Back
Cyngor Caerdydd yn cynnal astudiaeth ar aer glân yn dilyn cyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru

Mae adroddiad yn dilyn cyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru yn argymell y dylai Cyngor Caerdydd gynnal astudiaeth o ddichonoldeb i bennu a oes angen Ardal Aer Glân yn y ddinas, wedi’i gymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet heddiw. 

Mae'r adroddiad yn nodi bod "aer o ansawdd gwael bellach yn cael ei ystyried fel y perygl amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU", a bod "tystiolaeth wyddonol gadarn" yn cysylltu llygredd â lleihad mewn disgwyliad oes.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild, Mae effaith llygredd aer ar iechyd trigolion Caerdydd yn amlwg yn broblem y mae angen i ni ei hystyried o ddifri.Mae'r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod y nifer o farwolaethau y flwyddyn y gellir eu priodoli i ansawdd aer gwael wedi cynyddu i fwy na 225 ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg, felly mae gwella'r aer y byddwn yn ei anadlu wedi dod bellach yn fater o fywyd neu farwolaeth.

"Fel pob dinas fawr yn y DU mae tagfeydd traffig yn cael effaith ar iechyd pobl.Mae Llywodraeth Cymru wedi'n cyfarwyddo ni i gynnal astudiaeth o ddichonoldeb aer glân a fydd yn nodi'r problemau yng Nghaerdydd.Rydym eisoes yn gwybod bod angen i'n system drafnidiaeth newid ac yn ein Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân a gyhoeddwyd yn ddiweddar, fe ddechreuon ni gynnal sgwrs â phobl Caerdydd am ystod o bosibiliadau uchelgeisiol - ond y gellir eu gwireddu - a allai newid y modd y byddwn yn symud o le i le yng Nghaerdydd.

"Mae Ardal Aer Glân yn rhywbeth efallai y bydd yn rhaid i ni ei ystyried os, fel y cyfarwyddwyd i ni, yr ydym i gydymffurfio â chyfyngiadau cyfreithiol ar ansawdd aer yn y cyfnod byrraf posibl.Mae Ardaloedd Aer Glân wedi bod yn fodd effeithiol o leihau llygredd aer mewn dinasoedd ledled y byd, ond mae golwg ychydig yn wahanol ar bob un ohonynt - rhai, fel y rheiny yn Stuttgart a Berlin, yn gwahardd y cerbydau mwyaf llygredig, ac mae Llundain wedi cyflwyno codi Taliad Gwenwyno sy'n targedu'r cerbydau mwyaf llygredig drwy godi tâl. Mae rhai Ardaloedd Aer Glân, fel yn Rhydychen, yn ymestyn dros y ddinas gyfan, ond mae eraill yn canolbwyntio ar ardaloedd penodol. 

"Yr hyn sydd yn bwysig i ni yw cael sgwrs â phobl Caerdydd am y modd y gallai newidiadau effeithio arnynt, fel y gallwn geisio sicrhau bod tegwch a chydraddoldeb yn ganolog i wneud penderfyniadau.Byddwn yn annog pobl i ymuno yn y sgwrs ynghylch ein papur gwyrdd ac i fynegi eu barn." 

Mae'r cyfarwyddyd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru yn golygu y bydd rhaid i Gaerdydd nodi dewisiadau erbyn 30 Mehefin 2019 ar gyfer cydymffurfio â therfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr amser byrraf posibl.Mae tair dinas yn Lloegr (Bryste, Manceinion a Sheffield) hefyd wedi derbyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth y DU i gwblhau astudiaethau o ddichonoldeb o'r fath ond o fewn cyfyngiadau amser gwahanol, ac mae Birmingham, Leeds a Nottingham wedi eu cyfarwyddo i gyflwyno Ardaloedd Aer Glân. 

Mae'r Cyngor wedi lansio papur gwyrdd ar Aer Glân yn y ddinas ac yn annog preswylwyr i gymryd rhan yn y sgwrs am y syniadau mawr a allai lunio dyfodol system drafnidiaeth Caerdydd a golwg a naws y ddinas yn y dyfodol.

Mae'r Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân ar gael i'w weld yma  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Parcio-Ffyrdd-a-Theithio/papur-gwyrdd-trafnidiaeth-ac-aer-glan/Pages/default.aspx ac mae cyfres o gwestiynau wedi eu holi ym mhob adran er mwyn derbyn adborth gan breswylwyr ar y cynigion a'r syniadau cyn cau'r ymgynghoriad ar 1 Gorffennaf.

Sut mae cymryd rhan - ymunwch yn y sgwrs drwy:

  • Gwblhau ein harolwg ar-lein yn  https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=152154762388
  • E-bostio sylwadau yn uniongyrchol atom yn:  ymgynghoriad@caerdydd.gov.uk
  • Ymatebwch yn ysgrifenedig i: Canolfan Ymchwil Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW
  • Cysylltwch â ni ar Facebook / Twitter: @cyngorcaerdydd