Back
Gallwch bellach fynd i’r Cartref Cŵn mewn dim ond un clic

Gallwch fynd i’r Cartref Cŵn mewn dim ond un clic yn dilyn lansio eu gwefan newydd.

Mae’r wefan www.cartrefcwncaerdydd.co.uk yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar bopeth o ficrosglodynnu i wybodaeth ynghylch beth y dylech chi ei wneud os digwydd i chi golli (neu ddod o hyd i) gi.

Mae’r holl gŵn sy’n chwilio am gartref newydd ar hyn o bryd i’w gweld ar y safle.  Ar hyn o bryd, mae hynny’n cynnwys Archie annwyl gyda’i lygaid du a Lolo, ci blaidd croesfrid sydd wedi bod yn y cartref ers yr hydref diwethaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael:  “Mae trigolion yn disgwyl yn fwy ac wy y gallan nhw ddefnyddio ein gwasanaethau’n ddigidol a bydd y wefan newydd hon yn ei gwneud hi’n haws i unrhyw un sy’n chwilio am gymar pedair coes gychwyn y siwrnai honno ar-lein.”  

“Rydyn ni i fod yn genedl sy’n hoffi anifeiliaid, felly mae’n drist clywed sut mae rhai o’r cŵn sy’n dod i Gartref Cŵn Caerdydd wedi cael eu trin - mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu’r cŵn sy’n dod i’n gofal ddod o hyd i gartref am oes yn beth da.”

Dyma wasanaethau eraill sydd ar gael trwy’r wefan newydd:

·         System ar gyfer rhoi gwybod am gi sydd ar goll neu y daethpwyd o hyd iddo.

·         Gwybodaeth am beth i’w wneud os dewch o hyd i gi.

·         Gwybodaeth am wasanaethau microsglodynnu am ddim.

·         Gwybodaeth am ‘ysbaddu ci.

·         Lluniau o gŵn y daethpwyd o hyd iddyn nhw’n ddiweddar.

Os hoffwch chi gyfrannu at waith Cartref Cŵn Caerdydd, mae gwybodaeth hefyd am gyfleoedd gwirfoddoli ar y wefan, gan gynnwys y cyfle i ddod i adnabod rhai o’r cŵn trwy wirfoddoli i Fynd â Chŵn am Dro.