Back
Cynlluniau i fuddsoddi ym mannau agored cyhoeddus Adamsdown


 

Mae cynigion i fuddsoddi dros £1m mewn mannau agored cyhoeddus yn ardal Adamsdown y ddinas wedi eu datgelu.

 

Mae cynlluniau gwella dyluniad ar gyfer naw o barciau, meysydd chwarae neu ardaloedd agored cyhoeddus yn y ward yn cael eu dwyn ger bron er mwyn gwella'r amgylchedd lleol i breswylwyr.

 

Mae gwerth dros £1m o gyllid Adran 106 ar gael ar gyfer y cynlluniau a allai gynnwys offer newydd neu wedi ei ailwampio mewn parciau yn yr ardal, creu Ardaloedd Gemau Aml-Ddefnydd (AGADd), trwsio ac uwchraddio llwybrau cerdded, plannu coed hardd a chyfleoedd ar gyfer gardd gymunedol neu ofod plannu yn yr ardal.

 

Yr ardaloedd sydd ar y gweill i fod ar eu hennill yw Parc y Fynwent, Parc y Bragdy, Caeau Anderson, Adamsdown Square, Gerddi Howard, Adamscroft Place, Tharsis Close, Star Street a Blanche Street.

 

Dywedodd yr Aelod cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cyng Peter Bradbury:"Mae hwn yn gyfle gwych i ni fuddsoddi ym mannau agored cyhoeddus Adamsdown ac rydym yn awyddus i glywed barn y bobl sy'n byw gweithio yno ynghylch sut y gallwn wella'r ardal.

 

Rydym wedi creu nifer o syniadau felly dyma'r cyfle i bobl roi gwybod i ni beth maen nhw'n ei feddwl cyn i ni greu dyluniadau mwy manwl a chynlluniau gweithredu ar gyfer y cynlluniau hyn."

 

Bydd y gymuned leol yn gallu canfod mwy am y cynigion a holi cwestiynau mewn dau ddiwrnod agored yn yr ardal.Bydd y tîm datblygu parciau ym mharc y Bragdy (ochr Nora St) ar ddydd Llun, 29 Hydref, 10am-6pm ac yng Nghaeau Anderson ar ddydd Gwener 2 Tachwedd 10am - 6pm er mwyn rhoi mwy o wybodaeth.

 

Gall aelodau'r cyhoedd hefyd gael dweud eu dweud ar y gwelliannau drwy gwblhau'r arolwg ar-lein

(https://www.surveymonkey.co.uk/r/adamsdowncymraeghttps://www.surveymonkey.co.uk/r/adamsdownenglish  Mae'r arolwg yn cau ar 19 Tachwedd