Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a Chanolfan Ailgylchu Ffordd Lamby ar gau er mwyn cynnal gwaith adeiladu y penwythnos nesaf.
Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 8 Chwefror
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 84,259.
Grwpiau Blaenoriaeth:
Staff cartrefi gofal: 4,342
Preswylwyr cartrefi gofal: 1,777
80 oed a hŷn: 17,588
Staff gofal iechyd: 21,893
Staff Gofal Cymdeithasol: 7,392
75-79: 9,865
70-74: 9,852
Eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 6,302
Grwpiau eraill o fewn grwpiau blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (e.e. 65-69): 5,248
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar wefan Cyngor Caerdydd.
Cafwyd y data gan BIPCAF
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (28 Ionawr - 03 Chwefror)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
7 Chwefror 2021, 09:00
Achosion: 363
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 98.9 (Cymru: 116.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,976
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,083.7
Cyfran bositif: 9.1% (Cymru: 9.8% cyfran bositif)
Chanolfan Ailgylchu Ffordd Lamby ar gau er mwyn cynnal gwaith adeiladu y penwythnos nesaf
Bydd canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby wedi cau ar y dyddiau canlynol ar gyfer gwaith adeiladu:
♻️ Dydd Sadwrn 13 Chwefror
♻️ Dydd Sul 14 Chwefror
Ni fydd modd i chi archebu apwyntiad ar gyfer y dyddiadau hyn ond rydym wedi cynyddu nifer y slotiau sydd ar gael yng Nghlos Bessemer.
Dylech ond fynd i'r ganolfan ailgylchu leol os yw'n hanfodol ac nad ydych yn gallu storio eich gwastraff a'ch deunydd ailgylchu gartref.
Archebwch eich ymweliad nesaf yma.