na phreswylydd? Er enghraifft, gollwng pacedi creision neu sbwriel arall yn y bin gwastraff gardd wrth gerdded heibio'r eiddo.

Ateb: Hyfforddir criwiau i nodi achosion halogi o'r fath. Os ydych yn derbyn bathodyn neu lythyr, ond yn credu nad yw eich bin/bag wedi'i halogi, cysylltwch â ni a byddwn yn ymchwilio i'r mater i chi.

F)    Beth sy'n digwydd os yw person eisoes wedi cael hysbysiad adran 46? Yw'r cynllun yn dal i fod yn berthnasol?

Os yw person eisoes wedi cael hysbysiad adran 46, yna bydd yn cael hysbysiad cosb benodedig ar unwaith am beidio â chydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol a gyflwynwyd. O ystyried hyn, ni fydd camau addysgol yr ymgyrch yn berthnasol i'r person dan sylw.

G)    A yw'r cynllun yn berthnasol i bobl oedrannus neu anabl? Gall hyn achosi pryder iddynt.

Ateb: Mae'r cynllun sticer pinc yn berthnasol i bawb, ac eithrio'r rhai sydd eisoes wedi cael Hysbysiad Adran 46.  Y nod yw rhoi gwybod i bobl pam nad yw eu bag wedi cael ei gasglu. Mae llawer o ffyrdd y gallwn roi cymorth i breswylwyr, nad ydynt efallai'n deall sut i ailgylchu'n gywir. Byddwn yn ystyried unrhyw amgylchiadau unigol, felly cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn ni helpu.

H)   A fydd y wybodaeth a ddarperir yn rhan o'r cynllun addysg a gorfodi ar gael mewn ieithoedd eraill heblaw Cymraeg a Saesneg?

Ateb: Bydd modd cyfieithu'r wybodaeth a ddarperir ar wefan y Cyngor i sawl iaith gan ddefnyddio Google Translate. Os nad oes gan breswylydd fynediad i'r rhyngrwyd gofynnir iddo ffonio C2C fel y gellir gwneud trefniadau eraill.

Fel arall, mae gwybodaeth ar gael mewn 14 iaith wahanol drwy'r ddolen hon:

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Cyngor-mewn-ieithoedd-eraill/Pages/default.aspx

I)   Os yw llwyth gwastraff wedi'i halogi â gwastraff arall, pam na all y cyngor neu gontractwr y Cyngor dynnu'r deunyddiau anghywir?

Ateb: Nid yw'n ymarferol i gasglwyr gwastraff waredu eitemau anghywir. Mae eitemau anghywir yn halogi gweddill y llwyth, ac ni ellir ei gasglu. Dyma pam mae'r cynllun hwn yn cael ei gyflwyno, i roi gwybod i breswylwyr pan fydd y deunyddiau anghywir yn cael eu rhoi yn y cynwysyddion a ddarperir.

J)       Beth sy'n digwydd os bydd preswylydd yn symud i eiddo newydd a bod y perchennog neu'r tenant blaenorol wedi torri amodau'r cynllun ac wedi cael rhybuddion? Yw'r rhain yn berthnasol i'r perchennog neu denant newydd sydd wedi symud i mewn i'r eiddo?

Ateb: Nac ydynt - mae'r rhybuddion ond yn berthnasol i unigolyn ar ôl i hysbysiad adran 46 gael ei gyflwyno. Dyma'r hysbysiad cyfreithiol sy'n rhoi'r awdurdod i'r Cyngor gyflwyno hysbysiad cosb benodedig.

K)     A oes proses apelio yn ystod y 5 cam, os nad yw preswylydd yn cytuno bod ei wastraff wedi'i halogi?

Ateb: Does dim modd apelio hysbysiad adran 46. Mae'r Hysbysiad yn nodi gofynion y gwasanaeth dan ddarpariaethau Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Gofynnir i denantiaid, o dan y gyfraith, gydymffurfio â'r trefniadau ar gyfer rhoi eu gwastraff allan i'w gasglu ar ôl derbyn Hysbysiad.

Mae Hysbysiad Cosb Benodedig yn rhoi rhyddhad rhag atebolrwydd am erlyniad yn y llys ynadon. Does dim hawl i apelio i'r Cyngor, mae mynd yn groes i hysbysiad yn drosedd - nid trosedd sifil sy'n rhoi dirwy a phroses apeliadau.Byddai'r cyfle i anghytuno ar gael yn y Llys Ynadon.

Caiff y mater ei gyfeirio at y Llys Ynadon drwy Weithdrefn Cyfiawnder Sengl, os na thelir y gosb benodedig, neu os rhowch gyfarwyddyd i Gyngor Caerdydd wneud hyn.

Mae gan y person sy'n ei dderbyn 21 diwrnod i apelio i'r Llys Ynadon drwy'r weithdrefn hon.

Ni chaiff unrhyw ymholiadau ynglŷn â chosbau penodedig eu trin yn rhan o Weithdrefn Gwyno Gorfforaethol Cyngor Caerdydd nac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac ni chewch ymateb ffurfiol ychwaith.

L)   A yw'r broses 5 cam yn berthnasol i'r holl gynwysyddion a ddarperir, felly, er enghraifft, os yw gwastraff gwyrdd wedi'i halogi un wythnos a gwastraff gardd gwyrdd wedi'i halogi yr wythnos ganlynol, a yw hyn yn cyfrif fel dau ddigwyddiad?

Ateb: Mae'r cynllun yn berthnasol i'r bagiau gwyrdd ar gyfer deunydd ailgylchu sych a'r bin compost gwyrdd/sachau amldro gwyn ar gyfer gwastraff gardd gwyrdd. Yn y sefyllfa hon, fel yr eglurir yn y cwestiwn, bydd halogi bagiau gwyrdd un wythnos a bin gwyrdd/sachau amdro yr wythnos wedyn, yn arwain at dorri amodau dau gam o'r cynllun.

M)    Sut y bydd criwiau casglu yn gwybod i bwy y mae bagiau ailgylchu yn perthyn?

Os yw bagiau ailgylchu gwyrdd yn cynnwys eitem/au anghywir, bydd y criw yn cofnodi'r halogiad ar gyfer yr eiddo y mae'r bagiau y tu allan iddo.

Yn achos aelwyd a rennir, wedi'i rhannu'n nifer o fflatiau, efallai na fydd y criwiau'n gwybod o ba fflat y daeth y bagiau. Byddant yn defnyddio'r holl wybodaeth sydd ar gael iddynt yn yr achos hwn.

Os nad ydyn nhw'n siŵr, bydd criwiau'n dal i adrodd am yr halogiad a bydd Swyddogion Addysg a Gorfodi yn ymweld ac yn asesu'r camau gweithredu cywir - gall hyn gynnwys gwybodaeth gyffredinol neu wybodaeth wedi'i thargedu.

Yn achos bagiau ailgylchu sydd wedi'u pentyrru mewn pwynt casglu e.e. ar ben y lôn, bydd y criwiau'n rhoi sticer ar yr holl fagiau sy'n cynnwys eitemau anghywir. Byddant yn gwneud nodyn o'r lleoliad ar eu dyfais yn y cerbyd. Ni fyddwn yn cynhyrchu llythyrau addysg yn awtomatig. Fodd bynnag, os nodwn fod y bagiau ailgylchu'n cael eu halogi'n gyson yn y lleoliad hwn, gallwn wneud penderfyniad i anfon hysbysiad Adran 46 at bob eiddo cyfagos.

Cofiwch, er ein bod yn sylweddoli y gall fod yn rhwystredig derbyn llythyr ar gam, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach. Ni fydd neb yn cael Hysbysiad Cosb Benodedig ar gam os nad yw bagiau halogedig wedi dod o'u heiddo.