Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 24 Mai

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a prydau ysgol am ddim a chymorth i brynu gwisg ysgol.
 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 24 Mai

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  470,307 (Dos 1: 334,324 Dos 2:  135,964)

 

  • 80 a throsodd: 21,062 / 94.3% (Dos 1) 19,918 / 89.2% (Dos 2)
  • 75-79: 15,094 / 95.9% (Dos 1) 14,438 / 91.7% (Dos 2)
  • 70-74: 21,457 / 95.3% (Dos 1) 20,819 / 92.5% (Dos 2)
  • 65-69: 21,783 / 93.4% (Dos 1) 18,503 / 79.3% (Dos 2)
  • 60-64: 25,797 / 91.4% (Dos 1) 18,297 / 64.9% (Dos 2)
  • 55-59: 29,005 / 89.2% (Dos 1) 10,638 / 32.7% (Dos 2)
  • 50-54: 28,490 / 86.4% (Dos 1) 6,111 / 18.5% (Dos 2)
  • 40-49: 53,158 / 78.8% (Dos 1) 9,892 / 14.7% (Dos 2)
  • 30-39: 54,795 / 69.4% (Dos 1) 8,860 / 11.2% (Dos 2)
  • 18-29: 60,824 / 61.4% (Dos 1) 8,772 / 8.9% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,002 / 97.9% (Dos 1) 1,899 / 92.9% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,252 / 92.9% (Dos 1) 10,227 / 84.4% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 44,660 / 87.6% (Dos 1) 13,518 / 26.5% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (13 Mai - 19 Mai)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

23 Mai 2021, 09:00

 

Achosion: 34

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 9.3 (Cymru: 8.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,330

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 907.6

Cyfran bositif: 1.0% (Cymru: 0.9% cyfran bositif)

 

Prydau Ysgol am Ddim a Chymorth i Brynu Gwisg Ysgol

Mae teuluoedd ar incwm isel ar draws y ddinas yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim i'w plant.

Gyda llawer o deuluoedd yn wynebu anawsterau a phryderon ariannol oherwydd effaith barhaus y pandemig ar gyflogaeth ac incwm pobl, mae'r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod pawb sydd â hawl i gael cymorth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Yn ogystal â Phrydau Ysgol am Ddim, mae cymorth ychwanegol bellach ar gael i deuluoedd brynu gwisg ysgol gyda'r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ymestyn i gynnwys mwy o grwpiau blwyddyn nag erioed o'r blaen.

Gall teuluoedd â phlant yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blynyddoedd 7 i 11 wneud cais am gyllid i helpu i brynu'r wisg sydd ei angen arnynt ar gyfer yr ysgol. Gall teuluoedd hawlio £125 y plentyn a £200 os ydynt ym Mlwyddyn 7.

Mae'r estyniad i gynnwys mwy o grwpiau blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn unig ac mae gan rieni tan 30 Mehefin 2021 i wneud cais. Dim ond un grant y plentyn y flwyddyn a ganiateir fel na fydd teuluoedd sydd eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer y flwyddyn ysgol hon yn gallu hawlio eto.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Bydd llawer o deuluoedd ar draws y ddinas wedi gweld eu hincwm yn gostwng yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a bydd eraill yn profi caledi sylweddol.  O ganlyniad, bu cynnydd yn nifer y plant sy'n cael Prydau Ysgol am Ddim ac rydym am sicrhau bod pawb sydd â hawl i hawlio yn gwneud hynny.

"Mae plant yn tyfu mor gyflym, ac yn mynd trwy gyfnodau twf sydyn felly wrth i ni nesáu at yr haf, efallai y bydd angen ailgyflenwi cyflenwadau gwisg ysgol rhai teuluoedd, ond maen nhw'n poeni sut y gallant fforddio'r gost ychwanegol, felly mae hwn yn gyfle gwych i fanteisio ar ymestyn y grant i fwy o blant.

"Fel gyda Phrydau Ysgol am Ddim, mae gwneud cais yn gyflym ac yn hawdd - gallwch ei wneud ar-lein, ffonio'r Llinell Gyngor neu gael rhywfaint o help mewn hyb drwy drefnu apwyntiad gydag aelod o'n tîm.  Ond mae'r amser yn hedfan, felly gwnewch gais mewn da bryd cyn 30 Mehefin."

Er mwyn bod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a helpu i brynu gwisg ysgol, rhaid i'r rhiant/gwarcheidwad sy'n gwneud y cais fod yn derbyn un o'r canlynol:

                     Cymhorthdal Incwm

                     Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)

                     Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn seiliedig ar incwm)

                     Credyd Treth Plant, gydag incwm cartref o £16,190 neu lai

                     Credyd Pensiwn (elfen gwarant)

                     Credyd Cynhwysol gydag enillion net aelwyd o lai na £7,400

 

Nid yw Credyd Treth Gwaith yn fudd-dal cymwys.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae cymorth ar gael felly gwnewch gais.  Rydym yn gwybod na fydd llawer o deuluoedd erioed wedi bod angen gwneud cais am brydau ysgol am ddim nac am gymorth i brynu gwisg ysgol o'r blaen ond mae'r rhain yn amgylchiadau eithriadol ac rydym yn aros i gefnogi teuluoedd Caerdydd sydd angen ein help."

I gael rhagor o wybodaeth am Brydau Ysgol am Ddim a'r Grant Amddifadedd Disgyblion ac i wneud cais ewch i  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Cymorth-Ariannol/Prydau-ysgol-am-ddim/Pages/default.aspx  Os byddai'n well gennych gwblhau cais papur neu os oes angen help arnoch i gwblhau'r cais, ffoniwch 029 2087 1071.