Back
Cynllun peilot ailgylchu gwydr newydd i ddechrau ym mis Hydref

 

Bydd tua 17,000 o eiddo yn peilota cynllun newydd i ailgylchu gwydr o'u cartrefi.

Bydd y cynllun peilot yn dechrau ar 15 Hydref a bydd yn para am o leiaf 12 wythnos. Bydd yn cynnwys aelwydydd dethol o ddeg ward ar draws y ddinas.

Bydd preswylwyr a fydd yn rhan o'r cynllun hwn yn derbyn llythyr a anfonir i'w cartrefi gyda gwybodaeth am y cynllun peilot o 10 Medi ymlaen.

Bydd pob aelwyd sy'n cymryd rhan yn derbyn cadi newydd a thaflen fanwl o 1 Hydref. Bydd gofyn i breswylwyr roi ei holl wydr yn y cynhwysydd y gellir eu cloi yn lle'r bagiau gwyrdd. Yna caiff y gwydr ei gasglu bob pythefnos ar yr un diwrnod â chesglir eu gwastraff cyffredinol (bin du/ bagiau streipiau coch).

Ni chaiff bagiau gwyrdd sy'n cynnwys gwydr o eiddo ar y cynllun peilot eu casglu mwyach o 15 Hydref ymlaen.

Bydd y cynllun peilot yn asesu a fydd casglu gwydr ar wahân i eitemau eraill y gellir eu hailgylchu'n cynyddu ansawdd yr eitemau, gan leihau'r gost i'r Cyngor ac arbed arian i drethdalwyr.

Ar hyn o bryd caiff y bagiau gwyrdd eu cludo i gyfleuster ailgylchu a adwaenir fel Cyfleuster Adfer Deunyddiau. Mae'r peiriant yn gwahanu'r eitemau y gellir eu hailgylchu yn ôl maint a phwysau trwy ddefnyddio echelydd troi a beltiau cludo. Ac eithrio'r gwydr, caiff y deunydd wedi'i ailgylchu ei fyrnu a'i werthu i greu eitemau newydd.

Trwy'r broses wahanu hon yn y safle ailgylchu, caiff y gwydr ei dorri'n ddarnau bach ond yn aml caiff ei gymysgu â deunyddiau eraill. Mae hyn yn golygu bod rhaid i'r Cyngor dalu cwmni i'w lanhau cyn y gellir ei ailgylchu. Yn y diwedd defnyddir y gwydr wedi'i dorri i greu agreg ar gyfer adeiladu ffyrdd neu mewn deunydd inswleiddio.

Trwy'r dull casglu newydd, mae'r Cyngor yn bwriadu gwerthu'r gwydr, gan greu llawer o incwm mawr ei angen i'w roi'n ôl i wasanaethau'r Cyngor. Y bwriad yw dod o hyd i farchnadoedd newydd er mwyn troi poteli gwydr yn gynhyrchion gwydr newydd, proses a adwaenir fel ailgylchu dolen gaeedig.

Y Cynghorydd Michael Michael, Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu, sy'n gyfrifol am y cynllun ac os bydd y peilot yn llwyddiannus mae'n awyddus ei ehangu i bob ward yn y ddinas.

Meddai'r Cynghorydd Michael, "Pan ddechreuodd casgliadau ailgylchu yng Nghaerdydd, roeddem yn awyddus iawn i'w gwneud mor hwylus â phosib i breswylwyr trwy ofyn iddynt roi'r holl ddeunyddiau mewn un cynhwysydd - y bagiau gwyrdd. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan mai Caerdydd yw'r ddinas graidd ailgylchu orau yn y DU.

"Mae angen i ni fireinio'r broses bellach trwy gasglu gwydr ar wahân. Rydym wedi dadansoddi'r gwahanol fathau o wastraff y mae preswylwyr yn eu rhoi allan i'w hailgylchu ac, yn ôl cyfaint (swm), dim ond ychydig bach o'r deunydd sy'n wydr. Rydym wedi dethol maint y cynhwysydd yn ofalus i sicrhau ei fod yn ddigonol i'r rhan fwyaf o aelwydydd a phan fydd yn llawn, ni fydd yn rhy drwm i'n staff casglu gwastraff neu breswylwyr i'w godi.

"Os oes gofyniad, gellir darparu cadi ychwanegol am ddim ar gyfer gwydr i breswylwyr ar y cynllun. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i breswylwyr gymryd rhan yn y cynllun peilot am o leiaf ddau gasgliad er mwyn sicrhau bod angen cadi ychwanegol. Byddwn yn cymryd archebion ar gyfer y rhain o 12 Tachwedd 2018.

"I breswylwyr nad ydynt yn rhan o'r cynllun peilot hwn, rydym yn gofyn i chi o hyd roi eich gwydr yn eich bagiau gwyrdd neu, os yw'n well gennych, mewn banciau poteli.

 "Hoffwn ddiolch i breswylwyr Caerdydd, unwaith eto, am eu hymdrechion parhaus i ailgylchu cymaint o'u gwastraff â phosib. Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth a pharhau i gynyddu'r gyfradd ailgylchu fel y gallwn fwrw'r targed ailgylchu, sef 70%, erbyn 2025."

Y wardiau lle cynhelir y cynllun peilot yn strydoedd penodol yn Nhreganna; Trelái; Grangetown; y Mynydd Bychan; Pentwyn; Pen-y-lan; Radur; Rhiwbeina; Sblot a Trowbridge. Gellir gweld yr holl strydoedd sy'n gysylltiedig â'r cynllun peilot yma:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/casgliadau-gwydr/Pages/default.aspx

Gellir gweld fideo byr sy'n esbonio'r rhesymau y tu ôl i'r cynllun peilot yma:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/casgliadau-gwydr/Pages/default.aspx

 Mae'r eiddo a ddewiswyd yn seiliedig ar yr arferion ailgylchu yn yr ardal benodol honno a'r math o eiddo.