Back
Crynodeb Dydd Mercher Rhagfyr 29: Straeon Ystafell Newyddion Caerdydd y gallech fod wedi'u colli yr wythnos diwethaf.

 

23/12/21 - Atyniadau a theatrau Gŵyl y Gaeaf i gau wrth i Gymru symud i Lefel Rhybudd 2

Bydd nifer o atyniadau Nadolig Caerdydd yn cau ar ddiwedd y dydd ar Noswyl Nadolig yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Cymru'n symud i Lefel Rhybudd 2.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28247.html

 

23/12/21 - Mynegi eich barn ar gynlluniau Caerdydd i ehangu ac ad-drefnu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar gyfres o gynlluniau sylweddol i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC) ac anghenion iechyd a lles

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28244.html

 

22/12/21 - Casgliadau gwastraff Caerdydd ddim yn newid dros yr ŵyl ond bydd y cyngor yn cynnig casgliad coed Nadolig ym mis Ionawr

Er na fydd unrhyw newidiadau i ddiwrnodau casglu ailgylchu a gwastraff dros y Nadolig, mae Cyngor Caerdydd yn trefnu casgliadau coed Nadolig yn ystod pythefnos cyntaf mis Ionawr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28242.html

 

20/12/21 - Dweud eich dweud ar gynlluniau'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol

Mae arolwg sy'n gwahodd aelodau o'r cyhoedd i ymateb i Uwchgynllun Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (ISV), bellach ar agor.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28232.html