Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 13 Awst

13/08/21

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys:Gwastraff gardd Caerdydd yn symud i gasgliadau misol,Ysgolion Caerdydd yn dathlu canlyniadau TGAU a Safon Uwch, nid oes angen apwyntiad ar gwsmeriaid bellach i ymweld â hyb neu lyfrgell i bori trwy'r llyfrau neu ddefnyddio'r cyfrifiaduron personol,nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.

 

Gwastraff gardd Caerdydd yn symud i gasgliadau misol o Ddydd Sadwrn, 14 Awst

 

Bydd casgliadau gwastraff gardd yng Nghaerdydd yn newid o gasglu bob pythefnos i gasglu bob mis o Ddydd Sadwrn, 14 Awst, wrth i'r cyngor weithio i glirio ôl-groniad o wastraff gardd ar strydoedd y ddinas a achosir gan brinder gyrwyr HGV ledled y Deyrnas Gyfunol ac effeithiau pandemig COVID-19.

Bydd y Cyngor yn defnyddio gweddill mis Awst i gasglu unrhyw wastraff gardd sy'n weddill ar y stryd a gofynnir i breswylwyr adael eu gwastraff gardd allan i'w gasglu nes iddo gael ei godi. Byddwn yn ei gasglu cyn gynted ag y gallwn a diolchwn i chi am eich amynedd. 

Bydd y casgliad gwastraff gardd nesaf yn cael ei gynnal ar ôl penwythnos Gŵyl y Banc mis Awst, gyda chasgliad pellach bob mis drwy'r hydref. Bydd y gwasanaeth parhaus hwn yn dibynnu ar fod gyrwyr ar gael. Darperir rhagor o wybodaeth am ddyddiau casglu tua diwedd mis Awst.

Credwn y bydd symud i gasgliadau gardd misol yn gynharach yn rhoi'r cyfle gorau i ni gynnal casgliadau gwastraff statudol - hynny yw gwastraff cyffredinol, gwastraff bwyd, gwastraff hylendid a deunyddiau y gellir eu hailgylchu. Mae'n rhaid i gasglu'r ffrydiau gwastraff hyn fod yn flaenoriaeth i ni wrth i ni ddelio â'r effeithiau y mae prinder gyrwyr a'r pandemig yn eu cael ar ein gweithlu.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27272.html

 

Ac am ein Holi ac Ateb ar y newidiadau, ewch ihttps://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27270.html

 

 

Ysgolion Caerdydd yn dathlu canlyniadau TGAU a Safon Uwch

 

Dathlodd miloedd o bobl ifanc ledled Caerdydd eu canlyniadau TGAU a Safon Uwch yr wythnos hon ar ôl blwyddyn hynod heriol arall.

 

Oherwydd pandemig Covid-19, cafodd llawer o ddisgyblion eu canlyniadau'n rhithwir.

Uchafbwyntiau Canlyniadau Arholiadau Ysgolion Caerdydd

  • 55.3% o Safon Uwch CBAC yn raddau A*-A
  • 90.9% o Safon Uwch CBAC yn raddau A* i C
  • 99.0% o Safon Uwch CBAC yn raddau A* i E
  • Dyfarnwyd dros draean o raddau TGAU CBAC (34.5%) yn A*-A.
  • Cynnydd o 2.8 pwynt canran mewn graddau TGAU A*-A CBAC yn 2021.
  • Mae 75% o raddau TGAU CBAC yn A*-C a 98.3% yn A*-G.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd, "Rydym wrth ein bodd yn gweld canlyniadau gwell byth yr wythnos hon i'n disgyblion hynod o weithgar.

"Rwy'n credu bod y sgiliau newydd a'r gwydnwch y mae ein myfyrwyr wedi'u datblygu yn wyneb y pandemig wedi bod o fudd iddynt a bydd yn parhau'n fuddiol iddynt ym mha beth bynnag maen nhw'n dewis ei wneud nesaf. Mae'r gwaith caled a'r ymroddiad y mae ein hathrawon a'n staff ysgol wedi'u dangos wrth ddatblygu asesiadau a sicrhau bod eu myfyrwyr wedi paratoi mor dda wedi creu argraff fawr arnaf. Mae ein disgyblion wedi dangos gwydnwch ac ymroddiad i'w hastudiaethau yn yr ysgol ac wrth weithio o bell. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni'r canlyniadau hyn."

Dywedodd Melanie Godfrey, Cyfarwyddwr Addysg, Caerdydd, "Rwy'n falch iawn o weld bod yr holl waith caled a'r ymrwymiad sydd wedi'u dangos gan athrawon a phobl ifanc wedi cael eu gwobrwyo yn wyneb yr hyn a oedd yn flwyddyn heriol dros ben. Roedd COVID yn gorfodi athrawon a myfyrwyr i addasu i ffyrdd newydd o weithio a dysgu, ac mae'r canlyniadau hyn yn dangos pa mor dda yr oedd ein myfyrwyr yn ymdopi â'r heriau a ddaeth yn sgil COVID. Mae'r holl ganlyniadau hyn yn seiliedig ar broses drylwyr o gymedroli mewnol, gwirio allanol a sicrhau ansawdd. Mae ein myfyrwyr, sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau'r canlyniadau hyn, yn gallu edrych ymlaen yn awr at ddechrau ar gam nesaf eu bywydau. Dymunaf y gorau iddynt ym mha beth bynnag y maent yn dewis ei wneud."

 

Ceir rhagor o wybodaeth am ganlyniadau Safon Uwch disgyblion Caerdyddymaa gellir dod o hyd i ganlyniadau TGAU disgyblion Caerdyddyma.

Mae amrywiaeth o gyngor a chymorth i fyfyrwyr sy'n ystyried eu cam nesaf ar gael ymahttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Gwasanaethau-i-bobl-ifanc/beth-nesaf/Pages/default.aspx

 

 

Galwch heibio i'ch llyfrgell a hyb lleol

 

 

Mae Llyfrgelloedd a Hybiau Cymunedol ledled y ddinas yn paratoi i groesawu cwsmeriaid yn ôl drwy'r drysau, heb fod angen apwyntiad.

 

O ddydd Llun, 16 Awst, ni fydd angen trefnu apwyntiad i ymweld â llyfrgelloedd a hybiau i bori'r silffoedd llyfrau, defnyddio'r cyfrifiaduron mynediad cyhoeddus neu ddefnyddio gofod astudio yn yr adeilad a gall cwsmeriaid alw heibio pan fydd yn gyfleus iddynt.

 

Bydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn dal i fod ar waith y tu mewn i'r adeiladau a bydd yn ofynnol i gwsmeriaid wisgo mwgwd, oni bai eu bod wedi'u heithrio. Bydd nifer y bobl y tu mewn i'r adeilad ar unrhyw un adeg yn cael ei monitro'n ofalus ac weithiau efallai y bydd angen i rai cwsmeriaid aros y tu allan am gyfnod byr i ganiatáu i gwsmeriaid sydd eisoes y tu mewn adael.

 

Mae sesiynau galw heibio cyngor ariannol, heb i gwsmeriaid fod angen apwyntiad, hefyd yn dychwelyd i lyfrgelloedd a hybiau yr wythnos nesaf ac mae Tîm Cyngor Ariannol y Cyngor wedi'u paratoi i gynorthwyo preswylwyr gydag ystod o gymorth gan gynnwys cyngor ar gyllidebu, gwneud yn fawr o'ch incwm, hawlio budd-daliadau, grantiau neu ostyngiadau, cyngor ar ddyledion, cymorth ariannol i arbed tenantiaeth, cymorth gyda thlodi tanwydd a llawer mwy.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27276.html

 

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (2 Awst - 8 Awst)

 

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

12 Awst 2021, 09:00

 

Achosion: 472

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 128.6 (Cymru: 144.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,939

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,346.1

Cyfran bositif: 9.6% (Cymru: 10.4% cyfran bositif)

 

 

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 11 Awst

 

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:692,483(Dos 1: 360,658 Dos 2:  331,825)

 

 

  • 80 a throsodd: 20,702 / 94.6% (Dos 1) 20,344 / 92.9% (Dos 2)
  • 75-79: 15, 083 / 96.3% (Dos 1) 14,874 / 94.9% (Dos 2)
  • 70-74: 21,461 / 95.6% (Dos 1) 21,286 / 94.8% (Dos 2)
  • 65-69: 21,955 / 94.1% (Dos 1) 21,642 / 92.8% (Dos 2)
  • 60-64: 26,014 / 92.2% (Dos 1) 25,602 / 90.7% (Dos 2)
  • 55-59: 29,325 / 90.1% (Dos 1) 28,700 / 88.1% (Dos 2)
  • 50-54: 28,952 / 87.6% (Dos 1) 28,136 / 85.2% (Dos 2)
  • 40-49: 54,906 / 81% (Dos 1) 52,408 / 77.4% (Dos 2)
  • 30-39: 59,483 / 74.3% (Dos 1) 54,325 / 67.9% (Dos 2)
  • 18-29: 77,646 / 75.1% (Dos 1) 65,209 / 63.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,894 / 98.5% (Dos 1) 1,865 / 97% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed:11,301 / 93.8% (Dos 1) 11,059 / 91.8% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:46,069 / 89.6% (Dos 1) 44,125 / 85.8% (Dos 2)

 

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser