Back
“Diolch i chi!”


Bydd digwyddiad arbennig i ddiolch i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd yn cael ei gynnal yn Hyb y Llyfrgell Ganolog yr wythnos nesaf.

 

Cyn Diwrnod y Cadoediad ar ddydd Sul 11 Tachwedd, sy'n nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, bydd y digwyddiad ar ddydd Iau 1 Tachwedd (10am - 3pm) yn dwyn sawl sefydliad ac elusen ynghyd sy'n cefnogi cyn-filwyr, gan gynnwys y Lleng Brydeinig, Help for Heroes a Change Step, er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr yn ddynion a merched ac i ddiolch iddynt am eu gwasanaeth.

 

Bydd gwybodaeth hefyd ar gael gan Safonau Masnach, Tîm Cyngor Ariannol y Cyngor, gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith a'r Ganolfan Dewisiadau Tai.

 

Bydd Sefydliad Clwb Pêl-droed yr Adar Gleision yn y digwyddiad hefyd i hyrwyddo eu project cyn-filwyr nhw, sydd mewn cydweithrediad â'r Lleng Brydeinig, yn ceisio defnyddio grym pêl-droed i ymgysylltu â chyn-filwyr hŷn, sydd wedi eu hallgau yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ac na fyddai fel rheol yn cyflwyno'u hunain i wasanaethau cymorth i gyn-filwyr. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng Lynda Thorne:"Mae ein digwyddiad diolch yn Hyb y Llyfrgell Ganolog yn gyfle i ddangos ein gwerthfawrogiad ac i anrhydeddu ein cymuned Lluoedd Arfog.

"Wrth i ni ddynesu at ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae'n bwysig i ni gofio cyfraniad cymaint o feibion a merched Caerdydd dros y 100 mlynedd diwethaf.

Mae Caerdydd yn llofnodwr i Gyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n cydnabod yr aberth a wnaed gan y Lluoedd Arfog ac yn annog dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'r problemau sy'n effeithio ar gyn aelodau'r lluoedd.Rydym yn ymrwymedig i helpu cymuned y lluoedd i ymaddasu i fywyd bob dydd yn y ddinas ac mae llawer o'r gwasanaethau a fydd i'w gweld yn y digwyddiad diolch yr wythnos nesaf yn gwneud hynny'n union."

 

Bydd munud o dawelwch yn ystod y digwyddiad am 1pm pan fydd cadetiaid môr a byddin yn ymsythu ym mhob rhan o adeilad hyb y llyfrgell.

 

Mae croeso hefyd i aelodau'r cyhoedd fynychu'r digwyddiad yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.