Back
Darganfyddiadau diogelwch ar ansawdd yr aer yng Nghaerdydd

Mae'r Pwyllgor Craffu Amgylcheddol wedi ymgymryd ag ymarfer gorchwyl a gorffen i edrych ar y mater o ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru.

Caiff yr adroddiad helaeth ei gyflwyno i'r Cabinet gan gadeirydd y pwyllgor, y Cyng Ramesh Patel yn ei gyfarfod ar 20 Medi.

Dywedodd y Cyng Patel: "Er mwyn helpu Caerdydd i fodloni cyfarwyddebau'r UE ar ansawdd aer, mae fy mhwyllgor a finnau wedi clywed gan 38 o dystion arbenigol dros fisoedd lawer a nawr mae'r darganfyddiadau bellach yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet.

"Mae'n rhaid i Gaerdydd, ynghyd â llawer o ddinasoedd eraill y DU, ddod o hyd i atebion i'r mater hwn, oherwydd mai llygredd aer yw'r broblem fwyaf y bydd rhaid i weinyddiaeth y Cyngor ymdrin â hi.

"Bu'r asesiad yr ymgymerwyd ag ef gan y pwyllgor yn drylwyr a choladwyd darganfyddiadau manwl; mae gan y Cabinet nawr amser i ystyried y darganfyddiadau ac i ymateb yn unol â hyn.

Yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol yw: 

  • Dylai strategaeth aer glân fod yn flaenoriaeth hollbwysig ar gyfer y Cyngor
  • Er mwyn cydymffurfio 'cyn gynted ag y bo modd', mae'n ymddangos yn anochel y bydd angen creu rhyw fath o barth aer glân neu barth allyriadau isel, fodd bynnag, wrth wneud penderfyniad ar y ffordd orau ymlaen, dylai'r Cyngor ddilyn y dystiolaeth wyddonol a gasglwyd yn yr astudiaeth dichonolrwydd. 
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael arweiniad a chyllid
  • Ystyried, arfarnu a chraffu ar y cyngor a nodwyd yn yr astudiaeth dichonolrwydd a'i ddefnyddio fel sail ar gyfer penderfyniad sy'n seiliedig ar wyddoniaeth.
  • Lleihau Nitrogen Deuocsid o'r llwybrau blaenoriaeth sy'n dod i mewn i Gaerdydd
  • Ymgynghori a gweithio gydag awdurdodau cyfagos
  • Parhau â'r nod o newid moddol 50/50 rhwng ceir preifat a thrafnidiaeth gyhoeddus/ ffurfiau eraill ar deithio cynaliadwy.
  • Creu ‘cymdogaethau allyriadau isel'
  • Adolygiad o arweiniad cynllunio atodol ar ansawdd aer; adolygiad o'r goblygiadau traffig a llygredd ehangach o ddatblygiadau newydd
  • Defnyddio'r adnoddau rhad ac am ddim sydd ar gael o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru
  • Cysylltu ansawdd aer â hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus presennol
  • Cynyddu ardaloedd 20mya a 75% parcio preswyl
  • Ail-fuddsoddi incwm a dderbyniwyd ar gyfer mentrau parhau neu rai'r dyfodol i mewn i gynlluniau trafnidiaeth
  • Pwyllgor craffu er mwyn craffu ar y cynigion sydd yn y papur gwyrdd
  • Adeiladu'r orsaf fysiau newydd
  • Gwella'r seilwaith beicio a cherdded/nextbikes/teithio llesol a pharcio a theithio
  • Cynnydd graddol mewn taliadau parcio a monitro datblygu meysydd parcio yng nghanol y ddinas 
  • Rhestru safonau allyriadau ar gyfer tacsis a sut y gellir eu cyflawni
  • Gorfodi yn erbyn tacsis sy'n blocio lonydd bysiau
  • Lleihau allyriadau bysiau trwy lobïo am gymorth ariannol i uwchraddio/newid y stoc
  • Datblygu a hyrwyddo cynlluniau parcio a theithio a lonydd bysiau
  • Cynllun tocynnau sengl ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn Rhanbarth De-ddwyrain Cymru
  • Defnydd cynlluniau trawsatebwyr mewn lonydd bysiau - sy'n galluogi bysiau i beidio â chael eu dal mewn traffig
  • Ystyried effaith amgylcheddol llongau mordeithiau yn dod i mewn i Gaerdydd
  • Strategaeth tanwydd cynaliadwy/ seilwaith tanwydd cynaliadwy
  • Gweithio gyda'r fasnach moduron i gynnal sioe fasnach ar gyfer cerbydau trydan/hybrid a hydrogen
  • Ystyried ac arfarnu'r adroddiad diweddar a gomisiynwyd i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru trydan yng Nghaerdydd
  • Adeiladu'r angen i ddefnyddio tanwydd cynaliadwy i mewn i'r broses gaffael
  • Bod ag o leiaf un orsaf ail-lenwi hydrogen yng Nghaerdydd
  • Annog pob sefydliad sector cyhoeddus mawr i annog eu staff ei ddefnyddio teithiol llesol
  • Gweithio gyda For Cardiff (Cardiff Bid) i ymgysylltu â'r gymuned fusnes, er enghraifft, i gyfathrebu cynigion newydd ac adnabod mesurau i wella ansawdd yr aer.