BackCanllaw cyllideb 2019/20
Y Gyllideb Refeniw
- Y gyllideb refeniw yw'r swm o arian y mae gan y Cyngor i'w wario ar wasanaethau bob dydd
- Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys rhedeg ein hysgolion, gofalu am bobl sy'n agored i niwed, casglu gwastraff, cynnal a chadw priffyrdd a pharciau a gweithredu llyfrgelloedd a lleoliadau diwylliannol.
- Gwariant refeniw yw'r costau a eir atynt wrth ddarparu'r gwasanaethau hyn ac incwm refeniw yw'r incwm y mae'r gwasanaethau hyn yn ei greu.
- Dyma'r prif fathau o wariant ac incwm refeniw:-
- Costau Cyflogeion- talu cyflogau staff sy'n darparu'r gwasanaeth megis athrawon, casglwyr gwastraff, gweithwyr cymdeithasol a llyfrgellwyr.
- Costau Safleoedd- gwres, golau, glanhau ac atgyweirio ein hadeiladau
- Costau Trafnidiaeth- gweithredu ein fflyd o gerbydau gan gynnwys cerbydau casglu gwastraff, a cherbydau grutio ac ysgubo
- Nwyddau- er enghraifft offer swyddfa, deunyddiau addysgu, teleffoni a TG
- Gwariant allanol arall- er enghraifft talu pobl eraill sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau megis darparwyr gofal a gofalwyr maeth, talu cymorthdaliadau i gyrff megis y Gwasanaeth Tân neu dalu Cymorth y Dreth Gyngor i dderbynwyr cymwys.
- Ariannu cyfalaf- ad-dalu dyled a llog ar fenthyciadau i ariannu gwariant cyfalaf.Mewn cyd-destun personol byddai hyn yn debyg i ad-daliadau morgais neu fenthyciad
- Incwm penodol- Mae'n bosibl y cawn ni Grant Llywodraeth ar gyfer menter benodol - grantiau penodol yw'r rhain a rhaid eu defnyddio at ddiben penodol ac mae telerau ac amodau llym ynghlwm wrthynt.Gellir hefyd greu incwm trwy gostau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaeth, er enghraifft mynediad i'r castell, mynd i'r theatr, rheoli plâu, gwasanaethau profedigaeth.
- Gan ystyried incwm a gwariant refeniw, cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2018/19 yw £609 miliwn
- Mae tua 65% o'r £609 miliwn yn cael ei wario ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.
- Ariennir y gyllideb £609 miliwn trwy gyfuniad o arian grant cyffredinol gan LlC, y dreth gyngor ac arian wrth gefn:-
Y Rhaglen Gyfalaf
- Mae'r rhaglen gyfalaf yn adlewyrchu'r hyn mae'r Cyngor yn bwriadu ei wario ar greu asedau newydd neu wella asedau cyfredol.
- Yn syml, gwariant cyfalaf yw'r gwariant a ddylai fod o fudd i'r Cyngor am nifer o flynyddoedd.
- Mae enghreifftiau'n cynnwys costau sy'n gysylltiedig ag adeilad ysgol, adnewyddu adeiladu neu atgyweirio'r priffyrdd (mwy nag atgyweirio ceudyllau).
- Yn debyg i'r gyllideb refeniw, mae cynghorau'n derbyn rhywfaint o arian grant penodol a chyffredinol i ategu gwariant cyfalaf.Fodd bynnag, heblaw am hynny, mae rhai gwahaniaethau sylweddol i sut mae gwariant cyfalaf yn cael ei ariannu.
- Un o'r rhain yw y caniateir i Gynghorau fenthyca er mwyn ariannu gwariant cyfalaf.Gallant hefyd werthu asedau cyfredol i brynu rhai newydd, neu i fuddsoddi mewn adnewyddu rhai eraill.
- NI chaniateir benthyca i ariannu gwariant refeniw ac ni allwn ei ariannu trwy werthu asedau ychwaith.
- Mae hyn yn gwneud synnwyr, os ydych yn meddwl amdano mewn cyd-destun personol.Yn gyffredinol, ni fyddech yn cael benthyciad i brynu bwyd, ond mae'n bosibl y byddech yn ystyried benthyca i ariannu rhywbeth a fyddai o fudd i chi neu eich plant am nifer o flynyddoedd, fel eich tŷ neu gar.
- Wrth benderfynu a ddylid benthyca a faint, rhaid i'r Cyngor ystyried pethau y byddech chi'n eu hystyried o bosibl pe baech yn cael benthyciad neu forgais.Er enghraifft, ydy'r ad-daliadau'n fforddiadwy, am faint bydd yr hyn rydych yn ei brynu yn debygol o bara?Mae'r cwestiynau hyn yn bwysig oherwydd, mewn cyd-destun Cyngor, rhaid talu'r llog a'r ad-daliadau sy'n gysylltiedig â'r benthyciad gyda'r gyllideb refeniw.
- Pethau eraill y gallai'r Cyngor eu hystyried wrth gael benthyciad yw a fyddai'n creu incwm ychwanegol i'r Cyngor a allai ei helpu i dalu ad-daliadau benthyca yn y dyfodol (buddsoddi i arbed.)