Mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gynnig i ddynodi Cilgant Guildford yn ardal gadwraeth.Mae 27 ardal gadwraeth yng Nghaerdydd sy'n rhan bwysig o ddiogelu treftadaeth y ddinas.
Cilgant Guildford yw'r unig ran hanesyddol o ganol y ddinas nad yw'n cael ei ddiogelu dan y system gynllunio.
Codwyd y 15 adeilad rhwng 1851 a 1880. Maen nhw'n bwysig am eu bod yn cynrychioli'r terasau isel traddodiadol a arferai ddominyddu de canol y ddinas cyn ei ailddatblygu o'r 1960au ymlaen.Drwy ddynodi'r cilgant yn ardal gadwraeth nod y Cyngor yw cadw diddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig yr ardal.
Dechreuodd y broses ymgynghori ar 3 Hydref a daw i ben ar 28 Tachwedd.Bydd dwy sesiwn galw heibio fel rhan o arddangosfa wyth wythnos yn Amgueddfa Stori Caerdydd yn yr Aes.Bydd y ddwy sesiwn rhwngn 10am a hanner dydd ar ddydd Sadwrn 13 Hydref a dydd Llun 22 Hydref.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild:"Wrth i ganol y ddinas dyfu, mae'n bwysig cadw treftadaeth y ddinas.Gobeithio y bydd y cyhoedd yn rhoi eu barn drwy ddod i'r sesiynau galw heibio a thrwy ddod i'r wefan i anfon sylwadau atom."
Mae'r holl wybodaeth am y cynnig hwn ar gael ar y wefan drwy fynd iwww.caerdydd.gov.uk/cadwraeth