Back
Y cymorth iawn ar yr adeg iawn


Mae cynnig y cymorth iawn ar yr adeg iawn i helpu'r rheiny sy'n wynebu neu'n profi digartrefedd wrth galon strategaeth newydd i fod yn gymorth i ddinasyddion agored i niwed Caerdydd.

 

Mae Strategaeth Digartrefedd Cyngor Caerdydd yn gosod gweledigaeth yr awdurdod i weithio gyda phartneriaid i atal digartrefedd a sicrhau y caiff anghenion tai pobl y ddinas eu diwallu drwy gynnig cymorth amserol a phriodol.

 

Mae'r strategaeth pedair blynedd wedi ei datblygu i fynd i'r afael â chanfyddiadau adolygiad cynhwysfawr ar ddigartrefedd ar hyn o bryd a gwasanaethau cynghori a ddarperir gan y Cyngor a'i bartneriaid, gan ganolbwyntio ar themâu allweddol cyngor, atal, llety a chymorth. Casglodd yr adolygiad farn hefyd gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau eu hunain.

 

Mae'r galw am wasanaethau digartrefedd wedi tyfu'n sylweddol yng Nghaerdydd. Mae ceisiadau cymorth wedi codi 68% ers mis Ebrill 2015, gyda chynnydd o 103% yn nifer yr anheddau sy'n wynebu bod yn ddigartref.

 

Mae prif achosion digartrefedd a bygythiad digartrefedd wedi eu hamlinellu yn y strategaeth sef materion ariannol, teuluoedd yn chwalu, a materion cymhleth yn deillio o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod sy'n rhwystro pobl rhag dal gafael ar lety. Mae pwysedd ychwanegol wedi ei greu gan gostau uchel a lleihad yn yr eiddo llety preifat sydd ar gael i'w rhentu yn y ddinas.

 

Tra bod gwasanaethau yng Nghaerdydd yn atal digartrefedd mewn nifer fawr o achosion, bydd llawer ond yn ceisio cymorth pan yw'n rhy hwyr.  Mae'r cyngor wedi ymrwymo i gynyddu hygyrchedd gwasanaethau i atal digartrefedd.  Mae angen hefyd i weithio gyda'r bobl sy'n fwyaf agored i niwed i fynd i'r afael â'r rhesymau gwaelodol dros ddigartrefedd, gan gynnig y cymorth iawn ar yr adeg iawn.

 

Bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni yr ymrwymiadau a nodir yn y Strategaeth. Bydd hyn yn cynnwys cynnig mwy o gyngor a gwasanaethau atal digartrefedd yn y gymuned trwy gyfrwng yr Hybiau ac ymweliadau cartref pan fo'n angenrheidiol; gwell cymorth i landlordiaid preifat a datblygu ymagwedd aml-asiantaeth i gefnogi unigolion ag anghenion cymhleth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae yna waith gwych yn cael ei wneud yn y ddinas i atal a mynd i'r afael â digartrefedd ond mae lawer i'w wneud eto.

 

"Mae'r galw am ein gwasanaethau digartrefedd ar gynnydd ac er bod y gwaith ymyrraeth gynnar yn atal 73% o aelwydydd a geisiodd gael help gennym rhag mynd yn ddigartref y llynedd, mae'r pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau yn parhau.

 

Mae'n hanfodol fod pobl yn ceisio cymorth gennym cyn gynted ag y teimlant eu bod dan fygythiad o golli eu cartref ac mewn llawer achos, gallwn gynnig cymorth a chyngor fydd yn eu hatal rhag colli eu cartrefi.

 

"Gwyddom y gall diffyg tai sefydlog effeithio ar iechyd corfforol, iechyd meddyliol a llesiant unigolyn, gan ei gwneud yn anos dod o hyd i swydd a chynnal perthnasoedd.Felly drwy sicrhau bod datrysiadau tai a chymorth o ansawdd da gennym, gallwn greu'r sylfaen i bobl allu mynd i'r afael â'u problemau a chyflawni'r canlyniadau gorau posib.

 

"Gall effeithiau digartrefedd fod yn bellgyrhaeddol, nid dim ond i'r unigolyn ond i'r ddinas gyfan, ac ar y cyd â phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a'r trydydd sector, rwy'n ymrwymedig i fynd i'r afael ag achosion ac effeithiau digartrefedd a pharhau i hwyluso newid effeithiol."

 

Bydd y Cabinet yn ystyried Strategaeth Digartrefedd 2018-2022 yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 13 Rhagfyr. Byddan nhw hefyd yn ystyried rhai diwygiadau i Gynllun Dyrannu Tai Caerdydd er mwyn helpu i fynd i'r afael â nifer o ganfyddiadau yn yr adolygiad ar ddigartrefedd gan gynnwys lleihau'r cyfnod o amser y mae aelwydydd yn ei dreulio mewn llety dros dro a gwella cyfraddau symud ymlaen o hosteli a phrojectau tai â chymorth.

 

Bydd y Cabinet hefyd yn derbyn diweddariad ar gynnydd rhoi Strategaeth Cysgu ar y Stryd 2017-2020 ar waith.