Back
‘Menter hynod o wych' - rhaglen maeth ysgolion y Cyngor yn cipio'r wobr gyntaf mewn gwobrau pwysig y byd bwyd

Mae rhaglen cyfoethogi gwyliau'r ysgol (SHEP) Caerdydd a enillodd lawer o wobrau, Food and Fun (Bwyd a Hwyl) wedi ennill ei nawfed wobr yn y  Foodservice Catey Awards 2018 enwog.

Wedi ennill y wobr gyntaf yn y categori Cyfrifoldeb Corfforaethol a Chymdeithasol, y fenter amlasiantaeth sydd â’r nod o leihau’r unigedd â’r newyn a brofir gan deuluoedd yn ystod gwyliau’r ysgol, disgrifiwyd fel “Menter hynod o wych sy’n achos mor werth-chweil ac yn enwedig agwedd y gymuned gymdeithasol, ynghyd â’r gweithgareddau a’r mwynhad i blant.”    (Mark Philpott, perchennog a rheolwr-gyfarwyddwr, Vacherin)

Roedd sylwadau'r beirniaid eraill yn cynnwys:“Roedd ymagwedd Caerdydd sydd â sawl agwedd ac yn ystyriol at fynd i’r afael â newyn yn ystod y gwyliau yn creu argraff arbennig o dda oherwydd ei huchelgais ar gyfer effaith genedlaethol a gosod cynllun penodedig i eraill.”(Hayley Miller, pennaeth marchnata, CH&Co)

 “Dangosodd y cystadleuydd hwn ymagwedd gyfannol at gymunedau a gwerth cymdeithasol gwell – darn o waith rhagorol.”(Mike Hanson, pennaeth busnes cynaliadwy, Baxterstorey)

Mae Food and Fun yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd. Bwyd Caerdydd, Chwaraeon Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.Mae’n darparu elfen o addysg, gweithgareddau chwaraeon ac ansawdd, prydau iachus, wedi'u darparu mewn amgylchedd diogel sy’n meithrin ac yn hwyliog yn ystod gwyliau’r ysgol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:“Rwyf wrth fy modd bod Food and Fun wedi cipio gwobr arall, sy’n uno ymhellach y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud a’r effaith rhagorol y mae'r rhaglen yn ei chael ar blant Caerdydd.

“Gall adegau hir i ffwrdd o’r ysgol weithiau arwain at blant yn dibynnu ar fwyd nad yw’n iachus neu’n mynd heb brydau bwyd rheolaidd.Mae ein rhaglen SHEP yn sicrhau y gall y rhai sydd ei angen fwyaf gael mynediad at brydau bwyd iachus, sgiliau maethol, chwaraeon a gweithgareddau addysgol eraill, wrth hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol.

 “Mae’r elfennau hyn yn hanfodol i iechyd a lles cyffredinol plant yn ystod gwyliau’r ysgol yn ogystal ag yn ystod y tymor ac mae'r project yn enghraifft o sut y gall cynghorau gefnogi cymunedau, wrth annog agweddau cadarnhaol tuag at iechyd a deiet.”