Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 17 Medi

17/09/21

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: penodi consortiwm yn Gynigydd Llwyddiannus ar gyfer Arena Dan Do newydd Caerdydd; cynigion i brynu tir yn Llanisien; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i gyflymu cwblhau datblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol; a'r cyhoedd yn cael dweud eu dweud ar ddyfodol Ysgol Uwchradd Willows.

Penodi Consortiwm yn Ymgeisydd Llwyddiannus ar gyfer Arena Dan Do newydd Caerdydd

Mae cael Arena Dan Do newydd gyda lle i 15,000 o bobl yng Nglanfa'r Iwerydd wedi cymryd cam arall ymlaen heddiw, a hynny ar ôl cwblhau'r Achos Busnes Llawn ac adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd i benodi'r cynigydd llwyddiannus sef consortiwm Live Nation, Oak View Group fel gweithredwyr a Robertson fel datblygwr.

Bydd yr arena dan do newydd yn creu cyrchfan o'r radd flaenaf i ymwelwyr yn y DU, a allai ddenu miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn a denu dros £100m y flwyddyn i'r economi leol.

Mae'r adroddiad i'r cabinet yn gofyn iddynt gymeradwyo'r Achos Busnes Llawn, y Cytundeb Datblygu a dogfennau cyfreithiol cysylltiedig i godi'r  arena dan do newydd ac i benodi'r Consortiwm yn ffurfiol fel y cynigydd llwyddiannus.

Ystyrir yr arena dan do newydd fel y darn olaf coll yn seilwaith y ddinas sydd ei angen i gadarnhau enw da rhyngwladol Caerdydd fel dinas y digwyddiadau mawr. Mae wedi bod yn uchelgais a dyhead ers amser gan wahanol weinyddiaethau'r Cyngor, sydd wedi clustnodi cyllidebau ers 2006 i helpu i wireddu cynnig a arweiniwyd gan y sector breifat, a'i gefnogi gan y Cyngor.

Mae'r Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect o fewn 'amlen fforddiadwyedd' ar gyfer y prosiect a nodwyd ar ddechrau'r broses gaffael.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: Mae cymuned fusnes y ddinas wedi cefnogi'r prosiect ers blynyddoedd lawer, yn enwedig y sector lletygarwch. Bydd yr arena dan do newydd yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf yn y DU a bydd y manteision ariannol a ddaw yn ei sgil i Butetown a'r ardal ehangach yn sylweddol - gyda hyd at 2,000 o swyddi'n cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu a 1,000 o swyddi eraill ar waith pan fydd uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd yn cael ei wireddu.

"Drwy gyfrwng uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd, gwneir gwelliannau sylweddol i'r ardal gyhoeddus ac i gysylltiadau trafnidiaeth, a does dim dwywaith y bydd adfywio'r safle hwn yn rhoi hwb i gam nesaf yr adfywio ym Mae Caerdydd.

"Fel y gwnawn bob amser, rydym yn gweithio law yn llaw â'r sector preifat i gyflawni hyn.  Nod y Cyngor erioed oedd darparu arena o'r radd flaenaf ar sail fasnachol.  Mae'r Cyngor wedi cytuno i ddod o hyd i'r cyllid, a fydd yn cael ei adennill drwy brydles hirdymor gyda'r gweithredwyr, wedi'i warantu gan eu rhiant-gwmnïau."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27522.html

Cynigion i brynu tir yn Llanisien ar gyfer datblygiad addysg posibl yn y dyfodol

Gellid defnyddio tir a leolir yn Ffordd Tŷ Glas yn Llanisien i alluogi gweledigaeth strategol ar gyfer ysgol uwchradd gymunedol prif ffrwd ac ar gyfer darpariaeth ysgol arbennig, os bydd cynigion i brynu'r safle yn cael eu datblygu.

Mae adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn gwneud argymhellion i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer buddsoddiad strategol, a allai, yn yr hirdymor, roi cyfleoedd newydd ar gyfer darpariaeth addysg yng ngogledd y ddinas.

Pe bai'n cael ei ddatblygu, byddai hyn yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg a chymorth i sicrhau hyblygrwydd ar gyfer Addysg uwchradd yng ngogledd y ddinas. Yn amodol ar ymgynghori a chaniatâd cynllunio, gallai'r safle helpu'r ddinas yn y pen draw gyda;

  • y galw cynyddol am ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • addasrwydd yr ystâd ysgolion i ateb y galw am Ddysgu yr 21ain Ganrif
  • twf a ragfynegir mewn darpariaeth addysg sy'n deillio o'r Cynllun Datblygu Lleol

Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27533.html

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (06 Medi - 12 Medi)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

16 Medi 2021, 09:00

Achosion: 1,367

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 372.6 (Cymru: 487.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 9,795

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,669.6

Cyfran bositif: 14 % (Cymru: 16.6% cyfran bositif)

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 17 Medi

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:709,653(Dos 1: 370,072 Dos 2:  339,581)

  • 80 a throsodd: 20,551 / 94.6% (Dos 1) 20,321 / 93.5% (Dos 2)
  • 75-79: 15,050 / 96.3% (Dos 1) 14,864 / 95.1% (Dos 2)
  • 70-74: 21,441 / 95.7% (Dos 1) 21,308 / 95.1% (Dos 2)
  • 65-69: 21,957 / 94.2% (Dos 1) 21,685 / 93% (Dos 2)
  • 60-64: 26,024 / 92.3% (Dos 1) 25,680 / 91.1% (Dos 2)
  • 55-59: 29,369 / 90.3% (Dos 1) 28,816 / 88.6% (Dos 2)
  • 50-54: 29,026 / 87.9% (Dos 1) 28,319 / 85.8% (Dos 2)
  • 40-49: 55,312 / 81.6% (Dos 1) 53,119 / 78.4% (Dos 2)
  • 30-39: 60,408 / 75.3% (Dos 1) 56,026 / 69.9% (Dos 2)
  • 18-29: 79,464 / 76.4% (Dos 1) 69,681 / 67% (Dos 2)
  • 16-17: 3,863 / 70.9% (Dos 1) 280 / 5.1% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,074 / 98.1% (Dos 1) 2,074 / 96.8% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,343 / 93.8% (Dos 1) 11,068 / 91.5% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,243 / 90.1% (Dos 1) 44,495 / 86.6% (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i gyflymu'r broses o gwblhau datblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

Mae mwy o wybodaeth am y gwaith o ddatblygu'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol (PChRh) wedi'i datgelu.

Ystyrir mwy o fanylion am gynlluniau Cyngor Caerdydd i greu cyrchfan hamdden a chwaraeon o ansawdd uchel ar y safle ym Mae Caerdydd mewn adroddiad diweddaru i Gabinet yr awdurdod lleol.

Mae'r adroddiad, fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Iau 23 Medi, yn gofyn am awdurdod i gaffael gweddill y Pentref Chwaraeon o Bartneriaethau Greenbank a bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r uwchgynllun ehangach.

Bydd yr adroddiad yn gofyn am awdurdod gan y Cabinet i:

                   Brynu tua 10 erw o dir Greenbank yn natblygiad y PChRh ac Arena Iâ Cymru i atgyfnerthu perchnogaeth y Cyngor ar y safle,

                   Cyflwyno nifer o leiniau tai llai ar y farchnad i gyflymu'r broses o gwblhau'r prosiect,

                   Prynu'r Arena Iâ'n rhan o'r cytundeb gyda Greenbank i helpu'r Cyngor i gyflawni eu cynllun i sefydlu cyrchfan hamdden a chwaraeon yn y PChRh gyda'r holl gyfleusterau dan reolaeth y Cyngor. Mae'r cyfleuster hwn yn cael ei weithredu gan Cardiff Devils ar hyn o bryd a bydd hyn yn parhau hyd y gellir rhagweld.

Mae'r adroddiad yn nodi bod yr achos busnes dros y Felodrom newydd yn cael ei ddatblygu ac y caiff ei adrodd yn ôl i'r Cabinet ym mis Rhagfyr.

Mae cynlluniau busnes ychwanegol hefyd yn cael eu datblygu i adleoli cyfleuster MX (motorcross) Caerdydd i'r PChRh ac ar gyfer y Cylched Beicio Ffordd Caeedig newydd arfaethedig - gyda'r ddau'n cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet rhywbryd yn y dyfodol.

Darllenwch fwy yma:

Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i gyflymu'r broses o gwblhau datblygiad y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol (newyddioncaerdydd.co.uk)

Y cyhoedd yn dweud eu dweud am ddyfodol Ysgol Uwchradd Willows

Mae mwy na 200 o aelodau o'r cyhoedd wedi cael dweud eu dweud ar gynigion ar gyfer adeilad newydd Ysgol Uwchradd Willows yn ystod ymgysylltiad cyhoeddus chwe wythnos a oedd yn gofyn am farn rhieni, disgyblion, rhanddeiliaid a'r gymuned leol.

Bydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad i fynd i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 23 Medi a bydd yn dylanwadu ar adeilad newydd yr ysgol, ei chyfleusterau, ei chwricwlwm a sut y gallai'r ysgol a'r gymuned leol weithio er budd ei gilydd. 

Roedd y rhan fwyaf o'r safbwyntiau yn cefnogi'r cynlluniau, gydag adborth cadarnhaol ar gynigion ar gyfer cyfleusterau, cymorth ar gyfer dyheadau disgyblion drwy weithio mewn partneriaeth a sut y bydd buddsoddi'n sicrhau gwell addysg ac amwynderau cymunedol i gymunedau Adamsdown a Sblot.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae cartref newydd i Ysgol Uwchradd Willowsyn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol, gan ddarparu cyfleusterau addysgol llawer gwell mewn ysgol newydd sbon yn ogystal ag amwynderau rhagorol sy'n hygyrch i'r gymuned gyfan.

"Bydd barn pobl leol yn chwarae rhan annatod yn y cynllun ac mae'n addawol bod cynifer o ymatebion a gafwyd wedi bod i gefnogi datblygiad newydd yr ysgol.

"Gofynnodd yr ymgysylltu â'r cyhoedd am farn ar yr hyn y dylid ei ddysgu yn yr ysgol a sut y dylid ei gyflwyno. Roedd yr ymatebion yn cefnogi ffocws ar gydweithio ag ystod eang o bartneriaid yn y diwydiant, gan alluogi disgyblion i elwa ar gwricwlwm cyfoethog sy'n rhoi cyfleoedd dysgu 'byd go iawn', gan eu hysbrydoli a helpu i ddatblygu eu sgiliau i fod yn ddysgwyr gwydn, arloesol a datrys problemau.

"Mae'r adroddiad hefyd yn nodi llu o fanteision cymunedol sydd ar gael gan gynnwys mynediad i'r radd flaenaf, cyfleusterau modern, TGCh ac integreiddio â phartneriaid a busnesau'r ddinas."

Darllenwch fwy yma:Y CYHOEDD YN DWEUD EU DWEUD AM DDYFODOL YSGOL UWCHRADD WILLOWS (newyddioncaerdydd.co.uk)