Yn y diweddariad COVID-19 a ddarparwyd gan Gyngor Caerdydd heno: mae'r cleifion cyntaf wedi cyrraedd Ysbyty Calon y Ddraig; project Dyddiaduron y ‘Diff, COVID-19 drwy lygaid plant a phobl ifanc Caerdydd; ymgyrch fwyd Gyda'n Gilydd i Gaerdydd; ac app Olrhain Symptomau COVID-19.
Ysbyty Calon y Ddraig
Mae cleifion wedi dechrau cyrraedd ysbyty diweddaraf Caerdydd, Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality.
Mae timau o Gyngor Caerdydd wrth law i helpu, gan gynnwys ein Byddin Binc - Tîm Pwynt Cyswllt Cyntaf yr Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol.
Tîm o swyddogion cyswllt yw'r Fyddin Binc, sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r Adran Iechyd, a leolir yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac sydd bellach yn Ysbyty Calon y Ddraig hefyd. Maen nhw'n gweithio gydag ystod eang o glinigwyr ar y wardiau, yn ogystal â chleifion a'u teuluoedd.
Mae rhai o'n Tîm Gwaith Cymdeithasol yr Ysbyty hefyd yn gweithio yng Nghalon y Ddraig, gan roi cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar y rheng flaen.
Roedd amryw o dimau'r Cyngor hefyd yn gysylltiedig â'r gwaith adeiladu a'r paratoadau yn y cyfnod cyn agoriad swyddogol Calon y Ddraig.
Cyflawnodd y timau waith glanhau dwfn ym maes parcio NCP yn Heol y Porth er mwyn sicrhau bod contractwyr a oedd yn gweithio yn y stadiwm yn gallu parcio'n ddiogel.
Mae staff y GIG yn defnyddio maes parcio Gerddi Sophia gyda bysus gwennol gan Bws Caerdydd fel y gall staff fynd a dod o'r stadiwm.
Roedd gwaith sylweddol hefyd yn cael ei hwyluso gan y cyngor i sicrhau y gall yr ysbyty weithredu yn effeithlon a bod cyflenwad ocsigen digonol
Mae staff y cyngor wedi bod yn gweithio ar osod tanc ocsigen yn ddiogel, a leolir ar Blas y Stadiwm, lle y bydd yn cyflenwi'r ysbyty newydd.
Project Dyddiaduron y ‘Diff'; COVID-19 drwy lygaid plant a phobl ifanc Caerdydd
Lansiwyd project ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd i rannu eu profiadau o COVID-19 drwy gofnodion wythnosol mewn dyddiaduron.
Mae Dyddiaduron y ‘Diff' yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc gofnodi eu gweithgareddau, meddyliau a theimladau yn ystod y pandemig byd-eang drwy gyflwyno cofnod fideo, collage lluniau neu straeon dyddiadur ysgrifenedig.
Gyda'r ysgolion ar gau, a'r holl ddigwyddiadau mawr a bach wedi eu canslo a phlant a phobl ifanc ymhobman yn gorfod aros gartref, gall y dyddiaduron ddangos sut mae plant a phobl ifanc yn treulio eu hamser, yn dysgu sgiliau newydd efallai, cael eu haddysgu gartref neu hyd yn oed rhannu syniadau â phlant y dyfodol.
Wedi'i gefnogi gan Amgueddfa Caerdydd, Screen Alliance Wales a Phrifysgol De Cymru, cafodd y project ei lansio gan Ymrwymiad Caerdydd ac mae'n cefnogi uchelgais Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant y Cenhedloedd Unedig.
Gwirfoddolwyr a staff yn gweithio Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd mewn ymgyrch fwyd enfawr
Mae staff y cyngor a gwirfoddolwyr sydd eisiau cefnogi trigolion ar draws y ddinas yn ystod yr argyfwng COVID-19 wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd yn ddiflino i helpu pobl mewn angen.
Mae gwirfoddolwyr o'r cynllun Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd yn cefnogi gwasanaethau'r cyngor i sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn gallu cael yr hanfodion a'r cymorth sydd eu hangen arnynt yn ystod yr adeg anodd hon.
Mae bron i 1,200 o wirfoddolwyr wedi cofrestru i helpu ac mae llawer ohonyn nhw nawr yn helpu staff y Gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd a'r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn ein cyfleuster ar Dominion's Way i gasglu, pecynnu a dosbarthu parseli bwyd i drigolion ledled y ddinas.
Mae Gyda'n Gilydd Dros Gaerdydd yn defnyddio ewyllys da pobl ar draws ein dinas i helpu eraill ar yr adegau heriol hyn.
Darllenwch fwy yma:
https://www.volunteercardiff.co.uk/gwirfoddoli/gydan-gilydd-dros-gaerdydd/?lang=cy
Helpwch y GIG trwy lawrlwytho App Olrhain Symptomau COVID-19
Rydyn ni'n cefnogi Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i hyrwyddo'r ap Olrhain Symptomau COVID-19, a ddatblygwyd gan Goleg King's, Llundain a'r cwmni gwyddoniaeth gofal iechyd ZOE.
Maen nhw'n gofyn i bobl lawrlwytho'r ap a chofnodi symptomau dyddiol i'w helpu i greu darlun cliriach o sut mae'r feirws yn effeithio ar bobl. Mae'r ap ar gyfer pawb, nid yn unig y rhai sydd â symptomau.
Bydd y data o'r ap Olrhain Symptomau COVID-19 yn cael ei rannu bob dydd gyda Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Bydd yn rhoi awgrym cynnar o ble fydd pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty yn y dyfodol.
Mae mwy na 38,000 o bobl yng Nghymru eisoes wedi cofrestru gyda'r ap, ond mae Llywodraeth Cymru a GIG Cymru angen cynifer â phosibl i wneud hynny i sicrhau bod y data'n ddefnyddiol.
Gallwch chi hefyd eu helpu i ddeall y feirws hwn yn well drwy lawrlwytho'r ap, a chofnodi sut rydych chi'n teimlo bob dydd.
Ymunwch â'r degau o filoedd yng Nghymru sydd eisoes yn defnyddio'r ap Olrhain Symptomau COVID-19 drwy ei lawrlwytho o'r Apple App Store neu o Google Play.
Dewiswch yr ap a ddatblygwyd gan Zoe Global Limited - chwiliwch am y logo hwn: