Back
Trefniadau i ysgolion yn ystod COVID-19


 20/03/20

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo ysgolion i gau ar gyfer addysg statudol ar ôl heddiw (dydd Gwener 20 Mawrth, 2020), fel rhan o ymdrechion y Llywodraeth i leihau lledaeniad y feirws COVID-19. Mae Caerdydd wedi datblygu datrysiad diwygiedig i gefnogi'r nod hwn.

 

Ein blaenoriaeth yw lleihau effaith y feirws drwy leihau cysylltiadau cymdeithasol yn sylweddol ynghyd â symud o gwmpas y ddinas yn sylweddol, wrth gefnogi anghenion y ddinas a'r plant sydd fwyaf agored i niwed.

 

 

Gofal Plant

Bydd y Cyngor yn darparu darpariaeth a goruchwyliaeth briodol i blant gweithwyr allweddol sydd rhwng 3 a 14 oed  fesul cam, a bydd pob ysgol yn agor ddydd Llun 23 Mawrth, yn y lle cyntaf ar gyfer y grwpiau canlynol sydd wedi'u blaenoriaethu: gofal iechyd, gofal cymdeithasolagweithwyr brys. Bydd y sefyllfa hon yn parhau i gael ei hadolygu.

 

Erbyn diwedd yr wythnos, bydd y Cyngor wedyn yn gweithio gydag ysgolion yn ymateb i'r galw am ddarpariaeth, gan greu nifer briodol o hybiau trwy'r ddinas a gaiff eu rheoli gan staff yr ysgolion lleol presennol.

 

Rhagwelir y bydd yr hybiau hyn ar agor o 7:30am - 6pm i blant gweithwyr allweddol dynodedig. Nid darpariaeth addysg fydd hon ond yn hytrach bydd yn cynnwys gweithgareddau ymgysylltu sy'n seiliedig ar sgiliau a phrydau bwyd.

 

O ystyried yr angen i leihau faint o gyswllt sydd rhwng pobl lle bo hynny'n bosibl,ni ddylid ond galw ar y cymorth hwn os oes ei angen.

 

Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda darparwyr gofal plant yn y sectorau preifat a gwirfoddol er mwyn sicrhau bod gofal plant ar gael ar gyfer plant 0-3 oed, gan gynnwys ar gyfer gweithwyr allweddol, yn enwedig yng nghyffiniau Ysbyty'r Brifysgol. Bydd pob lleoliad Dechrau'n Deg yn parhau i weithredu fel yr arfer, gan aros ar agor ac eithrio yn ystod gwyliau'r Pasg.

 

Cefnogi pobl ifanc sy'n agored i niwed

Bydd ysgolion yn parhau i nodi a chefnogi unrhyw blant sy'n agored i niwed a byddant yn parhau i gysylltu dros y ffôn. Ni fydd yn bosibl cynnal cyswllt dyddiol â theulu pob plentyn ag anghenion ychwanegol, ond bydd pob ysgol yn neilltuo staff i sicrhau cyswllt rheolaidd i gynnig cymorth a goruchwyliaeth.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr ym maes iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i nodi'r plant sy'n wynebu'r risg mwyaf o ran yr angen am gymorth. Lle bo angen, bydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu o bell ac wyneb yn wyneb.  

 

 

Darparu prydau ysgol am ddim

Mae mwy na 12,000 o ddisgyblion ar draws y ddinas yn gymwys i gael Pryd Ysgol am Ddim ac rydym yn gweithio ar gynlluniau i sicrhau na fydd plant sydd fel arfer yn cael Prydau Ysgol am Ddim yn colli hynny tra mae eu hysgol ar gau.

 

Mae hon yn mynd i fod yn dasg sylweddol; fodd bynnag, y nod yw darparu bagiau bachu bob dydd a gaiff eu paratoi mewn un o saith lleoliad o amgylch y ddinas a'u dosbarthu i ystod ehangach o leoliadau i bobl eu nôl.

 

Byddwn yn gofyn i ysgolion fod yn barod i dderbyn y bagiau bachu hyn bob bore a gwneud trefniadau gyda theuluoedd i'w casglu a'u bwyta oddi ar y safle.

 

Wrth symud ymlaen, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i asesu eu capasiti a'u gallu i gynhyrchu cynnig pryd bwyd mwy sylweddol, ond mae hyn yn mynd i gymryd ychydig o ddyddiau i'w sefydlu.

 

Bydd yr ysgol yn cysylltu â rhieni neu ofalwyr plant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim.

 

Bydd lleoliadau penodol yr hybiau, darpariaeth arbenigol mwy hirdymor a mannau gollwng Prydau Ysgol am Ddim yn cael eu cadarnhauyn ddiweddarach yr wythnos nesaf.

 

E-ddysgu

Mae'r Cyngor yn gweithio gydag ysgolion i gynnal cynnig addysgol o bell ar gyfer pob plentyn. Mae nifer o lwyfannau ar-lein yn cael eu defnyddio'n effeithiol iawn ar draws y ddinas a bydd angen i ysgolion sicrhau bod staff yn parhau i lanlwytho deunyddiau addysgu a dysgu i Hwb, tra'n datblygu dulliau arloesol o gyflwyno'r cwricwlwm.

 

Mae'r sefyllfa'n newid yn gyflym a bydd trefniadau ar gyfer ysgolion yn cael eu hadolygu'n gyson. Parhewch i'n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau rheolaidd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r Cyngor wrthi'n gweithio ar fanylion y ddarpariaeth addysgol o bell ar gyfer pob plentyn ynghyd â threfniadau ar gyfer plant rhai grwpiau o weithwyr allweddol, plant sy'n agored i niwed, a dosbarthu prydau ysgol am ddim ar gyfer plant sy'n gymwys.

 

"Nid tasg syml na hawdd yw hon ac mae ein staff yn barod i addasu wrth i'r sefyllfa newid o ddydd i ddydd.  Ein blaenoriaeth yw atal lledaeniad y feirws a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled parhaus wrth helpu i ddod o hyd i atebion o dan amgylchiadau anodd iawn. Gwerthfawrogir amynedd a dealltwriaeth yn fawr wrth i ni weithio i gyflwyno darpariaeth a chefnogaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn."