Back
Agor drysau gyda sgiliau Cymraeg

 28/2/20

  

Bydd myfyrwyr o dair ysgol uwchradd Gymraeg Caerdydd yn mynychu ffair yrfaoedd arbennig yr wythnos nesaf i dynnu sylw at werth sgiliau Cymraeg a hyrwyddo cyfleoedd i astudio a gweithio yn y Gymraeg.

 

Bydd dros 300 o bobl ifanc ym Mlwyddyn 12 yn Ysgol Glantaf, Ysgol Plasmawr ac Ysgol Bro Edern yn cael cyfle i ddysgu am ragolygon addysg bellach a gyrfa, ac i gael dysgu am werth y sgiliau hynny i gyflogwyr yn y dyfodol yn y digwyddiad a drefnwyd gan Fforwm Partneriaeth Caerdydd Ddwyieithog y Cyngor.

 

Yn ogystal â Chyngor Caerdydd ei hun, bydd amrywiaeth o gyflogwyr ar gael o amrywiol sectorau gan gynnwys Senedd Cymru, S4C/Boom Cymru, Rhentu Doeth Cymru, Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Mudiad Meithrin a Chanolfan Mileniwm Cymru. Bydd y cyflwyniadau, gan amrywiaeth o sefydliadau partner, yn hyrwyddo'r ystod eang o opsiynau sydd ar gael i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn addysg bellach, prentisiaethau a phob math o gyfleoedd gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Agorir y digwyddiad, y cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd, gan arweinydd y Cyngor, y Cyng. Huw Thomas, a fydd yn pwysleisio'r cyfoeth o gyfleoedd sy'n bodoli i siaradwyr Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol, a phwysigrwydd annog siaradwyr Cymraeg i aros yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfaoedd, a fydd yn cyfrannu at y nod cenedlaethol o gyrraedd 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: Bwriad Ffair ‘Gyrfa Gymraeg' yw ceisio dangos i bobl ifanc, lawer ohonynt ar fin penderfynu pa yrfa yr hoffent ei dilyn yn y dyfodol, pa mor bwysig yw sgiliau Cymraeg yn y byd gwaith.  Mae gallu deall a siarad Cymraeg yn fantais enfawr mewn nifer o feysydd amrywiol ac mae'r sgiliau hyn yn dod yn fwyfwy gwerthfawr i gyflogwyr.

 

"Fel Cyngor, er mwyn cyflawni ein huchelgais o greu prifddinas wirioneddol ddwyieithog, rydym yn deall bod angen i ni hyrwyddo a gwreiddio ethos dwyieithog o fewn ein gweithlu ein hunain drwy wella a chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer defnyddio'r Gymraeg o fewn y Cyngor, yn ogystal â gweithio gyda chyflogwyr eraill yn y ddinas i wneud yr un peth o fewn eu sefydliadau eu hunain.

 

"Rwy'n falch iawn bod mwy o ddisgyblion yng Nghaerdydd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg nawr nag erioed o'r blaen ond mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ddefnyddio eu Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol fel bod modd aros yng Nghymru a defnyddio'r sgiliau hynny yn bosibilrwydd atyniadol.

 

"Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn rhoi rhywbeth i'r myfyrwyr gnoi cil arno wrth iddynt ystyried beth i'w wneud nesaf ar ôl ysgol a chyda'r fforwm partneriaeth, rydym yn bwriadu cynyddu'r digwyddiad bob blwyddyn er mwyn i bobl ifanc werthfawrogi gwerth eu sgiliau a deall sut y gall y Gymraeg wirioneddol agor drysau iddyn nhw. "

 

Gweledigaeth y Cyngor yw creu Caerdydd wirioneddol Ddwyieithog, gweld y Gymraeg yn tyfu, a chreu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio, clywed a gweld yr iaith Gymraeg, gan gynnwyso fewn ei weinyddiaeth fewnol drwy gyfrwng : Polisi Dwyieithog ‘Caerdydd Ddwyieithog' y Cyngor.

 

Erbyn hyn mae tua 900 o staff y Cyngor yn siarad Cymraeg - ffigwr sydd wedi dyblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf - a derbyniodd tua 200 o staff hyfforddiant Cymraeg y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae'n ofyniad statudol ar yr awdurdod o dan safonau'r Gymraeg i ddarparu gwasanaethau Cymraeg a chafodd ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg yn y blynyddoedd diweddar am ei ymagwedd ragorol wrth weithredu ei Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog.

 

Cynhelir ffair yrfaoedd Gyrfa Gymraeg yn Neuadd y Ddinas Ddydd Llun, 2 Mawrth. Yn dilyn cyflwyniadau, caiff myfyrwyr gyfle i ymweld â'r ' farchnad' a chwrdd ag ystod o ddarparwyr addysg bellach a darpar gyflogwyr yn ogystal â chlywed gan nifer o gyflogwyr sector preifat dwyieithog yn y brifddinas sy'n gweld gwerth economaidd cyflogi staff sy'n gallu darparu gwasanaethau'n ddwyieithog.