Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 08 Chwefror 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: gwaith celf i ddathlu Mis Hanes LHDTC+ wedi'i beintio ar Stryd y Castell; cyngor teithio ar gyfer Cymru v Yr Alban ar 12 Chwefror; daw'r Gwanwyn ar ddwy olwyn; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion Caerdydd.

 

Gwaith celf i ddathlu Mis Hanes LHDTC+ wedi'i beintio ar Stryd y Castell

I ddathlu Mis Hanes LHDTC+ eleni, datgelwyd gwaith celf newydd ar Stryd y Castell, gyda phedair baner balchder wedi'u peintio ar y lôn gerbydau i ddathlu a chofio hanes, bywydau a phrofiadau'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol+ yng Nghaerdydd.

Mae eleni'n nodi 50 mlynedd ers gorymdaith Pride gyntaf y DU ym 1972, sy'n garreg filltir allweddol o ran cydraddoldeb yn y Mudiad Hawliau Hoyw cynnar.

'Celf' yw'r thema eleni, gan archwilio syniadau o fynegiant creadigol er cynnydd gwleidyddol.  Y dewis bennawd yw, 'Mae'r Bwa yn Hir', a gymerwyd o ddyfyniad Dr Martin Luther King Jr, 'Mae bwa'r bydysawd moesol yn hir, ond mae'n gwyro tuag at gyfiawnder'.

Mae'r gwaith celf newydd ar Stryd y Castell yn adeiladu ar chwe lliw traddodiadol y faner balchder wreiddiol i gynnwys streipiau du a brown i gynrychioli cymunedau LHDTC+ croenliw, yn ogystal â phinc, glas golau a gwyn, sy'n cynrychioli'r gymuned drawsryweddol.

Mae'r gwaith celf yn gynrychiolaeth weledol i ddangos cefnogaeth y ddinas i gydraddoldeb ac amrywiaeth ym Mhrifddinas Cymru - nid croesfan i gerddwyr ydyw.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad:

"Ers Chwefror 1af, mae Castell Caerdydd wedi cael ei oleuo â lliwiau'r enfys i nodi dechrau Mis Hanes LHDTC+ eleni. Gan mai celf yw'r thema, roeddem am sicrhau bod y dyluniadau balchder blaengar newydd mor weladwy â phosibl i'r cyhoedd, felly dyma pam eu bod nhw wedi cael eu peintio ar Stryd y Castell, y prif dramwyfa drwy ganol y ddinas.

"Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol sydd wedi ymrwymo i sicrhau cymdeithas deg i bawb ac rydym yn falch iawn o hynny. Waeth beth fo'chhil, credoau crefyddol, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, neu rywedd, mae ein gwasanaethau a'n cefnogaeth ar agor i bawb ac fel cymdeithas mae'n rhaid i ni gofleidio gwahaniaeth a phwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb a chynhwysiant i bawb. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda'r gymuned ac eraill i wneud Caerdydd mor ddiogel a chynhwysol â phosibl."

 

Cyngor teithio ar gyfer Cymru v Yr Alban ar 12 Chwefror

Bydd Cymru'n herio Yr Alban ddydd Sadwrn 12 Chwefror yn Stadiwm Principality.

Bydd Cymru'n herio Yr Alban ddydd Sadwrn 12 Chwefror yn Stadiwm Principality.

Gyda'r gic gyntaf am 2.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 10.15am tan 6.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn i'r stadiwm yn ddiogel.

Cynghorir y rhai a fydd yn mynychu'r gêm i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir yn  principalitystadium.wales  cyn teithio i'r ddinas.

Darllenwch fwy yma

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28463.html

 

Daw'r Gwanwyn ar Ddwy Olwyn

Mae ymgyrch Daw'r Gwanwyn ar Ddwy Olwyn - ymgyrch a gynlluniwyd i annog mwy o bobl i feicio a pharatoi eu beiciau ar gyfer y ffordd erbyn y Gwanwyn - yn dod i Gaerdydd.

Bydd y digwyddiadau sy'n addas i deuluoedd, a redir gan Gyngor Caerdydd a'i bartneriaid, yn cynnwys adloniant, cerddoriaeth fyw a rhoddion ar ffurf cit beicio.  Bydd modd i drigolion gael eu beiciau wedi'u gwirio gan weithwyr proffesiynol, cael mân atgyweiriadau wedi'u gwneud, a chael tagiau diogelwch gan Heddlu De Cymru mewn pedwar digwyddiad am ddim a gynhelir yn Grangetown, Treganna, Sblot a chanol y ddinas.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae mwy a mwy o bobl yn beicio yng Nghaerdydd a chyda'r Gwanwyn ar y gorwel mae'n amser da i bobl fynd i nôl eu hen feiciau o'r garej.

"Yn ystod y pandemig mae'r cyngor wedi bod yn gweithio'n galed yn adeiladu cyfres o lwybrau beicio ar wahân newydd sbon a gwneud gwelliannau i'r seilwaith, felly rydym am i bobl ddod draw i baratoi eu beiciau a gweld beth sydd ar gael i feicwyr ledled y ddinas y dyddiau hyn.

"Bydd y rhain yn ddigwyddiadau hwyliog i'r teulu cyfan gyda llawer o adloniant a rhoddion ac, yn ogystal â sicrhau bod eich beic yn ddiogel, byddwch yn gallu dysgu am yr holl lwybrau beicio newydd, sut maen nhw'n gweithio a gweld mapiau o'r holl lwybrau."

Darllenwch fwy yma

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28467.html

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 01 Chwefror 2022

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  1,071,034 (Dos 1: 400,563 Dos 2:  373,953 DOS 3: 7,991 Dosau atgyfnertha: 288,417)

Data Cohort - Diweddarwyd ddiwethaf 31 Ionawr 2022

 

  • 80 a throsodd: 19,824 / 94.8% (Dos 1) 19,687 / 94.1% (Dos 2 a 3*) 18,263 / 92.8% (Dosau atgyfnertha)
  • 75-79: 14,894 / 96.6% (Dos 1) 14,776 / 95.8% (Dos 2 a 3*) 13,644 / 92.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 70-74: 21,382 / 96% (Dos 1) 21,260 / 95.4% (Dos 2 a 3*) 19,800 / 93.1% (Dosau atgyfnertha)
  • 65-69: 22,002 / 94.6% (Dos 1) 21,767 / 93.6% (Dos 2 a 3*) 20,079 / 92.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 60-64: 26,174 / 92.7% (Dos 1) 25,854 / 91.6% (Dos 2 a 3*) 23,587 / 91.2% (Dosau atgyfnertha)
  • 55-59: 29,523 / 90.6% (Dos 1) 29,079 / 89.3% (Dos 2 a 3*) 26,254 / 90.3% (Dosau atgyfnertha)
  • 50-54: 29,269 / 88.5% (Dos 1) 28,693 / 86.7% (Dos 2 a 3*) 25,425 / 88.6% (Dosau atgyfnertha)
  • 40-49: 56,160 / 82.5% (Dos 1) 54,528 / 80.1% (Dos 2 a 3*) 45,581 / 83.6% (Dosau atgyfnertha)
  • 30-39: 62,692 / 77.3% (Dos 1) 59,307 / 73.1% (Dos 2 a 3*) 43,016 / 72.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 18-29: 84,855 / 78.9% (Dos 1) 76,837 / 71.4% (Dos 2 a 3*) 47,427 / 61.7% (Dosau atgyfnertha)
  • 16-17: 4,279 / 78.9% (Dos 1) 3,345 / 60.3% (Dos 2 a 3*) 218 / 6.5% (Dosau atgyfnertha)
  • 12-15: 17,208 / 61.5% (Dos 1) 10,204 / 36.4% (Dos 2 a 3*)

 

  • Yn ddifrifol imiwno-ataliedig: 6,923 / 98% (Dos 1) 6,199 / 87.7% (Dos 2 a 3*) 23 / 0.4% (Dosau atgyfnertha)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,008 / 98.5% (Dos 1) 1,992 / 97.7% (Dos 2 a 3*) 1,836 / 92.2% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr cartrefi gofal: 3,685 / 99% (Dos 1) 3,633 / 97.6% (Dos 2 a 3*) 2,887 / 79.5% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Iechyd: 27,158 / 98.2% (Dos 1) 26,890 / 97.2% (Dos 2 a 3*) 24,111 / 89.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Gweithwyr Gofal Cymdeithasol**: 9,941 / 97% (Dosau atgyfnertha)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,195 / 94.8% (Dos 1) 11,031 / 93.4% (Dos 2 a 3*) 6,374 / 57.8% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 46,194 / 90.8% (Dos 1) 44,883 / 88.2% (Dos 2 a 3*) 38,032 / 84.7% (Dosau atgyfnertha)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol(12-15): 736 / 67.2% (Dos 1) 561 / 51.2% (Dos 2 a 3*) 72 / 12.8% (Dosau atgyfnertha)

 

*Y rhai sydd wedi derbyn dau ddos o frechlyn COVID-19, ac eithrio'r rhai sy'n ddifrifol imiwn ataliedig yr argymhellir eu bod yn cael tri dos.

**­Data gymerwyd o ffynhonnell amgen.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (28 Ionawr - 03 Chwefror 2022)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

07 Chwefror 2022

Achosion: 1,944

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 529.8 (Cymru: 443.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,162

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,406.9

Cyfran bositif: 37.7% (Cymru: 32.5% cyfran bositif)