Back
Canllaw ar ymgeisio am le ysgol ar gyfer Medi 2019 yng Nghaerdydd

Gall dechrau yn yr ysgol gynradd neu fynd i ysgol uwchradd fod yn amser cyffrous i blant a rhieni, ond gall hefyd fod yn amser gofidus oherwydd bod angen gwneud penderfyniadau ar ba ysgolion i ymgeisio amdanynt, ac yna aros i weld a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus. 

Gall ychydig o bethau allweddol helpu i wneud y broses yn haws: 

  • Ymweld ag ysgolion cyn ymgeisio i gael cymaint o wybodaeth â phosibl - mae rhestr lawn o ysgolion Caerdydd ar gael ar-lein ar www.caerdydd.gov.uk/ysgolion
  • Cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiadau cau perthnasol (Ysgolion Uwchradd: 19 Tachwedd 2018, Ysgolion Cynradd:7 Ionawr 2019).  Mae bron i hanner ein hysgolion yn cael eu llenwi yn y rownd gyntaf.Mae ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried yn yr ail, 3ydd a'r 4ydd rownd. 
  • Manteisio i'r eithaf ar nifer yr ysgolion y gellir ymgeisio amdanynt (pump ysgol uwchradd, tair ysgol gynradd)

Mae'r trefniadau derbyn i ysgolion yng Nghaerdydd ychydig yn wahanol i awdurdodau lleol eraill, ar ôl i Gyngor Caerdydd ddod y cyntaf yng Nghymru i beilota system gydlynol y llynedd. Mae hyn yn golygu y gellir cynnwys Ysgolion Uwchradd Corpus Christi, Teilo Sant a'r Eglwys Newydd ar yr un ffurflen. Yn y gorffennol, roedd rhaid gwneud y ceisiadau hynny ar wahân, yn uniongyrchol i'r ysgolion.

Mae mwy o wybodaeth ar y broses ymgeisio ar gyfer y gwahanol fathau o ysgolion (ysgolion cymunedol, ysgolion ffydd ac ysgolion sefydledig) ar gael ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion 

Dyddiadau allweddol ac awgrymiadau ar gyfer gwneud cais

Medi a Hydref 2018

  • 24 Medi 2018 - y dyddiad y mae ceisiadau ar-lein ar gyfer ysgolion uwchradd yn agor yng Nghaerdydd  (www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion)
  • Gofynnwch am wybodaeth am ysgolion o ddiddordeb ac ewch i ddiwrnodau agored - nid oes gan rai ysgolion ddiwrnodau agored, ond gallai fod yn bosibl ffonio a gwneud apwyntiad i ymweld
  • Penderfynwch ar yr ysgolion i ymgeisio amdanynt a rhowch hwy mewn trefn blaenoriaeth

Tachwedd 2018

  • 12 Tachwedd 2018 - y dyddiad y mae ceisiadau ar-lein ar gyfer ysgolion cynradd yn agor
  • 19 Tachwedd 2018 - y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein ar gyfer ysgolion uwchradd

Ionawr 2019

  • 7 Tachwedd 2019 - y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar-lein ar gyfer ysgolion cynradd 

Mawrth 2019

  • 1 Mawrth 2019 - cynigion ar gyfer ysgolion uwchradd yn cael eu gwneud

Ebrill 2019

  • 16 Ebrill 2019 - cynigion ar gyfer ysgolion cynradd yn cael eu gwneud

 

Rhai pethau pwysig i'w cofio wrth ymgeisio 

  • Ni chaiff lle ysgol ei gynnig os na wneir cais
  • Nid yw rhestru'r un ysgol fwy nag unwaith yn cynyddu eich cyfleoedd o gael lle yno
  • Nid ydych yn sicr o gael lle yn ysgol y dalgylch, ond mae'n well ei chynnwys yn y rhestr dewisiadau, hyd yn oed os nad yr ysgol hon yw eich dewis cyntaf
  • Nid yw derbyn cynnig am le mewn ysgol dewis is yn effeithio ar eich cyfleoedd o gael cynnig mewn ysgol dewis uwch - byddwch dal yn cael cynnig am le yn yr ysgol a ffefrir os daw lle ar gael yn ddiweddarach
  • Nid yw cael brawd neu chwaer yn yr ysgol yn sicrhau lle yno, ond bydd yn cael ei ystyried, felly mae'n bwysig cynnwys eu manylion ar y cais
  • Nid yw mynd i'r feithrinfa sy'n gysylltiedig ag ysgol yn golygu y byddwch yn cael lle'n awtomatig yn y dosbarth derbyn - mae dal angen gwneud cais

Gall cais hwyr effeithio'n ddifrifol ar eich cyfle o gael lle, felly mae'n bwysig gwneud nodyn o'r dyddiadau cau: 

  • Ysgolion Uwchradd:Dydd Llun 19 Tachwedd 2018
  • Ysgolion Cynradd: Dydd Llun 7 Ionawr 2019

Wyddech chi?

  • Mae Ysgolion Uwchradd Corpus Christi, Teilo Sant a'r Eglwys Newydd yn rhan o broses derbyn i ysgolion gydlynol Caerdydd, sy'n golygu bod ymgeisio amdanynt yn haws nag erioed.
  • Nid oes rhaid i chi fod yn siaradwr Cymraeg i ymgeisio am ysgol cyfrwng Cymraeg
  • Y llynedd, cafodd 98% o rieni a roddodd ysgol gynradd eu dalgylch fel eu dewis cyntaf le yno.Mewn ysgolion uwchradd cafodd 96% o rieni gynnig am le yn ysgol eu dalgylch ar ôl ei nodi fel eu dewis cyntaf. 
  • Mae'r holl ysgolion cymunedol yng Nghaerdydd yn rhannu'r un meini prawf gordanysgrifio - y rheolau a ddefnyddiwn pan fo mwy o geisiadau na lleoedd ar gael.

Mae mwy o fanylion am sut mae'r broses derbyn i ysgolion yn gweithio yng Nghaerdydd a cheisiadau ar-lein ar gael ar: www.caerdydd.gov.uk/derbyniysgolion