Back
Caerdydd yn bachu ar y cyfle i greu cwricwlwm G21

Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnal  Confensiwn  Mae Addysg yn Bwysig i Bawb 2018,  gan fachu ar y cyfle i siapio cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn treialu cwricwlwm newydd o 2019, a fydd yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru erbyn 2022. Bydd mwy o bwyslais ynddo ar baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd, adeiladau ar eu gallu i ddysgu sgiliau newydd a defnyddio'u gwybodaeth pwnc yn fwy cadarnhaol a chreadigol. 

Roedd bron iawn i 300 o bobl yng nghonfensiwn Cyngor Caerdydd, a ddaeth ag addysgwyr ynghyd â phlant a phobl ifanc, a chynrychiolwyr o'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, gan roi gwell dealltwriaeth o'r hyn sydd yn bwysig pan ddaw hi'n fater o gyflenwi cwricwlwm newydd. 

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Rwyf am i hwn fod yn ddechrau sgwrs ddinesig ehangach am ddyfodol addysg yn ein dinas.Mae cyfle unwaith mewn cenhedlaeth gennym i foderneiddio yr hyn a gaiff ei addysgu, a sut y caiff ei addysgu.

"Cyflwynwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol gyntaf i Gymru ym 1988. Mae'r byd wedi newid llawer oddi ar hynny.Mae newid economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn cyflymu a chyflymu, ac mae angen i'r ffordd rydym yn meddwl am addysg ddala lan. 

"Mae angen i ni feddwl yn wahanol, er mwyn helpu ein pobl ifanc i fod yn greadigol ac ymholgar. Ie, i wybod y ffeithiau a ffigyrau, ond yn bwysicach na hynny, i'w helpu i ddehongli a dadansoddi, i wahanu ffaith a ffuglen, ac uwchlaw popeth, i holi cwestiynau da. 

"Mae cyfle gennym i greu system addysg sy'n gwneud y pethau hyn a mwy.Ond megis dechrau mae'r gwaith caled ac mae angen i ni gyd gymryd yr uchelgeisiau hyn a'u troi nhw'n real mewn ystafelloedd dosbarth, cartrefi a busnesau ar draws y ddinas. 

Dechreuodd y confensiwn yn y prynhawn, gyda marchnad â stondinau o'r sector busnes ac addysg, a gweithdai a oedd yn cynnwys: y bartneriaeth addysg greadigol; iechyd meddwl a llesiant; cyfleoedd dysgu cymwysedig mewn cwricwlwm newydd; ac ysgolion fel sefydliadau dysgu. 

Cyflwynydd y sesiwn lawn gyda'r nos oedd Connor Clarke, myfyriwr Blwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, ac aelod o'r Senedd Ieuenctid a Chyngor Ieuenctid Caerdydd.

Victor Ciunca, Tom Allabarton a Chloe Burrage o Gyngor Ieuenctid Caerdydd, oedd y siaradwyr cyntaf i annerch y gynulleidfa.Siaradon nhw am bwysigrwydd cael eich ysbrydoli, dysgwyr gwydn, ymgysylltu ystyrlon â phobl ifanc, a pharch, a chydweithredu. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes Cyngor Caerdydd, Nick Batchelar:"Mae'r bobl ifanc yn siarad yn y confensiwn wedi ein hatgoffa ni o'u neges eglur a chyson: mae addysg yn mynd y tu hwnt i wybodaeth a sgiliau; mae'n ymwneud â chreu cyfleoedd.Mae angen i ni sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn rhoi yr union beth y mae ein plant a'n pobl ifanc yn chwilio amdano yn eu haddysg a'u hyfforddiant. 

"Yr her allweddol i ni oll yw cydnabod maint y newid sydd ei angen; mae'n rhaid i ni ail-ddychmygu ysgolion ac addysgu.Bydd sgiliau ac egni ein hathrawon a staff ein hysgolion yn mynd lawer o'r ffordd i'n helpu ni i gyflawni hyn, ond allan nhw ddim ei wneud ar eu pennau eu hunain.Mae safbwyntiau cyflogwyr, cymunedau, plant, pobl ifanc a rhieni hefyd yn hollbwysig.Mae Addysg yn bwysig i bawb." 

Cymerodd yr Athro Graham Donaldson ran yn y confensiwn hefyd.Yr Athro Donaldson yw awdur  ‘Dyfodol Llwyddiannus', a fwydodd gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol newydd.

Ar y llwyfan gydag ef yr oedd Ann Griffin, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd, Yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru, Ndidi Spencer, Prif Weithredwr Academy Plus, a'r Athro Steven Pemberton, Canolfan Ymchwil Cenedlaethol Mathemateg a Gwybodeg yr Iseldiroedd.Fe gymeron nhw ran mewn sesiwn holi ac ateb dan arweiniad Gohebydd Economaidd BBC Cymru, Sarah Dickens. 

Rhoddwyd y prif anerchiad gan yr Athro Steven Pemberton, o Ganolfan Ymchwil Cenedlaethol Mathemateg a Gwybodeg yr Iseldiroedd.Roedd yr Athro Pemberton yn allweddol wrth wneud y rhyngrwyd a'r We Fyd Eang yr hyn ydyw heddiw.Disgrifiodd fel yr oedd newid technolegol yn cyflymu flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mai'r genhedlaeth bresennol yw'r brodorion digidol cyntaf. 

Plant o Ysgol Pencae ac Ysgol Nant Caerau yn rhoi perfformiad cerddorol yn y confensiwn.