Back
Gwireddu’r addewid: Tai Cyngor newydd i Gaerdydd

 

 


Bydd y tai cyngor newydd cyntaf fydd yn cael eu gwireddu fel rhan o raglen adeiladu tai flaenllaw'r Cyngor, Cartrefi Caerdydd, yn cael eu trosglwyddo i'r Cyngor yr wythnos hon.

 

Bydd dau gartref â dwy ystafell wely i'w rhentu yn Nhŷ To Maen yn Llaneirwg yn cael eu trosglwyddo i'r Cyngor gan ei bartner datblygu, Wates Residential, ar 9 Tachwedd.Bydd 11 o dai cyngor newydd yn cael eu trosglwyddo ar safleoedd yn Llanrhymni a Llaneirwgcyn diwedd mis Tachwedd, a chyfanswm o 63 eiddo erbyn diwedd mis Mawrth 2019.

 

Mae'r ddau dŷ, sydd wedi'u hadeiladu i fodloni lefelau uchel o gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni, yn rhan o ddatblygiad bychan sydd hefyd yn cynnwys chwe chartref â thair ystafell wely, fydd yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored.

C:\Users\c080012\AppData\Local\Microsoft\Windows\Temporary Internet Files\Content.Outlook\HPK0JPZY\IMG_0779.JPG

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:"Rydym wedi bod yn edrych ymlaen at y trosglwyddiad hwn o'r tai cyngor newydd cyntaf, ac rwy'n falch iawn, o fewn ychydig wythnosau, y byddwn yn rhoi allweddi'r tai newydd o safon hyn i denantiaid newydd."

 

Dechreuodd y gwaith ar y tai cyntaf yn y Cynllun Cartrefi Caerdydd ym mis Mawrth y llynedd.Bydd y cynllun yn cyflawni oddeutu 1,500 o dai newydd; bydd 600 ohonynt yn dai cyngor, ar dir ym mherchnogaeth y cyngor ledled y ddinas. Mae'r datblygwr, Wates Residential, ar hyn o bryd yn gweithio dros bum cynllun, gyda phum arall eisoes wedi cael caniatâd cynllunio.Bydd y 10 o safleoedd hyn yn cyflenwi 195 o gartrefi cyngor newydd a 291 o gartrefi i'w gwerthu ar ôl eu cwblhau.

C:\Users\c080012\AppData\Local\Microsoft\Windows\Temporary Internet Files\Content.Outlook\HPK0JPZY\IMG_0781.JPG

 

Parhaodd y Cyng. Thorne:"Mae'r tai cyngor newydd yn Nhŷ To Maen ymhlith y cyntaf o oddeutu 60 o dai sydd wedi'u cwblhau, ac rydym yn disgwyl mwy erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Rydym yn deall pa mor bwysig yw cael tai fforddiadwy o safon, a chyda rhestr aros tai hir iawn yn y ddinas, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â'r pwysau cynyddol i gynnig tai o safon i bobl sydd eu hangen nhw.

 

"Mae Cartrefi Caerdydd yn canolbwyntio ar gyflawni tai fforddiadwy i'w gwerthu, ynghyd â'u rhentu gan y Cyngor, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o weld llwyddiant gwerthiannau marchnad agored y cynllun. Mae pob eiddo sydd wedi'i ryddhau hyd yn hyn wedi'i werthu ac mae'r preswylwyr cyntaf ar ein datblygiadau yn Llanrhymni, sy'n bennaf yn brynwyr lleol gyda chysylltiadau presennol â'r ardal, yn mwynhau setlo i mewn i'w cartrefi newydd.

 

"Rydym wedi profi bod marchnad leol ar gyfer tai fforddiadwy o safon mewn ardaloedd nad ydynt o anghenraid yn ddeniadol i ddatblygwyr preifat, ac mae safle bychan fel Tŷ To Maen yn enghraifft wych o hyn.Mae Wates Residential wedi gweithio'n agos gyda'r gymuned leol yna, gan greu perthnasau da, sy'n hanfodol wrth i ni geisio sicrhau bod ein datblygiadau newydd yn fuddiol i gymunedau presennol ac yn helpu i adfywio a gwella'r amgylchedd i bob preswylydd lleol."

 

Nododd Paul Nicholls, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Residential:"Mae cwblhau'r cartrefi newydd o safon hyn yn Nhŷ To Maen yn nodi cam positif arall yn ein partneriaeth hirsefydlog gyda Chyngor Caerdydd i gyflawni rhaglen adeiladu tai a fydd yn trawsnewid y sefyllfa ledled y ddinas.

 

"Rydym yn edrych ymlaen at roi cyfle i nifer o bobl leol i symud i mewn i'w cartrefi newydd dros y misoedd nesaf wrth i ni barhau i greu safleoedd newydd ledled Caerdydd."

 

Mae gan Gyngor Caerdydd darged o adeiladu 1,000 o dai cyngor newydd yn y ddinas erbyn Mai 2022, a 1,000 o dai i ateb y galw cynyddol mewn blynyddoedd i ddod.