Back
Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau Cyngor Caerdydd

Tîm Cynnal a Chadw'r Gaeaf

Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio'n ddiflino i raeanu'r priffyrdd ledled Caerdydd. Oherwydd yr amgylchiadau dros nos, aeth yn anodd iawn i fynd a dod ar y ffyrdd.

Ond oherwydd y gwaith a wnaed ni chafwyd nifer fawr o gerbydau wedi'u gadael ar ochr y ffordd, a llwyddodd y rhan fwyaf o bobl i gyrraedd adref yn ddiogel.

Mae'r gwaith o raeanu'r ffordd yn mynd rhagddo drwy'r dydd, ond wrth i'r tywydd garw barhau, mae'r graeanu yn cael llai o effaith. Mae sawl Jac-codi-baw wedi bod ar waith dros nos yn clirio'r eira (dim ond pan mae'r eira yn 4-5cm o ddyfnder y daw'r cerbydau hyn allan).

Oherwydd y rhybudd coch na welwyd ei debyg ers tro, bydd y ffyrdd yn parhau yn beryglus drwy gydol y dydd a'r nos, felly rydym yn argymell i chi beidio â gyrru oni bai bod gwirioneddol angen.

Mae pob un o gerbydau graeanu'r Cyngor allan yn clirio ac yn graeanu ar hyd y priffyrdd. Gallwch weld y ffyrdd hynny yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/Gwaith-Cynnal-a-Chadw-Ffyrdd-yn-y-Gaeaf/Pages/Gwaith-Cynnal-a-Chadw-Ffyrdd-yn-y-Gaeaf.aspx

Mae Landrover ac ôl-gerbyd hefyd yn graeanu'r ffyrdd mewnol yn Ysbyty'r Waun i sicrhau bod y gwasanaethau brys yn gallu mynd a dod.

Canolfan Gyswllt Caerdydd C2C

Mae'r Cyngor wedi derbyn nifer fawr o alwadau yn ymwneud â'i eiddo, a llwyddwyd i fynychu dros 100 o adeiladau neithiwr i helpu'r trigolion. Oherwydd yr amodau difrifol rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r achosion hynny lle mae bywydau mewn perygl. Gofynnwn i drigolion fod yn amyneddgar gan bod y galw am y gwasanaethau hyn yn uchel iawn mewn tywydd garw.

Gwasanaethau Profedigaeth

Bydd pob mynwent ar gau heddiw gan fod Ymgymerwyr wedi gohirio claddedigaethau.

Casgliadau Gwastraff, Ailgylchu, Swmpus a Masnachol

 Mae'r holl gasgliadau ailgylchu a gwastraff wedi'u canslo heddiw ac yfory.Mae hyn yn cynnwys casgliadau gwastraff swmpus a chasgliadau hylendid.

Gweithrediadau Glanhau

 Mae pob gweithiwr glanhau sydd ar gael yn gweithio ar gynnal a chadw gaeafol. 

Addysg a Gorfodi Gwastraff

 Nid yw'r gwasanaethau addysg a gorfodi ar waith heddiw ac mae staff wrthi'n ail-lenwi'r biniau graean.

 Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref

 Mae pob CAGC ar gau heddiw oherwydd y tywydd garw.

Ysgolion

Cynghorir rhieni i gadw llygaid am negeseuon gan eu hysgolion i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Parciau

Mae pob un o barciau'r Cyngor ar agor.

Hybiau ledled y ddinas

Llwyddodd rhai Hybiau i agor heddiw, ond caeodd pob un erbyn 2pm.

Mae Llyfrgell Treganna bellach wedi cau.

Caeodd Hyb Butetown am 2pm

Caeodd Hyb Grangetown am 2pm

Mae Hyb Star ar gau

Mae Hyb Trelái a Chaerau ar gau

Mae Hyb y Tyllgoed ar gau

Mae Hyb Ystum Taf ar gau

Caeodd Hyb y Powerhouse am 2pm

Mae Hyb Llanisien ar gau

Mae Hyb Llaneirwg ar gau

Mae Hyb Llanrhymni ar gau

Mae Hyb Tredelerch ar gau.

Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae Canolfan John Kane (Tîm Troseddau Ieuenctid) ar gau heddiw a chaiff galwadau eu cyfeirio at weithiwr ar ddyletswydd.

Mae Llaneirwg (Gwasanaeth Maethu) ar gau heddiw a chaiff galwadau eu cyfeirio at weithiwr ar ddyletswydd.

 Mae Neville Street (Canolfan Adnoddau'r Glasoed) ar gau heddiw.

Mae Hafan Gobaith (Gwasanaeth Plant sy'n Derbyn Gofal/Cynghorydd Personol) ar agor ar hyn o bryd ond caiff y sefyllfa ei hadolygu'n gyson yn ystod y dydd.

Y Digartref a Hostelau

Mae'r Ganolfan Dewisiadau Tai ar agor ac mae ein Tîm Allgymorth yn gweithio bob awr o'r dydd i helpu'r rhai hynny mewn angen.

Pryd ar Glud

Mae Prydau ar Glud yn dal i gael eu cludo ar draws y ddinas mewn cerbydau 4x4.Mae'r Cyngor yn cysylltu â chwsmeriaid os oes oedi yn y gwasanaeth.

Digwyddiadau

Mae sioeauNeuadd Dewi Santwedi cael eu canslo heddiw a ddydd Sadwrn, ac nid oes disgwyl iddyn nhw ail agor tan ddydd Sul.

Cafodd y perfformiad yn yTheatr Newyddhefyd ei ganslo heddiw, a chaiff y sefyllfa ei hadolygu yfory.

Mae'rEglwys Norwyaiddar gau.

MaeAmgueddfa Stori CaerdyddaMarchnad Caerdyddar gau.