Back
Ymweliad masnach a buddsoddiad i Qatar a Romania

Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Caerdydd yn ymweld â Qatar a Dwyrain Ewrop wythnos nesaf i geisio sicrhau bargeinion masnach a buddsoddi i'r ddinas.

 

Mae'r trip busnes dwys hwn yn dilyn trafodaethau rhwng Cyngor Caerdydd a Chomisiynwyr Masnach Llywodraeth y DU ynghylch pa mor bwysig yw hi i ddinasoedd blaenllaw gwledydd Prydain geisio bargeinion masnach a mewnfuddsoddi ym mhedwar ban y byd ar ôl Brexit.

 

Bydd cynrychiolwyr Cyngor Caerdydd yn ymweld â Doha yn Qatar a Bwcarést yn Rwmania cyn dychwelyd i'r DU.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, a fydd yn arwain y grŵp:"Mae'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (CAR) yn rhagweld y bydd 90% o'r twf economaidd yn dod o'r tu allan i'r UE.Wrth i'r ansicrwydd ynghylch Brexit dyfu, mae'n hanfodol bod Caerdydd, fel prifddinas Cymru, yn ceisio annog mwy o fasnach a buddsoddi o wledydd tramor a marchnadoedd datblygol.

 

"Bydd y daith hon yn rhoi'r cyfle i ni adrodd stori Caerdydd wrth fuddsoddwyr allweddol ledled y byd.Mae ein dinas yn ffynnu ac mae yna gyfleoedd gwych i gwmnïau byd-eang ddod yma a buddsoddi.Mae masnach rhwng y DU a Dwyrain Ewrop a Chanolbarth Asia wedi bod ar dwf dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chyfanswm y fasnach yn cynyddu gan 9.2% i £30.6 biliwn yn 2016. Rydym am sicrhau bod Caerdydd mewn safle da i fanteisio ar rywfaint o'r buddsoddiad hwn.

 

"Mae gennym bortffolio o brojectau mawr gwerth miliynau o bunnoedd ar y gweill.Mae hyn yn ychwanegol at ardal fusnes newydd y ddinas i'r gogledd a'r de o orsaf Caerdydd Canolog.Fel rhan o raglen Uchelgais Prifddinas fy ngweinyddiaeth, rydym hefyd yn creu gweledigaeth newydd i Fae Caerdydd fel cyrchfan hamdden bwysig, ac mae gennym gynlluniau am arena amlbwrpas newydd yn y Bae.

 

"Felly mae'n bwysig - er gwaethaf Brexit - bod y byd yn gwybod bod Caerdydd ar agor i fusnes ac mae angen i ni sicrhau bod y projectau a'r cynlluniau dinesig mawr hyn yn arwain at lewyrch economaidd sy'n dod â budd i bawb sy'n byw yma."

 

Bydd y Cynghorydd Thomas yn galw yn Doha ddydd Llun 10 Medi lle bydd Paul Orders, Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd, Neil Hanratty, y Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd, Ken Poole, y Pennaeth Datblygu Economaidd, a Roger Lewis, Cadeirydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, yn ymuno ag ef.

 

Byddant yn cyflwyno amrywiaeth o gyfleoedd buddsoddi mawr yng Nghaerdydd i gronfeydd ariannol y wladwriaeth blaenllaw a buddsoddwyr posibl o Qatar.

 

Ym mis Mai eleni, sefydlodd Qatar Airlines wasanaeth uniongyrchol o Gaerdydd i Doha ac ystyrir y llwybr newydd yn gatalydd posibl ar gyfer creu cyfleoedd busnes rhwng y ddwy ddinas. Mae'r cwmni hedfan hefyd wedi cynnal trafodaethau â'r cyngor a Llywodraeth Cymru ynghylch datblygu gwesty 5-seren newydd ym mhrifddinas Cymru, ac mae'r cyngor yn gobeithio symud y cynnig hwn yn ei flaen yn ystod yr ymweliad.

 

Bydd yr ymweliad â Doha, sy'n cael ei hwyluso gan swyddogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn Llysgenhadaeth Prydain yn Doha, yn cynnwys briff brecwast gyda Llysgenhadon Prydain i Wladwriaeth Qatar a chyflwyniad i bedwar sefydliad ariannol blaenllaw - yn eu mysg bydd Awdurdod Buddsoddi Qatar (QIA), sef Cronfa Cyfoeth Sofran graidd Qatar. Mae'r QIA yn rheoli gwerth tua $300 biliwn o asedau i gyd, ac mae'n fuddsoddwr sefydliadol hirdymor â phortffolio byd-eang a gwerth tua £35bn o fuddsoddiadau yn y DU.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas:"Yn y bore byddwn yn cael cyfle i siarad ag Awdurdod Buddsoddi Qatar yn ogystal â Qatari Diar sy'n cydlynu blaenoriaethau datblygu eiddo tirol y wlad. Mae ganddynt bortffolio mawr yn Llundain, gan gynnwys The Shard, The Shell Centre, Barics Chelsea, y Pentref Olympaidd Dwyreiniol, Adeilad Llysgenhadaeth UDA a No.1 Hyde Park.

 

"Yn y prynhawn rydym wedi trefnu cyfarfodydd â phrif weithredwyr ac uwch reolwyr Banc Islamaidd Rhyngwladol Qatar a Qatar National Bank Capital. Bydd yr holl gyfarfodydd hyn yn rhoi'r cyfle i ni gyflwyno amrywiaeth sylweddol o gyfleoedd buddsoddi mawr yng Nghaerdydd i fuddsoddwyr posibl o Qatar, sydd wedi'u calonogi gan lansiad gwasanaeth dyddiol uniongyrchol Qatar Airways rhwng Maes Awyr Rhyngwladol Hamad, Doha, a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ym mis Mai 2018."

 

Ar ôl yr ymweliad a Doha, bydd cynrychiolwyr y cyngor yn teithio i Fwcarést, prifddinas Rwmania, ar ddydd Mawrth 11 Medi, i drafod buddsoddiad posibl mewn cyfleuster hamdden newydd ym Mae Caerdydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas:"Rwy'n gobeithio y bydd ein hymweliadau'n dod â budd go iawn i'r ddinas, gan helpu i ddod â mwy a swyddi a llewyrch i'r rhanbarth.Mae'n bwysig bod Caerdydd, fel prifddinas Cymru, yn parhau i geisio cyfleoedd buddsoddi newydd.Ni allwn adael i'r ansicrwydd ynghylch Brexit atal ein cynlluniau ar gyfer y ddinas a datblygiad a thwf y ddinas-ranbarth.Rhaid i Gaerdydd barhau i fod yn ddinas eangfrydig, ryngwladol, gan weithredu fel cyswllt rhwng Cymru a'r byd.