Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 22/11/21

 

19/11/21 - Caerdydd Yn Gosod Cartrefi Gwyrdd, Fforddiadwy Sydd Y Cyntaf O'u Math

Mae Wates Residential a Chyngor Caerdydd yn gosod cartrefi modiwlar, cynaliadwy cyntaf Caerdydd, ar safle tir llwyd ar Crofts Street, Plasnewydd, wrth i'r Cyngor gynyddu ei ddarpariaeth o dai fforddiadwy i drigolion lleol ar restrau aros tai a'r rhai mwyaf anghenus.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28042.html

 

19/11/21 - Gorchymyn Dymchwel Tafarn y Roath Court - Datganiad y Cyngor

Yn dilyn penawdau camarweiniol yn y cyfryngau ynglŷn â sut rhoddwyd caniatâd i ddymchwel hen dafarn y Roath Court ar Heol y Plwca, mae'r cyngor am i drigolion wybod nad oes gan y pwyllgor cynllunio bŵer i atal tirfeddianwyr preifat rhag dymchwel eu hadeiladau. Ystyrir bod hyn yn 'ddatblygiad a ganiateir' o dan ddeddfwriaeth gynllunio.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28040.html

 

19/11/21 - Parc Bute yn bownsio'n ôl diolch i ysbryd cymunedol

Yn y cyfnod cyn Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr ar Dydd Sul 5 Rhagfyr, rydym am ddathlu gwirfoddolwyr Parc Bute a grwpiau Cyfeillion sydd wedi bod yn brysur yn gweithio'n galed i wneud y parc yng nghanol dinas Caerdydd yn fwy diogel ac yn lanach i drigolion ac ymwelwyr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28038.html

 

18/11/21 - Yr Eglwys Norwyaidd: Y wybodaeth ddiweddaraf am achub adeilad treftadaeth Caerdydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Mae cynlluniau Cyngor Caerdydd i sicrhau dyfodol yr Eglwys Norwyaidd wedi cymryd cam ymlaen yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet heddiw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28033.html

 

18/11/21 - Cymeradwyo cynlluniau i sicrhau dyfodol yr Hen Lyfrgell

Mae cynlluniau Cyngor Caerdydd i sicrhau dyfodol yr Hen Lyfrgell wedi cymryd cam ymlaen yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet heddiw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28028.html

 

18/11/21 - Caerdydd ar y trywydd iawn i fod yn un o'r awdurdodau mwyaf blaenllaw yng Nghymru o ran monitro aer

Mae Caerdydd yn barod i fwrw ymlaen â chynlluniau i greu un o'r systemau monitro ansawdd aer fwyaf datblygedig yng Nghymru.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28031.html

 

17/11/21 - RHYBUDD SGÀM – Christmas Festival of Light

Rydym wedi cael gwybod am sgàm newydd sy'n ymwneud â 'Christmas Festival of Light'.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28012.html

 

15/11/21 - Ymchwiliadau tir yn dechrau yn Argae Parc y Rhath

Rydym wedi dechrau'r gwaith o ymchwilio i dir Argae Parc y Rhath i sicrhau y gellir mwynhau un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd yn ddiogel nawr ac yn y dyfodol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27995.html

 

15/11/21 - Eich Pleidlais. Eich Llais.

Mae pobl ifanc a gwladolion tramor cymwys sy'n byw yng Nghaerdydd yn cael eu hannog i gofrestru i bleidleisio, yn dilyn newidiadau i'r gyfraith sy'n golygu y gallant bleidleisio mewn etholiadau Llywodraeth Leol am y tro cyntaf.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27993.html

 

15/11/21 - Dathlu nodau Cyflog Byw'r Ddinas yn ystod yr Wythnos Cyflog Byw flynyddol

Ar ugeinfed pen-blwydd y mudiad Cyflog Byw ac yn ystod yr Wythnos Cyflog Byw flynyddol eleni (15-21 Tachwedd), mae Caerdydd yn dathlu un o'i blynyddoedd mwyaf llwyddiannus o gefnogi sefydliadau yn y ddinas i ddod yn gyflogwyr Cyflog Byw.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27987.html

 

15/11/21 - Mae Ceisiadau Ysgolion Cynradd ar agor nawr

Mae ceisiadau am leoedd mewn ysgolion cynradd i ddechrau ym mis Medi 2022 yn agor heddiw, (dydd Llun 15 Tachwedd 2021) ac mae rhieni'n cael eu hannog i ddefnyddio'r tri dewis i gael y cyfle gorau i gael lle mewn ysgol a ffefrir ganddynt.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27985.html

 

15/11/21 - Llais Pobl Ifanc ar Ddiogelu: Sicrhau bod pobl ifanc yng Nghaerdydd yn ddiogel, yn hapus ac yn ffynnu

Mae dogfen sy'n nodi amcanion clir i wella bywydau plant a phobl ifanc, wrth gyflwyno cyfleoedd gwirioneddol i'w grymuso i fwynhau bywydau gwell yng Nghaerdydd, wedi'i rhyddhau.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/27983.html