Back
BETH GALLAI BREXIT ‘HEB FARGEN' EI OLYGU I GAERDYDD

Mae diffyg gwaith, tarfu ar gadwyni cyflenwi, rhagor o bwysau ar wasanaethau cynghori a diwygiadau i'r trefniadau ariannu yn rhai o oblygiadau posibl Brexit ‘Heb Fargen' i Gaerdydd.

Ymysg yr ansicrwydd parhaus ynghylch telerau ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd, bydd y Cabinet yn ystyried yr effaith bosibl ar Gaerdydd os nad yw Llywodraeth y DU yn llwyddo i ddod i gytundeb â'r UE yn ei gyfarfod nesaf ar 11 Hydref.

Bu gwaith yn mynd rhagddo i sicrha bod Caerdydd yn barod am Brexit dros y ddwy flynedd ddiwethaf ers canlyniad refferendwm 2016 ac mae'r sefyllfa wedi ei monitro'n agos o ran y canlyniadau posibl i economi a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Caerdydd.

Ond gyda'r rhagolwg na fydd perthynas ffurfiol rhwng y DU a'r UE wedi mis Mawrth 2019, mae'n rhaid i'r Cyngor gynllunio at ganlyniadau ‘Dim Bargen' i Gaerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Does dim amheuaeth y bydd effaith Brexit heb fargen yn drychinebus ar Gaerdydd ac mae'r goblygiadau y mae'n rhaid i ni eu hystyried yn eang iawn.

"Â'r diffyg cytuno'n parhau ynghylch telerau gadael, mae'n rhaid i ni ystyried y posibilrwydd na fydd bargen, yr hyn a olyga hynny i'n heconomi leol a'n gwasanaethau a sut rydyn ni'n ymateb i'r heriau posibl hynny."

C:\Users\c739646\Desktop\Andrea\No brexit graphic-2.jpg

Ynghynt eleni, ymunodd y Cyng. Thomas ag Arweinwyr Dinasoedd Craidd Prydain mewn cyfarfod â phrif negodwr yr UE dros Brexit, Michel Barnier, i drafod yr effaith ar Gaerdydd a dinasoedd eraill y DU.  Mae hefyd wedi cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Dewis Seneddol ar y mater.

Gyda dadansoddiadau'n awgrymu twf economaidd arafach o ganlyniad i ymadawiad y DU o'r UE, mae adroddiad y Cabinet yn nodi y bydd gostyngiadau pellach yn yr arian cyhoeddus a rhagor o gynildeb ar ôl Brexit.Mae hyn mewn cyd-destun lle mae'r Cyngor eisoes yn wynebu pwysau ariannol difrifol a diffyg cyllidebol o £91m dros dair blynedd o 2019.

Gyda mwy na 6,600 o bobl yn gweithio yn y ddinas o wledydd eraill y DU, mae pryderon hefyd am y farchnad lafur leol a sut y bydd rhai sectorau, yn arbennig adeiladu a gofal cymdeithasol i oedolion yn llwyddo i recriwtio a chynnal eu gweithlu os yw Brexit yn creu amgylchedd llai deniadol i weithwyr yr UE yma.

Mae disgwyl y bydd newidiadau i arian strwythurol, buddsoddi a rhanbarthol yn effeithio ar Gaerdydd yn ogystal, ac mae'n debyg y bydd effaith hefyd ar brojectau cyfalaf a buddsoddi masnachol a mewnol.

Dywedodd y Cyng. Huw Thomas:"Mae Cymru'n masnachu mwy ag Ewrop na gweddill y byd ac mae Caerdydd ar hyn o bryd yn un o'r pum dinas ym Mhrydain sy'n dibynnu ar farchnadoedd yr UE fwyaf, gyda 61% o allforion y ddinas yn mynd i wledydd yr UE.

"Rydyn ni'n ddinas agored, groesawgar sy'n edrych tuag allan, gyda thua 18,000 o bobl o wledydd eraill yr UE yn byw yng Nghaerdydd; mae'n rhaid i hyn barhau wedi Brexit.Felly, heb unrhyw eglurdeb ar mynediad at y farchnad sengl, mae'n hanfodol ein bod yn datblygu masnach ryngwladol fwy a chyfleoedd buddsoddi, yn arbennig gyda marchnadoedd sy'n datblygu, ac rydyn ni eisoes wedi cychwyn y dull hwn o ail-osod sefyllfa Caerdydd yn y byd masnach wedi Brexit ar daith ddiweddar i Tseina, Catar a Rwmania.

Mae canlyniadau eraill posibl ‘dim bargen' sydd yn adroddiad yr wythnos nesaf yn cynnwys rhagor o alw am wasanaethau cynghori mewn perthynas â'r broses sefydlu ar gyfer dinasyddion gwledydd eraill y DU, tarfu posibl ar gadwyni cyflenwi a'r gallu i ddarparu gwasanaethau'r Cyngor.

Dywedodd y Cyng. Huw Thomas:"Ar hyn o bryd, rydyn ni mewn sefyllfa anodd, sef anwybodaeth ynghylch beth a ddaw dros y misoedd nesaf, ond o ystyried y goblygiadau posibl ar Gaerdydd, gallwn gynllunio'n effeithiol a gweithredu unrhyw fesurau unioni y mae eu hangen er mwyn lliniaru effaith Brexit ‘Heb Fargen'.

"Fe barhawn i weithio â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol trwy'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ac yn cysylltu â phartneriaid allweddol eraill yn y ddinas i ymateb i'r heriau sydd i ddod ac i sicrhau ein bod ni'n barod am effaith Prydain yn gadael yr UE."