Back
Diweddariad COVID-19: 2 Gorffennaf

Dyma ddiweddariad COVID-19 Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys: y briodas gyntaf ers dros 3 mis yn digwydd yn Swyddfa Gofrestru Caerdydd; Hyb Llanisien a Hybiau Ystum Taf a Gabalfa i ailagor; Casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd i ddychwelyd i'r patrwm arferol ar 6 Gorffennaf; aProfi, Olrhain, Diogelu - Defnyddio'r prawf gartref coronafeirws.

 

Y briodas gyntaf ers dros 3 mis yn digwydd yn Swyddfa Gofrestru Caerdydd

Mae seremoni briodas swyddogol gyntaf Caerdydd ers dechrau pandemig Covid-19 wedi cael ei chynnal yn Swyddfa Gofrestru Caerdydd heddiw - dros 3 mis ers y briodas ddiwethaf yno.

Yn bresennol yn y seremoni fechan, oedd yn dilyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol, roedd y briodferch, y priodfab a dau dyst.

Cynhaliwyd y briodas yn sgil newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru a chyhoeddi canllawiau newydd gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, sy'n rhan o Lywodraeth y DU.

Gall hyd at 10 o westeion bellach fynychu priodasau a phartneriaethau sifil a gynhelir yn yr ystafell seremonïau fach yn y Swyddfa Gofrestru, ond rhaid dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru/Iechyd Cyhoeddus Cymru a rheolau ymbellhau cymdeithasol bob amser.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Rydyn ni wrth ein bodd bod ein gwasanaeth Cofrestru'n gallu dechrau cynnig seremonïau priodas a phartneriaethau sifil bach eto. Dydyn nhw ddim yn mynd i weddu i bawb - yn anffodus o dan reolau presennol Covid-19, bydd yn rhaid i gyplau sy'n awyddus i rannu eu diwrnod gyda theulu a ffrindiau estynedig fod yn amyneddgar - ond i'r rhai sy'n chwilio am seremoni syml gydag ond ychydig o westeion, bydd hyn yn newyddion i'w groesawu."

Nid oes modd cynnal seremonïau mewn safleoedd cymeradwy fel gwestai o hyd. Bydd angen llacio rhagor o gyfyngiadau symud cyn i'r rheiny ddigwydd eto, ac mae'r safleoedd yn disgwyl canllawiau penodol ar gyfer Cymru gan Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Gellir cynnal seremonïau mewn lleoliadau crefyddol fel eglwysi, capeli a themlau erbyn hyn hefyd, ond unwaith eto rhaid cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru/Iechyd Cyhoeddus Cymru a rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Mae brecwastau priodas yn dal i gael eu gwahardd o dan y rheolau ymbellhau cymdeithasol presennol.

 

Hyb Llanisien a Hybiau Ystum Taf a Gabalfa i ailagor

Disgwylir i ddau hyb cymunedol arall agor eu drysau yr wythnos nesaf yn rhan o'r broses o ailddechrau gwasanaethau yn hybiau'r ddinas yn raddol.

Bydd Hyb Ystum Taf a Gabalfa a Hyb Llanisien yn ailagor i gwsmeriaid, ar sail apwyntiadau'n unig (heblaw am achosion brys) ddydd Llun 6 Gorffennaf. Gellir casglu bagiau gwastraff bwyd ac ailgylchu gwyrdd heb drefnu apwyntiad hefyd.

Bydd cwsmeriaid yn gallu defnyddio'r gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu newydd yn y ddau hyb hyn, yn ogystal ag ystod o wasanaethau cyngor megis y Gwasanaeth i Mewn i Waith, tai, budd-daliadau a chyngor ariannol, lle na ellir delio gydag ymholiadau dros y ffôn neu dros e-bost.

Felly gyda'r ddau hyb hyn yn agor, gan ymuno â Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hyb Llaneirwg, Hyb Trelái a Chaerau a The Powerhouse sydd wedi aros ar agor ar gyfer apwyntiadau ac achosion brys yn unig, mae chwe hyb yn y ddinas bellach ar agor. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae hybiau Caerdydd yn gyfleusterau cymunedol pwysig ac mae ein pedwar hyb craidd sydd wedi aros ar agor trwy gydol argyfwng y Coronafeirws wedi chwarae rhan hanfodol yn ymateb y ddinas i'r pandemig.

"Ar ôl cyflwyno gwasanaeth llyfrgell clicio a chasglu newydd yn yr hybiau craidd y mis diwethaf, rwy'n falch ein bod bellach mewn sefyllfa i gynnig y gwasanaeth hwnnw a gwasanaethau cyngor a chymorth eraill ar sail apwyntiadau'n unig yn Hyb Llanisien a Hyb Ystum Taf o'r wythnos nesaf."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24241.html

 

Casgliadau gwastraff gardd wrth ymyl y ffordd i ddychwelyd i'r patrwm arferol ar 6 Gorffennaf

Mae casgliadau gwastraff gardd o ymyl y ffordd Caerdydd yn mynd i ddychwelyd bob pythefnos o ddydd Llun 6 Gorffennaf.

Gall preswylwyr wirio diwrnodau casglu gwastraff gwyrdd a dyddiadau ar gyfer eu hardal o 6 Gorffennaf yma:

http://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx

Dylai casgliadau ddilyn y patrwm yr oedd preswylwyr yn gyfarwydd ag ef cyn y cyfyngiadau.

Mae'r ffaith fod y casgliad gwastraff gardd bob pythefnos wedi'i adfer yn golygu bod pob casgliad arferol o ymyl y ffordd bellach yn ôl yn y ddinas ac eithrio'r cynllun peilot poteli gwydr a jariau.

Gofynnir i drigolion sy'n byw yn y 14,000 o gartrefi a gymerodd ran yn y cynllun peilot gwydr barhau i roi eu poteli a'u jariau yn eu bagiau ailgylchu gwyrdd, yn hytrach na'u cadi glas hyd nes y ceir hysbysiad pellach.

Er mwyn helpu staff y Cyngor i gadw'r strydoedd yn lân, gofynnir i drigolion hefyd ddefnyddio eu cadis bwyd brown ar gyfer eu holl bilion llysiau a gwastraff bwyd dros ben, a sicrhau bod eu holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu golchi cyn iddynt fynd i'r bagiau gwyrdd i'w casglu.

Yr unig wastraff y dylid ei roi yn y biniau gwyrdd yw dail, gwair wedi ei dorri, toriadau planhigion neu flodau a brigau a changhennau bychain.

 

Profi, Olrhain, Diogelu - Defnyddio'r prawf gartref coronafeirws

Os oes gennych beswch parhaus, tymheredd uchel neu rydych wedi colli'r gallu i flasu neu arogli, efallai bod gennych y coronafeirws.

Rhaid i chi ofyn am brawf cyn gynted â phosibl. Mae'r prawf yn fwy effeithiol yn ystod 5 diwrnod cyntaf y symptomau, felly dylech gymryd y prawf cyn gynted ag yr ydych yn ei dderbyn.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r prawf. Dyma Jamie Roberts I ddangos i chi sut i gymryd y prawf:

https://llyw.cymru/defnyddior-prawf-gartref-coronafeirws

Gwyliwch y fideo yma i gyd cyn cychwyn ar y broses. Gallwch ailwylio os am fynd dros unrhyw gamau penodol.

Cael prawf. Atal lledaeniad. Diogelu Cymru.