Back
Wates Residential yn dathlu'r cwblhau’r cartrefi cyntaf yng Nghymru o dan gynllun blaenllaw Caerdydd


Mae trigolion a phrynwyr tro cyntaf lleol yn elwa wrth i gynllun fynd i'r afael â'r angen cynyddol am dai

Mae'r cartrefi cyntaf a adeiladwyd o dan gynllun adeiladu tai blaenllaw Caerdydd wedi'u cwblhau, gan nodi cam ymlaen sylweddol yn hanes y project.

Y 13 o gartrefi yw'r rhai cyntaf yng Nghymru i'w cwblhau gan y datblygwr preswyl Wates Residential, a ymunodd â Chyngor Caerdydd i gynyddu nifer y tai fforddiadwy i bobl leol yn y ddinas yn 2016.

Cafodd y cartrefi, a leolir ar safle Braunton Crescent (Captain's View) yn Llanrhymni, eu rhyddhau o'r cynllun ym mis Mawrth.Roedd pob un o'r cartrefi wedi'u neilltuo cyn pen 24 awr, gyda diddordeb arbennig gan brynwyr tro cyntaf.

Bydd pob un o'r 30 llain ar y safle yn cyrraedd y cam cwblhau dros y misoedd nesaf a bydd hyn yn cynnwys y cartrefi cyngor newydd cyntaf i'w rhentu, y disgwylir iddynt gael eu trosglwyddo i'r Cyngor ym mis Tachwedd.

Mae tua 90% o'r prynwyr yn rhai sy'n byw o fewn pedair milltir i Gaerdydd.Mae un ar hugain (70%) yn brynwyr tro cyntaf, ac mae 19 o'r tai (63%) yn cael eu prynu gan ddefnyddio cynllun cymorth i brynu'r Llywodraeth.

Un o'r perchnogion tai newydd yw Bryan Jones, 34, sy'n gweithio yn yr adran TG ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.Symudodd Mr Jones, a oedd wedi tyfu i fyny yn yr ardal, i'w gartref tair ystafell wely newydd ar Captain's View ym mis Awst gyda'i wraig, Caroline.

Dywedodd Bryan:"Mae ein cartref newydd yn golygu ein bod wedi gallu dychwelyd i'r gymdogaeth lle ces i fy magu a bod yn agosach at deulu a ffrindiau - mae fy rhieni bellach yn byw llai na 10 munud o waith cerdded i ffwrdd.

"Mae cynllun a dyluniad gwych gan y tŷ.Mae ansawdd datblygiad Wates yn dda iawn ac mae'r cwmni a'r rheolwyr ar y safle wedi creu argraff fawr arnaf."

Dau berchennog arall newydd yw Darryl Pargeter, datblygwr meddalwedd 27 oed, a'i wraig Catherine Pargeter, goruchwyliwr 25 oed, a symudodd i'w cartref newydd ar Captain's View ar ddiwedd Awst.

Mae'r cwpl, a gyfarfu yn y brifysgol yng Nghasnewydd ac a oedd am fyw yng Nghaerdydd er mwyn iddynt allu gweld ffrindiau a theulu'n hawdd, yn brynwyr tro cyntaf a ddenwyd i ddatblygiad Wates oherwydd ei bris a'i leoliad.

Dywedodd Darryl:"Ry'n ni'n hapus iawn gyda'n cartref newydd.Roeddem yn wreiddiol wedi bod yn edrych i symud i rywle arall ond yna gwelsom y pris a'r ffaith y gallem fforddio byw mewn ardal mor braf ac felly aethom amdani!"

Y cartrefi yw'r rhai cyntaf i gael eu cwblhau o dan raglen Cartrefi Caerdydd, sef partneriaeth 10 mlynedd rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential.

Wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â'r galw cynyddol am dai yn y ddinas, disgwylir i'r project ddarparu tua 600 o gartrefi cyngor, y bydd nifer fach ohonynt yn cael eu rhyddhau drwy Gynllun Perchentyaeth â Chymorth y cyngor a 900 arall i'w gwerthu ar y farchnad agored.

Bydd safle Clevedon Road (Captain's Walk) sy'n cynnwys 40 o gartrefi fforddiadwy, yn cael ei gwblhau ym mis Awst y flwyddyn nesaf. Mae naw safle arall wedi cael caniatâd cynllunio, ac mae gwaith adeiladu ar bump o'r safleoedd hyn wedi cychwyn fel rhan o gam cyntaf y rhaglen.

Bydd yr holl eiddo gaiff eu hadeiladu trwy'r project Cartrefi Caerdydd yn bodloni safonau cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni uchel, gan sicrhau y byddwn yn helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Fel rhan o'r bartneriaeth barhaus, mae Wates Residential a Chyngor Caerdydd hefyd wedi gwneud addewid ar y cyd i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i drigolion lleol, gan gynnwys prentisiaethau ar y safle, lleoliadau profiad gwaith a rhaglenni hyfforddiant strwythuredig.

Hyd yn hyn, mae 47 o bobl leol wedi elwa ar gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth, ac mae gwerth £5.5 miliwn wedi'i godi o ran gwerth economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.Mae'r gweithgareddau wedi cynnwys prentisiaethau ar y safle, lleoliadau profiad gwaith a rhaglenni hyfforddi strwythuredig.

 

Dywedodd Paul Nicholls, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential South: 

"Pan ddechreuon ni weithio gyda Chyngor Caerdydd ar y project sylweddol hwn am y tro cyntaf, addawom y byddem yn adeiladu cartrefi o ansawdd uchel i bobl leol a phrynwyr am y tro cyntaf, a dyna'n union yr ydym wedi'i wneud. 

"Mae gweld prynwyr tro cyntaf a theuluoedd fel Darryl a Catherine, a Bryan a Caroline yn symud i'w cartrefi newydd yn un o'r pethau gorau am y swydd ac edrychwn ymlaen at weld mwy o bobl yn symud i mewn i'n cartrefi dros y misoedd nesaf."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne:

"Mae Cartrefi Caerdydd yn rhoi bywyd newydd i gymunedau sy'n bodoli eisoes ledled y ddinas, gan ddarparu cartrefi cynaliadwy o ansawdd da mewn ardaloedd lle mae pobl am fyw ynddynt.

"Mae'r cynllun yn galluogi prynwyr tro cyntaf i gymryd eu cam cyntaf ar yr ysgol eiddo ac rwyf wrth fy modd fod y trigolion wedi symud i mewn i Captain's View ac eisoes yn mwynhau eu cartrefi newydd.

"Rydym hefyd yn gwneud cynnydd rhagorol ar y tai cyngor sy'n cael eu hadeiladu fel rhan o gynllun Cartrefi Caerdydd ac rydym yn edrych ymlaen at weld ein tenantiaid cyntaf yn symud i Captain's Walk yn hwyrach eleni."