Back
Rhoi hawliau plant ar waith

Y Cyng Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, sy'n rhannu'r camau y mae Cyngor Caerdydd yn eu cymryd tuag at dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol gan UNICEF fel un o ddinasoedd ystyriol o blant cyntaf y DU. 

Ers 2017, mae Caerdydd - ynghyd â phedair dinas a chymuned arall yn y DU - wedi bod yn gweithio gydag Unicef UK a'n partneriaid er mwyn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel Dinas Ystyriol o Blant Unicef. 

Golyga hyn rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau, ein strategaethau a'n gwasanaethau; gan eu cynnwys nhw wrth wneud penderfyniadau a mynd ar ôl y rhwystrau sy'n cyfyngu ar gyfleoedd eu bywydau. 

Mae'n rhaid i ymrwymiad Caerdydd i fod yn ddinas ystyriol o blant Unicef gael ei lywio gan blant a phobl ifanc. Ers dechrau ein taith, maent wedi gweithio gyda ni fel y gallwn ddarganfod beth maen nhw'n feddwl y dylen ni ei flaenoriaethu. 

Ar sail yr hyn y maent wedi ei ddweud wrthym, byddwn yn blaenoriaethu'r tri maes canlynol:  

Addysg

Bydd sicrhau bod ysgolion Caerdydd yn ymgorffori arferion hawliau plant - lle mae lleisiau pobl ifanc yn cael eu hystyried a'u gweithredu - wrth wraidd ein huchelgeisiau i ddod yn ddinas sy'n ystyriol o blant. Mae datblygu sgiliau am oes hefyd wrth galon ein dulliau. Mae rhagamcanion yn nodi y bydd bron 2 ym mhob 3 o blant sy'n mynd i ysgol heddiw yn gweithio mewn swyddi nad ydynt yn bodoli eto. Fel Dinas sy'n Ystyriol o Blant, bydd plant yn gadael yr ysgol gyda'r sgiliau y maen nhw wedi dweud wrthym sydd eu hangen arnynt i lwyddo, gan gynnwys y gallu i wneud penderfyniadau call; rheoli cyllid personol; y gallu i ddatblygu ffordd o fyw iachus; a sut i gynnal perthnasoedd cymdeithasol da. 

Teulu a Pherthyn

Ein huchelgais i Gaerdydd yw i fod yn lle y mae teuluoedd yn cael cefnogaeth i fod gyda'i gilydd ac i fwynhau gweithgareddau ledled y ddinas. 

Iechyd

Mae rhoi'r dechrau gorau i blant mewn bywyd yn flaenoriaeth, ac mae cael hi'n iawn yn y 1000 diwrnod cyntaf - o gael eu cenhedlu i'w pen-blwydd yn 2 oed - yn hanfodol er mwyn cyflawni'r nod hwn. 

Rydym eisoes yn gweld cynnydd ym mhob un o'r tair adran hon: 

Mae dros 30 o'n hysgolion wedi dechrau eu taith tuag at ddod yn Ysgol sy'n Parchu Hawliau Unicef yn y DU. 

Ym mis Mai eleni, gwnaethom gynnal ein digwyddiad di-geir mwyaf erioed. Roedd miloedd o deuluoedd yn gallu beicio yng nghanol y ddinas a mwynhau ystod o weithgareddau teuluol am ddim. 

Mae rhaglen beilot Chwarae yn y Stryd wedi dechrau, lle gall preswylwyr ymgeisio i gau eu ffyrdd ar sail fisol, i alluogi plant i chwarae'n ddiogel yn eu strydoedd. 

Ac yn olaf, mae Caerdydd wedi mabwysiadu dull ‘Ffocws ar y Teulu', gan sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gydlynol a bod teuluoedd a phlant yn cael y cymorth cywir, yn y ffordd iawn, ar yr adeg cywir yn ystod 1000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn. Mae Caerdydd hefyd yn gweithio tuag at gael achrediad Addas i Fabis DU Unicef mewn gwasanaethau mamolaeth ac iechyd cymunedol. 

Rydym ar ddechrau ein taith i fod yn Ddinas Ystyriol i Blant Unicef gyda llawer mwy i'w wneud. Rwyf i, ynghyd â thraean o'm cyd-Gynghorwyr, wedi cael hyfforddiant ar hawliau plant gan Unicef UK gyda rownd arall o hyfforddiant wedi'i drefnu ar gyfer yr hydref. 

Drwy'r gwaith hyn, gallwn sicrhau bod lleisiau ein plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried, sy'n golygu bod y blaenoriaethau yr ydym yn eu gosod fel dinas yn cynnwys ystod eang o ddiddordebau a barn, ac yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i bawb. 

Ynghylch Dinasoedd a Chymunedau Ystyriol i Blant 

Mae rhaglen Dinasoedd a Chymunedau Ystyriol i Blant Unicef yn gweithio ar y cyd â chynghorau lleol ledled y DU i helpu i wneud dinasoedd a chymunedau yn lleoedd lle mae plant yn teimlo'n ddiogel, fel bod eu barn yn cael eu hystyried, yn cael gofal da ac yn gallu ffynnu. 

Gan ddefnyddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn fel canllaw, mae'r rhaglen yn gweithio gydag arweinwyr gwleidyddol, gweithwyr cymunedol, sefydliadau cymunedol a mwy, i sicrhau bod dymuniadau a phrofiadau plant yn llywio'r systemau a'r gwasanaethau lleol sydd yno i'w cefnogi. 

Mae Dinasoedd Ystyriol i Blant yn rhaglen UNICEF rhyngwladol. Wedi'i lansio yn 1996 ac ar waith mewn 38 o wledydd, mae'r fenter yn cefnogi dinasoedd a chymunedau i roi hawliau dynol plant a phobl ifanc wrth wraidd eu gwaith, gan droi cenhadaeth rhyngwladol UNICEF yn gamau ymarferol ar lefel leol. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i unicef.org.uk/child-friendly-cities