Back
Dewch i ddathlu Gemau Retro yn Amgueddfa Stori Caerdydd

[image]

Dewch draw i Amgueddfa Stori Caerdydd am gyfle i fod yn blentyn eto gan ddathlu gemau o'r oes a fu mewn diwrnod llawn hwyl i'r teulu.

Caiff y Diwrnod Gemau Retro ei gynnal yn yr amgueddfa ddydd Mercher 30 Awst rhwng 10am a 3pm.

Bydd teganau a gemau o oes Fictoria hyd at y 1970au yn cael eu harddangos a bydd gan blant hefyd gyfle i greu eu tegan retro eu hunain mewn gweithdai crefft.

Dywedodd Rheolwr Amgueddfa Stori Caerdydd, Victoria Rogers: "Bydd plant yn gallu creu eitemau megis doliau a chardiau snap yn ein sesiynau crefft ac rydym ni'n gobeithio y bydd aelodau hŷn o'r teulu yn mwynhau hel atgofion wrth i ni eu hailgyflwyno i deganau a gemau o'u plentyndod. Gwyddom y gall hel atgofion gynnig manteision therapiwtig i'r rhai hynny sy'n dioddef o golli cof, a chyda hyn mewn golwg, mae gennym ni stondin bocs atgofion o'r 1970au gyda gwrthrychau, darluniau a straeon o'r degawd hwnnw yr ydym ni'n gobeithio a fydd yn ysgogi atgofion melys ac yn creu trafodaeth. Ond prif thema'r dydd yn sicr yw hwyl i'r teulu wrth i ni ddathlu gemau a theganau sydd wedi dod â chymaint o bleser dros y blynyddoedd."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden yng Nghyngor Caerdydd, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Boed yn drac Scalextric, Buckaroo neu'r hynod boblogaidd Snakes & Ladders ; roedd gan bob un ohonom ein hoff gêm pan oeddem yn blant. Bydd y Diwrnod Gemau Retro yn Amgueddfa Stori Caerdydd yn gyfle perffaith i deuluoedd hel atgofion am y gemau yr oeddent yn arfer eu chwarae wrth dyfu i fyny. Pwy a ŵyr, efallai y bydd yn annog teuluoedd i chwarae gêm fwrdd ar ôl iddynt ddychwelyd gartref!"

Drwy gydol y dydd, bydd hefyd gystadlaethau dawnsio hwla a io-io yn yr amgueddfa.