Mae Llyfrgelloedd a Hybiau Caerdydd yn ymuno â llyfrgelloedd eraill ledled y DU i nodi Wythnos Llyfrgelloedd, dathliad blynyddol o'r cyfleusterau sy'n annwyl i nifer o bobl.
Cynhelir Wythnos Llyfrgelloedd rhwng 8 a 13 Hydref ac eleni, mae'n tynnu sylw at lesiant a sut mae llyfrgelloedd yn dod â chymunedau ynghyd, yn mynd i'r afael ag unigrwydd, yn rhoi lle i bobl ddarllen a bod yn greadigol ac yn helpu eu hiechyd meddwl.
Bydd nifer o lyfrgelloedd a hybiau ar draws y ddinas yn hysbysebu eu stoc gan roi'r ffocws ar iechyd a llesiant, gan gynnwys llyfrau ynglŷn ag ymarfer corff, ioga, ymwybyddiaeth ofalgar ac ati, er mwyn tynnu sylw at y cyfoeth o adnoddau sydd ar gael yn y ddinas.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne:"Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn gyfle i ni ddathlu ein gwasanaeth llyfrgelloedd arbennig a'r llyfrgelloedd a'r hybiau arbennig sydd gennym yn ein cymunedau.
"Mae iechyd a llesiant dinasyddion yn elfen bwysig o waith y gwasanaeth ac mae nifer o lyfrau, gweithgareddau a digwyddiadau ein llyfrgelloedd a'n hybiau yn canolbwyntio ar wella llesiant pobl a'u hannog i gymryd rhan yn y gymuned leol er mwyn mynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol.
"Mae ystod y gwasanaethau a'r gweithgareddau sy'n cael eu cynnig yn ein llyfrgelloedd a'n hybiau cymunedol wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn ganolbwynt i'w cymunedau ac yn cynnig manteision go iawn i'r bobl leol.Mae hwn yn rhywbeth rydym yn bwriadu ei ddatblygu ymhellach wrth i ni ehangu ein rhaglen hybiau i greu hybiau llesiant yng ngogledd y ddinas."
Y llynedd, cynhaliodd llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd fwy na 500 o ddigwyddiadau megis sgyrsiau ag awduron a chyrsiau ysgrifennu'n greadigol i blant ac oedolion.Buddsoddodd y gwasanaeth fwy na hanner miliwn o bunnoedd a benthycwyd 1,406,637 o eitemau i 82,666 o fenthycwyr gweithredol y ddinas.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu ac wedi chwarae rôl allweddol yn datblygu cynllun ‘Reading Well for Dementia', sef ymgyrch a ddatblygwyd i helpu pobl sy'n dioddef o ddemensia. Yn rhan o'r cynllun, mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn dethol casgliadau o lyfrau, ar gael ym mhob llyfrgell a hyb yng Nghaerdydd, sy'n cynnwys gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n byw â demensia a'u gofalwyr, yn ogystal â ffuglen, cofiannau a llyfrau ffotograffig a ddefnyddir mewn therapi hel atgofion.
Drwy gydol Wythnos Llyfrgelloedd a'r wythnos ddilynol, ac wrth gadw at y thema llesiant, bydd llyfrgelloedd a hybiau yn darparu ystod o wahanol sesiynau ioga, gan gynnwys ioga ar gadair i bobl â phroblemau symudedd, ioga i bobl hŷn, pilates i fenywod beichiog a ioga ar gyfer iechyd meddwl.
Mae'r sesiynau wedi cael eu trefnu ar gyfer pobl nad ydynt efallai wedi rhoi cynnig ar ioga neu bilates o'r blaen, i dreialu'r gweithgaredd newydd am ddim yn amgylchedd cyfarwydd eu llyfrgell neu hyb lleol.
Lleoliad
| Sesiwn | Dyddiad | Amser
|
Hyb y Tyllgoed |
Ioga ar Gadair |
Dydd Iau 11 Hydref |
10am |
Hyb Llanisien
|
Ioga ar Gadair |
Dydd Iau 11 Hydref |
11.30am |
Hyb Powerhouse
|
Ioga i'r Meddwl a'r Corff |
Dydd Gwener 12 Hydref |
1pm |
Llyfrgell Rhiwbeina |
Ioga ar Gadair |
Dydd Llun 15 Hydref |
1.30pm |
Llyfrgell yr Eglwys Newydd |
Ioga i Bobl Hŷn |
Dydd Mercher 17 Hydref |
12.30pm
|
Llyfrgell Cathays |
Ioga ar Gadair |
Dydd Mercher 17 Hydref |
4pm |
Hyb Partneriaeth Tredelerch |
Ioga/Pilates Cyffredin |
Dydd Iau 18 Hydref |
11.30am |
Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd |
Pilates i Fenywod Beichiog | Dydd Iau 18 Hydref | 1.30pm |
Llyfrgell Treganna | Ioga i'r Meddwl a'r Corff | Dydd Gwener 19 Hydref |
12pm |
I gadw lle ar sesiwn ioga yn un o'n llyfrgelloedd neu hybiau, e-bostiwch llyfrgellganolog@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2078 0968 neu holwch yn eich llyfrgell/hyb lleol.
Bydd Hyb y Llyfrgell Ganolog hefyd yn cynnal gweithdy arlunio am ddim ddydd Mercher 10 Hydref, sef Diwrnod Cenedlaethol Iechyd Meddwl, i hyrwyddo sut y gall gweithgareddau creadigol megis arlunio wella llesiant drwy helpu pobl i ymlacio a theimlo'n hapusach ar ôl cymryd rhan.
Bydd y gweithdy dan arweinid arlunydd yn cael ei gynnal rhwng 11am a 12.30pm ac mae'n agored i bawb o bob gallu. Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.