Back
Hwb plannu i’r ddinas yn ystod Wythnos Coed Cenedlaethol

 

Bydd tua 250 o goed newydd yn cael eu plannu yn y ddinas eleni, gan gynnwys 100 o goed newydd ym mharciau'r ddinas.

 

I nodi Wythnos Coed Cenedlaethol (24 Tachwedd - 2 Rhagfyr), sef yr ymgyrch flynyddol gan y Cyngor Coed i hyrwyddo pwysigrwydd a gwerth coed, ymunodd aelodau ward lleol a disgyblion o Ysgol Gynradd Severn â'r Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a hamdden, y Cyng Peter Bradbury, i blannuCoed Ceirios yr Hydrefnewydd ym Mharc Thompson, Treganna heddiw.

 

Mae'rCoed Ceirios yr Hydrefnewydd yn rhan o raglen 2018/19 y Cyngor a fydd yn gweld 250 o goed yn cael eu plannu ym mhob cwr o'r ddinas, gan helpu i wella'r amgylchedd lleol.

 

Diolch i gefnogaeth gan broject Canopi Coed Caerdydd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, sef Coed i Ddinasoedd, Dŵr Cymru, Barcham's Trees a Grant GI Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd yn ariannu coed coffa er cof am anwyliaid, bydd coed yn cael eu plannu ar strydoedd sydd wedi colli eu coed o fewn y ddinas ac ar safleoedd newydd ar hyd y prif ffyrdd er mwyn helpu i leihau llygredd.Bydd parciau'r ddinas hefyd yn elwa gyda 100 o goed newydd ar fin bwrw'u gwreiddiau.

 

Dywedodd y Cyng Peter Bradbury:"Roeddwn i'n falch dros ben i nodi Wythnos Coed cenedlaethol ym Mharc Thompson heddiw, drwy blannu coed newydd a rhai yn lle hen goed a gaiff eu mwynhau gobeithio gan ymwelwyr y parc am genedlaethau i ddod.Rydym yn hynod ddiolchgar i'n partneriaid ac i noddwyr preifat sydd wedi ein galluogi i gyflawni'r rhaglen eleni, sy'n tanlinellu ein hymrwymiad i sicrhau fod hyfywedd stoc coed y Cyngor yn cael ei gynnal.

 

"Mae rhaglen eleni yn canolbwyntio ar ardaloedd y ddinas sydd ag ychydig yn unig o ganopi coed megis Grangetown, Sblot, Adamsdown a Butetown yn ogystal â gosod coed newydd yn lle rhai a gollwyd o barciau yng Nglan-yr-afon, Treganna a'r Tyllgoed, ac ystadau tai lle bu'n rhaid symud coed."