Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 27 Hydref

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: mae gwefan newydd Digwyddiadau'r Hybiau wedi'i lansio; yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; a gofalwr ysgol yn ymddeol ar ôl 22 o flynyddoedd; Gweithgareddau hanner tymor ar-lein Gŵyl Amgueddfeydd Cymru; a dwy wobr PawPrints RSPCA i Gartref Cŵn Caerdydd.

 

Mae gwefan newydd Digwyddiadau'r Hybiau wedi'i lansio

Mae gwefan newydd sbon sy'n cynnwys yr holl ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled holl Hybiau Caerdydd wedi'i lansio.

Oherwydd y cyfyngiadau presennol mae holl ddigwyddiadau'r Hybiau ar-lein am y tro, ac yn cael eu cynnal fel arfer ar Microsoft Teams neu Facebook. Mae pob digwyddiad yr Hybiau yn rhad ac am ddim i'w fynychu ac yn cynnwys pethau fel:

 

  • Dechrau Da dwyieithog
  • Llun Llawen Ar-lein
  • Gweithdy Syrcas Ar-lein Am Ddim
  • Cadwch i Symud
  • Goldies Cymru
  • Amser Stori
  • Dydd Mercher Llesiant
  • Amser Stori ac Odli
  • Yr Awr Gymdeithasol
  • A llawer o ddigwyddiadau crefft a thymhorol eraill

Mae gan yr adnodd newydd wybodaeth hefyd am yr holl Hybiau yng Nghaerdydd, megis Gwasanaethau Cynghori, Dysgu Oedolion Caerdydd, Cyngor i Mewn i Waith a Gwasanaethau Llyfrgell, yn ogystal â manylion cyswllt.

I weld yr holl ddigwyddiadau ar-lein sy'n cael eu cynnal yn ystod yr Hanner Tymor hwn a thu hwnt, ewch i:

https://hybiaucaerdydd.co.uk/

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

#ArhoswchGartrefAchubBywydau.

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

26 Hydref

 

Achosion: 1,166

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 317.8 (Cymru: 204.0achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 6,007

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,637.2

Cyfran bositif: 19.4% (Cymru: 14.9% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

 

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Gofalwr ysgol yn ymddeol ar ôl 22 o flynyddoedd

Mae Bryn Davies, y gofalwr yn Ysgol Gynradd Tredelerch ym ymddeol ar ôl 22 o flynyddoedd yn yr ysgol.

Dechreuodd Bryn yn ôl yn 1998 yn ei rôl yn ofalwr ar y ddwy ysgol ar y pryd, Ysgol Babanod a Meithrin Tredelerch ac Ysgol Iau Tredelerch. Gwelodd yr ysgolion yn cyfuno yn un a chwblhau'r gwaith adeiladu i gysylltu'r ysgolion gyda'r coridor hir.

Mae Mr Davies wedi gweld llawer o newidiadau dros y blynyddoedd a bu bob amser yn barod i ymateb i unrhyw heriau fel yr ysgol yn cael ei defnyddio fel Canolfan Gofali Blant Gweithwyr Allweddol yn ystod y cyfnod cloi. Roedd i fod i ymddeol wrth i'r cyfnod cloi ddechrau ond gwrthododd ymddeol nes i'r plant a'r staff allu ddychwelyd i'r ysgol yn ddiogel. Ymunodd Bryn yn y llu o fideos cydwefuso lles a wnaed gan y staff yn ystod cyfnod cloi y gwanwyn i adlonni'r staff a'r disgyblion, gan gynnwys ei reid mewn whilber yn ei whilber newydd!

Dywedodd y pennaeth Ms Williams, "Dyna ddiwedd y sgyrsiau cynnar am bêl-droed, tennis neu'r teledu! Dyna y sgyrsiau am sebon, papur tŷ bach, llwybrau rhewllyd, ffenestri sy'n gollwng ayyb. Does dim byd byth yn ormod o drafferth a chaiff ei ddatrys mor gyflym. Mae Bryn wedi bod yn gymaint o gymorth anhygoel ac wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad aruthrol i'r gymuned ysgol gyfan. Mwynhewch fyd newydd o amser rhydd!"

Dywedodd y Gweinyddwr Ysgol Mrs Perkins, "Mae Bryn nid yn unig yn ofalwr anhygoel, ond mae'n berson mor hyfryd, caredig a gofalgar. Dw i ddim yn credu bod y gair ‘na' yn bodoli yn ei eirfa. Pan ddaw at jobsys ac amser, ar lawer o ddydd Gwener mae mor amyneddgar pan fydd ‘Deg munud fydda' i' yn troi'n hwy o lawer. Bydd colled enfawr ar ei ôl yn Ysgol Gynradd Tredelerch."

Dywedodd disgyblion blwyddyn chwech, "Diolch am fod yn ein hysgol gyhyd. Fydd dim gofalwr arall yn debyg i chi."

Rydym i gyd yn dymuno'r gorau oll i Mr Davies wrth iddo ymddeol.

 

Gweithgareddau hanner tymor ar-lein Gŵyl Amgueddfeydd Cymru

Er gwaethaf y cyfnod cloi, mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn paratoi i'ch helpu i fwynhau #HannerTymorHanesyddol ym mis Hydref.

Mewn cydweithrediad â'r storïwr Cath Little a'r artist Chris House, mae Amgueddfa Caerdydd yn dathlu'r ŵyl gyda lansiad ffilm a gweithgaredd adrodd straeon ar-lein newydd, a fydd ar gael ar wefan yr amgueddfa i deuluoedd ei wneud gyda'i gilydd:

https://cardiffmuseum.com/cy/

Mae 'There's a Museum in my Kitchen' yn fideo animeiddiedig sy'n archwilio sut y gall gwrthrychau bob dydd ein hysbrydoli i adrodd straeon gwych.

Mae Gŵyl Amgueddfeydd Cymru yn rhedeg rhwng 24 Hydref a 1 Tachwedd eleni gyda chyfuniad o ddigwyddiadau ar-lein i bawb o bob oedran, ac mae llawer yn RHAD AC AM DDIM. Mae manylion llawn gweithgareddau Gŵyl Amgueddfeydd Cymru ar gael ar wefan yr ŵyl:

http://www.amgueddfeydd.cymru/

 

Dwy wobr PawPrints RSPCA i Gartref Cŵn Caerdydd

Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi derbyn dwy wobr PawPrints RSPCA - gwobr Aur yn y categori Cŵn Strae a gwobr Arian yng nghategori Cŵn Cwt.

Rhoddwyd y gwobrau i gydnabod y ffaith bod safon gwaith y Cartref Cŵn wrth roi cŵn mewn cytiau, a'r ffordd y mae'n gofalu am gŵn strae, yn rhagori ar ofynion sylfaenol a statudol y gwasanaeth. Caiff y gwasanaeth ei gefnogi gan elusen leol ‘The Rescue Hotel' sy'n codi arian i ddarparu gwasanaethau ychwanegol fel ymddygiadwyr cymwysedig ar gyfer cŵn sy'n aros am gael eu hailgartrefu.

Er mwyn addasu i'r heriau sy'n gysylltiedig â Covid-19 mae'r Cartref Cŵn wedi gwneud nifer o newidiadau sydd wedi gwella lles anifeiliaid ymhellach. Mae'r newidiadau'n cynnwys cyflwyno cynllun maethu newydd llwyddiannus, a system apwyntiadau i ymwelwyr sydd wedi galluogi staff i dreulio mwy o amser gyda'r cŵn yn uniongyrchol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25029.html