Back
Rhentu Doeth Cymru yn cael ad-daliad rhent o £22,000

 


Mae Rhentu Doeth Cymru, y cynllun cofrestru a thrwyddedu ar gyfer landlordiaid ac asiantau ag eiddo yng Nghymru, wedi gwneud cais llwyddiannus am gael ad-daliad o dros £22,000 a dalwyd i landlord heb drwydded.

 

Mae Yvette Phillips, Robert Street, Aberdaugleddau, wedi ei gorchymyn i ad-dalu £22,357.71 o fudd-daliadau tai a dalwyd iddi tra roedd yn gweithredu'n anghyfreithlon yn dilyn cais llwyddiannus am Orchymyn Ad-dalu Rhent gan Rentu Doeth Cymru i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru), y tribiwnlys annibynnol ar gyfer datrys gwrthdaro sy'n berthnasol i eiddo rhent preifat a phrydles.

 

Llynedd, Mrs Phillips oedd yr asiant masnachol cyntaf i gael ei herlyn am weithredu heb drwydded, yn masnachu fel yr asiant tai R Miles Scurlock, Aberdaugleddau.Cyflwynodd Llys yr Ynadon Caerdydd ddirwy o £4,600 iddi am dair trosedd a chostau llys o £671 a thâl dioddefwr o £170.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Tai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, yr awdurdod trwyddedu sengl dros Rentu Doeth Cymru: "Gall diffyg cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru fod yn fusnes drud i landlordiaid sy'n meddwl y cânt weithredu yn anghyfreithlon. Yn ogystal â dilyn mesurau gorfodi megis hysbysiadau tâl penodedig trwy'r llysoedd, pan fo'n addas, bydd Rhentu Doeth Cymru yn gwneud cais am orchmynion ad-dalu rhent i sicrhau nad yw landlordiaid sydd wedi eu cael yn euog yn gwneud elw o'u gweithredoedd anghyfreithlon.

 

"Dylai'r holl landlordiaid sy'n dal heb gofrestru a heb drwydded ofyn i'w hunain a allant fforddio peidio â chydymffurfio, a dylent gymryd y camau angenrheidiol i wneud hynny heb oedi."